Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd MSc Arwain Gwella Ansawdd yn eich cefnogi i fod yn arbenigwr mewn gwella ac arloesi ym maes ansawdd gofal iechyd yn seiliedig ar effeithiolrwydd (defnyddio tystiolaeth); effeithlonrwydd (dibynadwyedd gwasanaeth); a derbynioldeb (profiad y defnyddiwr gwasanaeth). Gan ddefnyddio ymchwil blaenllaw yn seiliedig ar dystiolaeth byddwn yn sicrhau y gallwch chi, fel y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr gwella ac arloesi, ddefnyddio'r dystiolaeth hon wrth ymarfer - gwireddu ymchwil, a chael effaith uniongyrchol ar ansawdd gwasanaethau rheng flaen.
Byddwch yn datblygu sgiliau i'ch helpu i nodi ac archwilio problemau a chyfleoedd er mwyn rhoi atebion gwerthfawr i wella gofal iechyd yn ymarferol. Cefnogir hyn i gyd trwy ddatblygu eich meddwl beirniadol a'ch gallu i ymchwilio i'r problemau a'r cyfleoedd rydych yn eu hwynebu, a'ch helpu i nodi atebion blaengar. Byddwn yn eich helpu i gael dealltwriaeth o’ch dewisiadau a'ch arddulliau arweinyddiaeth eich hun er mwyn arwain a herio eraill i ddatblygu gwasanaethau iechyd.
Mae hwn yn gymhwyster eang iawn sy'n apelio at amrywiaeth eang o bobl mewn swyddi clinigol ac anghlinigol sy'n gweithio mewn unrhyw faes lle mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu lle mae’r ddarpariaeth yn cael ei monitro. Rydym yn denu myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol iawn gan gynnwys nyrsio; meddygol; gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig (e.e. gweithwyr proffesiynol therapi; parafeddygon; staff labordai); y GIG a rheolaeth gofal iechyd ehangach, Coleg Brenhinol y Nyrsys Milfeddygol a newyddiaduraeth.
Rhoddir sylw i'r elfennau o wella ansawdd, yn cynnwys polisi cyhoeddus a strategaeth sefydliadol; llywodraethu a rheoli risg; arweinyddiaeth; newid ymddygiad proffesiynol; a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r MSc yn canolbwyntio ar ymchwil i addysgu trwy weithredu arbenigedd ymchwil yr Ysgol.
Cewch eich cefnogi gan arweinydd y rhaglen, Dr David Evans sydd â dros 15 mlynedd o brofiad o arwain timau mawr, ym maes gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys swyddi ar lefel bwrdd mewn gwasanaethau ysbytai acíwt a chymunedol, yn y DU a'r Dwyrain Canol. Ei swydd flaenorol oedd arwain timau cymunedol oedolion a phlant ar hyd a lled Manceinion (1,200 o staff, cyllideb o £40m), roedd hyn yn cynnwys arwain a datblygu timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Yn ogystal â hyn, cyd-gynhyrchodd weledigaeth 2020 a model cyflenwi newydd ar gyfer pobl hŷn bregus a phobl â dementia, fel rhan o gynllun strategol yn ninas Manceinion. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu llwybrau gofal ar gyfer gwasanaethau deintyddol ym mhob rhan o Gymru.
