Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y rhaglen MA hon yn rhoi hyfforddiant theori ac ymarferol i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ddilyn y ddisgyblaeth mewn cyd-destun academaidd neu alwedigaethol. Bydd y semester cyntaf yn darparu'r sylfaen theori a methodolegol trwy fodiwlau mewn Astudiaethau Cyfieithu a Dulliau Ymchwilio. Bydd y modiwlau yn yr ail semester yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i faes o ddiddordeb personol. Bydd y modiwl cyntaf, sef Cyfieithu ar Waith, yn ymdrin ag agweddau megis cyfieithu peirianyddol, cyfieithu ar y pryd, a meddalwedd cyfieithu, tra bydd yr ail, sef y Portffolio o Waith Cyfieithu, yn galluogi'r myfyrwyr i ddewis eu corff o ddeunyddiau eu hunain i'w cyfieithu ac i roi sylwadau arnynt. Dyma ran gyntaf y rhaglen, yr ail ran yw Traethawd Hir 20,000 o eiriau ar faes perthnasol o ddewis y myfyrwyr, a hynny dan oruchwyliaeth arbenigol.
Darperir y cwrs hwn ar y cyd ag Ysgol y Gymraeg y Brifysgol a Chanolfan Bedwyr.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Semester 1:
- Dulliau Ymchwilio (30 credyd)
- Astudiaethau Cyfieithu: Creu Disgyblaeth (30 credyd)
Semester 2:
Dylai myfyrwyr ddewis un allan o:
- Cyfieithu ar Waith (30 credyd)
Modiwl ymarferol:
- Creu Portffolio Cyfieithu (30 credyd) (ieithoedd: Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg)
Yr Haf :
- Traethawd hir (60 credyd; pwnc sy'n berthnasol i'r iaith arbenigol a ddewisir NEU astudiaeth gymharol). Gall y traethawd hir ymdrin ag unrhyw agwedd ar Astudiaethau Cyfieithu, yn seiliedig ar theori neu ymchwil, neu gyfieithiad o destun a ddewisir gan y myfyrwyr, gyda sylwadau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Astudiaethau Cyfieithu .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithoedd Modern, Cyfieithu). Disgwylir i'r ymgeiswyr feddu ar gymhwysedd lefel gradd mewn o leiaf dwy iaith fodern (e.e. Cymraeg, Sbaeneg, Catalaneg, Tsieinëeg, Saesneg, Ffrangeg, Galiseg, Almaeneg ac Eidaleg).
Caiff yr ymgeiswyr hynny sydd â chymwysterau neu brofiad cyfatebol hefyd eu barnu yn ôl teilyngdod unigol; caiff profiad gwaith a ffactorau eraill eu hystyried hefyd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos y myfyrwyr hynny nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 6.0).
Gyrfaoedd
Cewch eich paratoi at amrywiol yrfaoedd fel cyfieithwyr mewn sefydliadau cyhoeddus, fel y Comisiwn Ewropeaidd, yn ogystal â chwmnïau masnachol ac asiantaethau cyfieithu preifat. Gallech hefyd ystyried gyrfaoedd mewn meysydd eraill sy'n gofyn am sgiliau uwch o ran iaith a chyfathrebu fel marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, ysgrifennu technegol neu ddysgu ieithoedd. Petaech chi am ddatblygu eich astudiaethau wedi hynny, mae cyfle i barhau ym Mangor naill ai gydag ymarfer neu ddoethuriaeth ymchwil mewn Astudiaethau Cyfieithu.