Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Coedwigoedd yw’r mwyaf bioamrywiol o holl ecosystemau’r tir, ac ynddynt y ceir y mwyafrif helaeth o rywogaethau tir y byd. Mae’r radd hon yn darparu dealltwriaeth o’r fioamrywiaeth honno, o’r ffyrdd y mae pobl yn dylanwadu arni, ac o’r rôl y gall coedwigoedd ei chwarae wrth leihau effeithiau gweithgarwch dynol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd. Mae’r radd yn canolbwyntio ar egwyddorion cadwraeth fiolegol, ecoleg coedwigoedd a swyddogaeth ecosystemau coedwigoedd, a’r ffyrdd y gellir rheoli coedwigoedd i gyflawni amcanion cadwraeth. Mae cyfleoedd i astudio dramor yn yr ail flwyddyn a threulio hyd at 12 mis yn gweithio i sefydliad cadwraeth neu goedwigaeth.
Pam Dewis Bangor?
- Bangor yw un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar gyfer coedwigaeth a chadwraeth.
- Mae’r Brifysgol yn addysgu ac yn gwneud ymchwil i sawl agwedd ar gadwraeth a rheoli adnoddau naturiol.
- Rydym wedi ein lleoli mewn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio, yn agos at goetiroedd hynafol lled-naturiol a safleoedd eraill o bwysigrwydd cadwraethol.
- Mae’r Brifysgol yn berchen ar 82 hectar o goetiroedd a ddefnyddir wrth addysgu ac mae llawer ohonynt yn lled-naturiol.
- Mae gennym grŵp brwdfrydig o staff, a phenodwyd aelodau newydd o staff academaidd mewn nifer o ddisgyblaethau cadwraeth a choedwigaeth allweddol.
- Rydym yn cynnal cyrsiau maes wythnos o hyd ym mlwyddyn gyntaf, ail flwyddyn a blwyddyn olaf y radd.
- Mae gennym gysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gydag amrywiaeth o asiantaethau llywodraethol a chyrff anllywodraethol sy’n gweithio ar brojectau a materion cadwraeth.
- Rydym yn talu i fyfyrwyr fod yn aelodau o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn astudio trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gwaith maes. Mae ein cyrsiau yn fodiwlaidd ac yn cynnwys cyfresi o fodiwlau gorfodol a dewisol. Mae’r modiwlau dewisol yn eich galluogi i ehangu eich astudiaethau i feysydd newydd neu i ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb i chi.
Yn y flwyddyn olaf gallwch ddewis ysgrifennu cynllun rheoli cadwraeth, a byddwch yn cynnal project ymchwil annibynnol mewn pwnc sydd o ddiddordeb penodol i chi, dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cadwraeth gyda Choedwigaeth .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad 2021:
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80-112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: i gynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,
- Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd, Cemeg, Ffiseg,
- Mathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma BTEC Cenedlaethol/Estynedig mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth
- Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid: MMP - DDM
- Diploma Technegol Estynedig City & Guilds mewn Rheolaeth Cefn Gwlad neu
- Goedwigaeth a Choedyddiaeth: Rhagoriaeth - Rhagoriaeth*
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth
- neu Reolaeth Tir a Bywyd Gwyllt: MMP - DMM
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Ni dderbynnir Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael manylion llawn ewch i'n gwefan ac i weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a
dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Bydd y radd hon yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys cadwraeth coetiroedd, rheoli coetiroedd ac ardystio coedwigoedd yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae galw cyson am raddedigion da mewn pynciau sy’n gysylltiedig â choedwigaeth, a phob blwyddyn rydym yn helpu ein myfyrwyr i ddod o hyd i ystod eang o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.