Gallwch astudio'r MSc hwn yn llawn amser mewn blwyddyn. Mae llawer o'n myfyrwyr wedi dewis astudio ein rhaglen ran-amser, a gwblheir dros dair blynedd, lle mae’n rhaid bod ar safle'r brifysgol oddeutu 15 diwrnod bob blwyddyn. Fel myfyriwr rhan-amser, bydd angen i chi neilltuo 1 diwrnod yr wythnos i’ch dysgu. Nid yw'r diwrnod hwn bob amser yn y dosbarth, ond gall gynnwys sesiynau hyfforddi a goruchwylio, neu ddysgu a darllen dan eich cyfarwyddyd eich hun. Bydd sesiynau a thiwtorialau hyfforddedig yn cael eu cyflwyno yn y dosbarth (yn amodol ar ofynion Covid-19) ac ar-lein ac yn gyffredinol rydym yn ceisio cyfyngu'r rhain - ar gyfer myfyrwyr rhan amser - i 3 awr yr wythnos. Bydd angen i fyfyrwyr llawn amser, ar gyfartaledd, neilltuo tri diwrnod yr wythnos i ddysgu a chefnogi. Yn ogystal â hyn, rydym yn eich cefnogi trwy ddeunydd ar-lein, tiwtorialau ac arweiniad.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn meddwl yn wahanol am broblemau, a sut y gallwch ddefnyddio'ch dysgu i ddatrys y problemau hynny. Byddwch hefyd yn datblygu rhwydwaith rhwng eich cyd-fyfyrwyr a fydd yn cefnogi datblygiad eich gyrfa.
Fideo- MSc Arwain Gwella Andawdd ym Mhrifysgol Bangor
Tystebau
“Gan fy mod yn gweithio mewn gwasanaeth GIG prysur yn ystod fy astudiaethau, roedd y cwrs yn cyd-fynd yn dda â fy llwyth gwaith proffesiynol wrth i mi gwblhau’r rhaglen ran amser. Yr elfen a oedd yn sefyll allan oedd bod y tiwtoriaid yn deall yn iawn bod y rhai ar y rhaglen yn gweithio mewn swyddi prysur a heriol iawn a byddent yn gweithio o amgylch y llwyth gwaith proffesiynol a oedd gennym i gyd.“ George Williams
“Roedd y cwrs yn hynod werthfawr i mi gan fod gennyf ddiddordeb mawr yn fy ngyrfa nyrsio nawr i gefnogi staff i wella'n gyson a meddwl yn feirniadol am ein darpariaeth gofal cleifion. Roedd y cwrs hwn wedi rhoi dulliau i mi a dealltwriaeth ddyfnach o'r materion/rhwystrau/hwyluswyr ehangach i werthuso a chyflawni gwelliannau o ran ansawdd. Rhoddodd yr hyder i mi hefyd i roi cynnig arni.” Jen Jones
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o ymchwil berthnasol a dulliau ysgolheigaidd y gellir eu cymhwyso i wella ansawdd mewn gofal iechyd a gwybodaeth ymarferol am sut y gallai hynny arwain at wella prosesau a deilliannau gwasanaethau a datblygu syniadau/polisi ymchwil. Bydd hyn yn eich galluogi i hyrwyddo gwelliannau mewn nifer o leoliadau gofal iechyd modern.
Byddwch yn gallu mynegi cysyniadau a chyd-destun eich gwaith proffesiynol yn effeithiol yng nghyswllt gwahanol elfennau ansawdd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol sylfeini damcaniaethol ac empirig sydd i wahanol elfennau gwella ansawdd (e.e. Newid Ymddygiad Proffesiynol, Llywodraethu, Asesu Risg, Dulliau Gwella Ansawdd a Chyfraniad Defnyddwyr Gwasanaeth.) Cewch eich dysgu i ddefnyddio dulliau priodol i ddatblygu syniadaeth ac ymarfer yng nghyd-destun her ansawdd gofal iechyd sy'n berthnasol i flaenoriaethau eich sefydliad, a dysgu sut i ddatrys materion cymhleth sefydliadol ac ymarfer. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau technegol uwch mewn o leiaf un dull o wella ansawdd (e.e. synthesis tystiolaeth ac arfarnu; mesur ac ymateb i berfformiad; ac ymwneud â defnyddwyr).
Erbyn diwedd y rhaglen byddwch wedi datblygu sgiliau cadarn gan gynnwys:
- Deall y dulliau i sicrhau newid a mesur effaith.
- Rhoi prawf ar ddulliau mewn amgylchedd go iawn.
