Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Amcan y rhaglen hon yw dyfnhau gwybodaeth am archaeoleg y tu hwnt i lefel israddedig, gyda phwyslais neilltuol ar archaeoleg Geltaidd. Mae’n rhoi cyfle i chi arbenigo mewn maes academaidd neilltuol, er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o’r dadleuon archeolegol sy’n gysylltiedig ag ef. Bydd ein rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am faterion damcaniaethol archeolegol perthnasol a dulliau o ddehongli a defnyddio tystiolaeth. Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau ymchwil angenrheidiol i chi gynhyrchu darn o waith gwreiddiol ar destun o’ch dewis.
Hyd y Cwrs
MA: Blwyddyn yn llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser; Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Dyfernir MA ar ôl cwblhau’r 180 credyd i gyd yn llwyddiannus. Dyfernir Diploma ar ôl cwblhau’r 120 credyd cyntaf yn llwyddiannus.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Archaeoleg Geltaidd .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig dda mewn disgyblaeth berthnasol; bydd o leiaf 2.ii yn ofynnol fel arfer. Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 yn gyffredinol (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Mae MA mewn Archaeoleg Geltaidd yn gymhwyster amlbwrpas a bydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o ddisgyblaeth academaidd archaeoleg a'r gallu i wneud gwaith ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad hanesyddol. Bydd yn gwella'ch cyfleoedd gyrfa mewn archaeoleg, cyfathrebu, addysgu, diwydiannau treftadaeth, cyhoeddi ac ymchwil.
Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Archaeoleg Geltaidd yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn archaeoleg, trwy wneud cais am le i astudio PhD mewn Archaeoleg Geltaidd.