Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi astudio ystod eang o lenyddiaeth Saesneg mewn grwpiau bach, dan arweiniad yr arbenigwyr ymchwil yn y maes, mewn awyrgylch o fenter greadigol, ysgolheigaidd er mwyn datblygu sgiliau dadansoddi beirniadol sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.
Pam Dewis Bangor?
- Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bach yn ogystal â darlithoedd, goruchwyliaeth un i un a rhoi adborth unigol.
- Rydym yn cynnig dewis eang a hyblyg o fodiwlau sy’n rhoi rhyddid i chi ddatblygu ac archwilio’ch diddordebau eich hun. Mae modiwlau’n cyfuno’r arloesol - e.e. The Literature of Laughter, Children’s Fiction, Transformative Writing a The Gothic in Literature a Film - gyda’r rhai mwy traddodiadol - e.e. Beowulf to Malory, Victorian Literature a Shakespeare.
- Mae ein haddysgu wedi ei seilio ar ein gwaith ymchwil. Cafodd ein gwaith ymchwil ac ysgrifennu ei gydnabod fel o’r ansawdd orau un yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014), gan ein rhoi yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am ymchwil.
- Mae ein cysylltiadau agos â Pontio, Canolfan Gelfyddydau’r Brifysgol, theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr bywiog - yn cynnwys Cymdeithas Ddrama Saesneg Bangor (BEDS) a Seren (papur newydd y myfyrwyr) - mae llawer o gyfleoedd i chi gymryd rhan.
- Mae Bangor yn lle delfrydol ar gyfer ysgrifennu creadigol neu astudio llenyddol.
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn 1
Mae llawer o fodiwlau yn seiliedig ar genre, pob un yn ymdrin ag amrywiaeth eang o gyfnodau hanesyddol. Gallwch gymryd modiwlau pellach o’r rhestr isod ac, os dymunwch, o bynciau eraill.
Blwyddyn 2
Mae llawer o fodiwlau yn seiliedig ar gyfnodau, wedi’u cynllunio i alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth fanylach o lenyddiaeth. Ar gyfer anrhydedd sengl byddwch yn dewis 6 modiwl o ystod o gyfnodau a phynciau llenyddol. Ar gyfer graddau ar y cyd gallwch ddewis 3 modiwl ac ar gyfer graddau ‘gyda’ rydych yn dewis 4.
Blwyddyn 3
Yn achos anrhydedd sengl byddwch yn gweithio ar Draethawd Hir ar bwnc llenyddol o’ch dewis, yn cael eich goruchwylio’n unigol gan aelod staff. Byddwch hefyd yn gwneud 4 modiwl arbenigol Bydd myfyrwyr cyd-anrhydedd yn cymryd 2 fodiwl arbenigol ac yn ysgrifennu traethawd hir sy’n cysylltu 2 bwnc eu gradd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Llenyddiaeth Saesneg .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A Lefel A (Llenyddiaeth Saesneg/Iaith Saesneg/Saesneg yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol)
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (yn cynnwys H5 mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Mynediad
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae’r radd hon o Brifysgol Bangor yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy rhagorol i’n myfyrwyr sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn ystod o sectorau. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio ym maes: addysgu, cyhoeddi, hysbysebu, newyddiaduraeth a’r cyfryngau, y gyfraith, gwaith cymdeithasol, busnes, gwleidyddiaeth, cyfrifeg, y celfyddydau perfformio, y gwasanaeth sifil, yr heddlu, adnoddau dynol, a’r byd academaidd. Bydd ein gradd yn dysgu sgiliau i chi fel dadansoddi beirniadol, defnyddio’r dychymyg i ddatrys problemau a chyflwyno. Dewis arall yw astudiaeth ôl-radd sy’n cynnig cyfle i chi ddyfnhau eich gwybodaeth a’ch arbenigedd ymhellach. Mae cyfleoedd gwych ar gyfer hyn ym Mangor.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.