- Gwybod sut y gallwch, trwy arweinyddiaeth, gyflawni'r canlyniadau gwella gorau.
- Dod yn arweinydd proffesiynol y genhedlaeth nesaf trwy eich sgiliau meddwl beirniadol.
- Deall sut i ddatblygu a darparu eich ymchwil eich hun.
- Defnyddio tystiolaeth a gwneud y ddadl berswadiol.
- Dangos eich profiad mewn newid ar sail tystiolaeth.
Addysgu, Dysgu ac Asesu
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau yn ystod y cwrs hwn gan ganolbwyntio ar ddysgu ar-lein, tiwtorialau, seminarau a gwaith grŵp a darlithoedd. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys rhai elfennau o astudiaeth maes a gwaith labordy. Nid oes arholiadau heb eu gweld ymlaen llaw gan fod yr asesu yn canolbwyntio ar ddulliau sy'n cynnwys traethodau ac adroddiadau, posteri, cyflwyniadau a phortffolios proffesiynol.
Traethawd Hir Ymchwil
Bydd angen i chi gwblhau eich modiwl traethawd hir ymchwil yn llwyddiannus i ennill eich MSc. Y traethawd hir yw elfen derfynol y rhaglen. Mae'n rhoi cyfle i gwblhau darn o ymchwil neu ymholiad ysgolheigaidd sy'n gysylltiedig â'r llwybr o'ch dewis, gan hwyluso synthesis gwybodaeth flaenorol a phrofiad proffesiynol neu glinigol. Gall yr astudiaeth annibynnol fanwl hon, fydd yn canolbwyntio ar bwnc penodol, gynnwys astudiaeth ymchwil a gynhelir yn annibynnol gyda chyngor ac arweiniad goruchwyliwr unigol, neu ddadansoddiad beirniadol o ymchwil yn ymwneud â theori'r llwybr o'ch dewis.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Arwain Gwella Ansawdd .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd 2 (ii) Anrhydedd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol neu 3 blynedd o brofiad proffesiynol gyda gallu amlwg i astudio ar Lefel 7. Bydd yn bosib trosglwyddo credydau ac achrediad am ddysgu blaenorol (hyd at 40 credyd ar Lefel 7).
Ymgeiswyr rhyngwladol - Gofyniad iaith Saesneg - IELTS 6. Dim elfen yn is na 5.5. (neu gymhwyster cyfwerth) NEU ofyniad penodol iaith Saesneg y wlad AC mae'n rhaid i'r cais gynnwys datganiad personol.
Caiff myfyrwyr eu derbyn i'r rhaglen drwy'r flwyddyn, felly rydym yn eich annog i gyflwyno cais yn gynnar.
Gyrfaoedd
Bwriad y cwrs hwn yw cefnogi dilyniant academaidd, proffesiynol a gyrfaol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth glinigol ac ansawdd yn y Deyrnas Unedig a sefydliadau gofal iechyd rhyngwladol, neu sy'n anelu at swyddi o'r fath. Bydd y dysgu ar y rhaglen hefyd yn berthnasol iawn i weithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol a meysydd polisi cysylltiedig, yn enwedig y rheini sy'n gweithio mewn swyddi arwain.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae sawl myfyriwr wedi cael dyrchafiad tra’n dilyn y rhaglen ac wedi cael cefnogaeth trwy hyfforddiant gan arweinydd y cwrs, mae myfyrwyr eraill wedi datblygu eu hyder ac wedi gwneud cais am swyddi newydd a mwy sydd wedi datblygu eu gyrfa, neu wedi mynd â nhw i swyddi newydd ac mae nifer yn astudio PhD yn llawn amser, wrth iddynt barhau â'u datblygiad academaidd.
Ymchwil / Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r MSc hwn gysylltiadau ymchwil helaeth â chyrff allanol. Datblygwyd y rhaglen trwy ymgynghori a chydweithio ag arbenigwyr sy'n gweithio mewn sefydliadau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod y modiwlau yn berthnasol.