Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cyrsiau cyffrous hyn yn datblygu cysylltiadau rhwng yr astudiaeth feirniadol o Lenyddiaeth Saesneg a’r ymarfer creadigol o ysgrifennu mewn sawl ffurf. Byddwch yn dysgu ymdrin â thestunau fel darllenydd ac awdur, yn darganfod cysylltiadau a synergedd rhwng y gwahanol safbwyntiau hyn. Trwy wybodaeth feirniadol a phrofiad ymarferol, byddwch yn astudio ystod eang o Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mewn grwpiau bach neu weithdai, dan arweiniad arbenigwyr ymchwil yn y maes neu gan awduron cyhoeddedig, mewn awyrgylch o fenter ysgolheigaidd, greadigol er mwyn datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol a defnyddio’r dychymyg i ddatrys problemau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.
Cynnwys y Cwrs
Fel myfyriwr ‘ac’ Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn gwneud hanner eich modiwlau mewn ysgrifennu creadigol bob blwyddyn.
Blwyddyn 1
Mae llawer o fodiwlau yn seiliedig ar genre, pob un yn ymdrin ag ystod eang o gyfnodau hanesyddol, yn canolbwyntio ar ysgrifennu mewn genre penodol. Cewch eich cyflwyno i amrywiaeth o dechnegau mewn ysgrifennu creadigol. Nod y modiwlau hyn yw datblygu sgilliau myfyrwyr sy’n ofynnol ar gyfer gradd israddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg ac gydag Ysgrifennu Creadigol.
Blwyddyn 2
Mae’r ail flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau yn y nofel, ffuglen fer, gwaith ffeithiol creadigol a barddoniaeth.
Blwyddyn 3
Yn y drydedd flwyddyn cewch gyfle i archwilio un maes yn fwy trylwyr yn y Traethawd Hir. Cewch eich goruchwylio ar sail un i un gan awdur sy’n ymarfer wrth i chi gwblhau nofel, casgliad o straeon byrion neu farddoniaeth i’r safon uchaf un. Bydd dysgu sut i adfyfyrio’n feirniadol ar eich ymarfer eich hun yn eich paratoi hefyd ar gyfer gyrfa annibynnol yn ysgrifennu neu ar gyfer astudiaeth ôl-radd bellach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol)
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM **
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos**
- Cwrs mynediad gydag elfen Llenyddiaeth Saesneg
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg, e.e. Lefel A a’r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae’r cyrsiau hyn yn darparu rhagolygon gwaith rhagorol i fyfyrwyr, mewn dewis eang o yrfaoedd. Yn y gorffennol mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i waith ym maes cysylltiadau cyhoeddus, addysg, cyhoeddi, hysbysebu, newyddiaduraeth, y gyfraith, gwaith cymunedol a’r byd academaidd.
Mae cyflogwyr mewn ystod eang o sectorau yn gwerthfawrogi’n fawr sgiliau dadansoddi beirniadol, defnyddio’r dychymyg i ddatrys problemau a chyflwyno. Mae ein graddedigion fel rheol yn annibynnol eu meddwl, ond eto’n gallu gweithio fel rhan o dîm effeithiol. Dewis arall yw astudiaeth ôl-radd, sy’n cynnig cyfle i raddedigion ddyfnhau eu gwybodaeth a’u harbenigedd ymhellach, fel eu bod yn rhagori ar fyfyrwyr eraill. Mae cyfleoedd gwych i wneud hyn ym Mangor. Mewn gwirionedd, mae’r gallu i ddefnyddio geiriau’n effeithiol yn fantais fawr mewn bron unrhyw yrfa.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.