Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dyluniwyd y cwrs MA newydd hwn ar gyfer y rhai sydd am ddod yn gyhoeddwyr proffesiynol tudalennau printiedig a thestunau digidol - gan wneud penderfyniadau creadigol a phenderfyniadau busnes wedi'u llywio gan wybodaeth a phrofiad o ddiwylliant, hanes, technoleg ac effaith gymdeithasol y llyfr.
Trwy'r cwrs hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth eang o: y prosesau ar gyfer cynhyrchu llyfrau; hyd a lled y diwydiant cyhoeddi llyfrau; y grymoedd economaidd a diwylliannol sy'n ei ddiffinio; a'r rôl y mae arloesedd digidol ac arloesedd mewn meysydd eraill yn ei chwarae.
Byddwch yn ennill profiad ymarferol wrth gynhyrchu llyfrau print a llyfrau digidol, gan fynd â thestunau o'u caffael hyd at eu marchnata a’u dosbarthu. Byddwch hefyd yn archwilio sut mae llyfrau'n magu gwerth fel gwrthrychau y dymunir eu cael, fel gwrthrychau i gynnig adloniant a diwylliant, ac fel gwrthrychau i ddatblygu a lledaenu gwybodaeth.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i astudio'r llyfr fel cynnyrch masnachol a diwylliannol. Byddwch yn archwilio'r ystod o werthoedd y mae cymdeithas yn eu buddsoddi mewn llyfrau, a sut mae'r gwerth hwnnw wedi newid gyda datblygiadau diwylliannol, masnachol a thechnolegol. Mae dealltwriaeth a phrofiad o'r diwydiant cyhoeddi llyfrau yn cael ei lywio drwy astudio rôl y llyfr mewn cymdeithas - y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn astudio'r cynnyrch a'r broses o gyhoeddi llyfrau. Archwilir pob rhan o'r broses gyhoeddi (caffael, golygu, cynhyrchu, marchnata a dosbarthu), ynghyd â'r prosesau ariannol er mwyn deall y prosesau sylfaenol sydd wrth wraidd y broses gyhoeddi a'r rôl y mae'n ei chwarae yng nghadwyn gwerth cyhoeddi.
Mae cyhoeddi annibynnol yn darparu model i adnabod y cynigion gwerth posibl y gall cyhoeddwr eu darparu. Astudir y busnes ei hun yng nghyd-destun y diwydiant ehangach a grymoedd y farchnad. Astudir gwerth potensial arloesi, boed hynny yn darfol neu gynhaliol, trwy gymhwyso ac archwilio hanes y llyfr yn ymarferol.
Bydd profiad ymarferol a geir o gynhyrchu llyfrau yn cynnwys caffael, dylunio a chyhoeddi llyfr. Byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio meddalwedd cynllunio a dylunio tudalennau y mae’r diwydiant yn ei ddefnyddio (e.e. InDesign, Affinity Publisher) i ddylunio cynllun llyfr ar gyfer ei gyhoeddi. Fe ddewch yn gyfarwydd ag ieithoedd marcio safonol, taflenni arddull a fformatau pecynnu i greu llyfr digidol, ac fe ddysgwch wybodaeth fanwl am y dechnoleg a'r safonau a ddefnyddir wrth ddatblygu e-lyfrau.
Byddwch yn cymryd y modiwlau hyfforddedig gorfodol canlynol:
- Profession of Publishing (10 credits)
- The Craft of Publishing (20 credits)
- Material Texts & Editing (30 credits)
- The Publishing Industry (20 credits)
- Digital Publishing (20 credits)
- Adopt a Book (20 credits)
Tua diwedd y cwrs, byddwch yn dewis un o dri opsiwn ymchwil. Gallwch ddewis:
- cyflawni briff a ddarperir gan fusnes cyhoeddi (60 credyd) neu
- gwneud darn o ymchwil ar eich cynllun eich hun (Traethawd Hir, 60 credyd) neu
- datblygu cynnig i fusnes cyhoeddi annibynnol (60 credyd).
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Diwylliant Cyhoeddi a Llyfrau .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig o leiaf 2.ii neu gyfwerth mewn gradd berthnasol (e.e. Ysgrifennu Creadigol, Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Astudiaethau'r Cyfryngau, Astudiaethau Americanaidd, y Gyfraith).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau cyfwerth a/neu brofiad perthnasol mewn cyhoeddi neu ddiwydiant, a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried ar sail unigol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 5.5) neu gyfwerth.
Gyrfaoedd
Mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cyhoeddi yn pwysleisio bod llwyddiant yn y maes yn dilyn o fod yn angerddol am lyfrau, deall cynulleidfaoedd a marchnadoedd, a chydnabod gwerth data ac arferion proffesiynol.
Mae'r cwrs hwn, gyda'i gydbwysedd o ymarfer cyhoeddi, ymwybyddiaeth o'r diwydiant, a gwerthfawrogiad o'r ffyrdd y mae'r llyfr yn cael ei werthfawrogi yn y farchnad ac mewn diwylliant, yn darparu llwyfan cryf ar gyfer ymuno â'r maes hwn.
Bydd myfyrwyr yn barod am gyfleoedd mewn adrannau golygyddol, dylunio, cynhyrchu, marchnata a gwerthu a'r farchnad twf ddigidol. Mae ehangu cyhoeddi digidol, pa mor gynyddol soffistigedig yw e-lyfrau rhyngweithiol a pha mor boblogaidd yw teclynnau darllen a thabledi yn bethau sydd wedi dod â dimensiynau newydd i'r diwydiant.