Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau ar gyfer mynediad Medi 2023. Bydd ceisiadau ar agor yn fuan ar gyfer mynediad Medi 2024, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. Ar gyfer mynediad 2023, gweler MSC Seicoleg.
Bydd y cwrs hwn yn cynnig astudiaeth uwch mewn seicoleg gyda phwyslais ar ragoriaeth mewn ymchwil a sgiliau ysgrifennu beirniadol. Yn dilyn dau semester o astudio academaidd, byddwch yn ysgrifennu adolygiad annibynnol ar lenyddiaeth mewn maes seicoleg sydd o ddiddordeb penodol i chi. Gall hwn fod yn syniad neu'n theori rydych eisoes yn ei ddatblygu, neu efallai mewn maes y byddwch yn datblygu diddordeb ynddo yn ystod y cwrs. Bydd goruchwyliwr academaidd yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau a mirieino eich sgiliau ysgrifennu, gan roi cefnogaeth gyda'r adolygiad llenyddiaeth.
Rhennir modiwlau cynnwys rhwng modiwlau craidd ymchwil sylfaenol, sy'n rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o dechnegau arbrofol seicolegol a modiwlau dewisol sy'n rhoi cyfle i chi ddilyn eich maes diddordeb. Dysgir modiwlau gan academyddion ymchwil o'r radd flaenaf ac rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd addysgu a dysgu rhagorol i chi trwy ddefnyddio adnoddau dysgu, cyfryngau ac amgylcheddau arloesol. Mae rhai modiwlau dewisol yn cyfuno dosbarthiadau israddedigion ac ôl-raddedigion ac felly'n cynnig awyrgylch cyfoethog a bywiog ar gyfer dysgu a rhyngweithio cymdeithasol.
Amcanion y Rhaglen
- Rhoi sylfaen i chi mewn seicoleg ac ymchwil seicolegol
- Rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i werthuso ymchwil ac astudiaeth seicolegol yn feirniadol
- Rhoi dealltwriaeth i chi o brosesau ac ystyron seicolegol mewn meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt
- Datblygu'r sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch i wneud ymchwil seicolegol o ansawdd uchel (ysgrifennu gwyddonol, dadansoddiad beirniadol, disgrifio canfyddiadau ymchwil, etc.)
- Eich galluogi i gynhyrchu traethawd ysgrifenedig sy'n dangos eich gallu i ddeall, gwerthuso ac integreiddio ymchwil seicolegol yn glir ac yn gydlynol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Seicoleg .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu radd gydanrhydedd dda mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol arall, gydag isafswm dosbarth gradd o 2.ii. Os nad oes gennych radd Seicoleg, efallai y cewch eich ystyried hefyd, anogir chi i gysylltu â'r ysgol.
Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (heb unrhyw elfen yn is na 5.5) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen.
Gyrfaoedd
Argymhellir yr MA mewn Seicoleg yn arbennig i raddedigion sydd am ddilyn gyrfa yn y dyniaethau sy'n gysylltiedig â seicoleg, y proffesiynau gofal iechyd a gwyddorau cymdeithas fel newyddiaduraeth wyddonol, rheoli busnes, seicoleg alwedigaethol, marchnata a gofal meddygol.