Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglen 4 blynedd C21 meddygaeth gogledd Cymru i raddedigion (MBBCh) mewn cydweithrediad ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Dysgir y rhaglen yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gyda lleoliadau ledled y rhanbarth a'n nod yw hyfforddi'r meddygon gorau ar gyfer Cymru a'r DU yn ehangach trwy ddarparu addysgu o ansawdd uchel, a phrofiad dysgu rhagorol yn seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol.
Beth yw C21 gogledd Cymru?
Cyflwynir cwrs C21 gogledd Cymru mewn partneriaeth rhwng yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr graddedig wneud eu holl radd feddygol yng ngogledd Cymru.
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen feddygaeth hon yn dilyn yr un cwricwlwm â'r rhai sydd yng Nghaerdydd ond gan ganolbwyntio mwy ar feddygaeth gymunedol trwy amrywiaeth o leoliadau clinigol mewn amgylcheddau amrywiol gan gynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa deulu, amser mewn ysbytai dysgu mawr, meddygaeth fynyddig ac amgylcheddau gwledig. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu dysgu mewn grwpiau bach ym Mhrifysgol Bangor (graddfa Aur TEF) ac yn cael sesiynau dysgu clinigol ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol.
Mae cwrs C21 gogledd Cymru yn derbyn myfyrwyr sydd wedi perfformio'n dda ar gyrsiau cydnabyddedig sy'n gysylltiedig â Rhaglen Mynediad i Raddedigion yr Ysgol Feddygaeth a hefyd myfyrwyr sydd eisoes wedi eu derbyn i raglen A100 ac sy'n dymuno trosglwyddo ar ôl cwblhau eu blwyddyn gyntaf yn llwyddiannus. Ei nod yw cynnig paratoad cynhwysfawr at yrfa werth chweil fel meddyg sylfaen yn y GIG a'r yrfa y tu hwnt i hynny. Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr ddysgu'r wybodaeth, y sgiliau clinigol a'r agweddau proffesiynol angenrheidiol sy'n ofynnol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o fewn cwricwlwm troellog integredig. Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i gynhyrchu clinigwyr gwych sy'n deall pobl a'r amgylchedd rydym yn byw ynddo.
Gweler hefyd y dudalen yma ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Cynnwys y Cwrs
Gweler y dudalen yma ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Costau'r Cwrs
Gweler y dudalen yma ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae llwybr derbyn A102 (Meddygaeth Mynediad i Raddedigion GEM) hefyd ar gael trwy ffrydiau bwydo'r cwrs. Dyma ein ffrydiau bwydo cydnabyddedig ar gyfer GEM A102 i fyfyrwyr sy'n graddio gydag un o'r graddau canlynol:
- BSc (Anrh) Ffarmacoleg Feddygol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd (B210)
- BSc (Anrh) Gwyddorau Biofeddygol Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd (BC97)
- BMedSci o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor (B100)
- BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol o Brifysgol De Cymru (B901)
Os ydych yn ystyried y llwybr yma, noder bod yna ofynion Lefel A, TGAU a GAMSAT i ymgeiswyr. Ceir manylion y gofynion penodol ar dudalen gwybodaeth cwrs Prifysgol Caerdydd.
Gyrfaoedd
Gweler y dudalen yma ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol