Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Y gair allweddol y gellid ei ddefnyddio i ddisgrifio swydd nyrsys sydd wedi cofrestru ym maes oedolion yw amrywiaeth - mae disgwyl i nyrsys cofrestredig sydd wedi cofrestru ym maes oedolion (ac yn meddu ar gymwysterau cofrestradwy ychwanegol, er enghraifft rhagnodi neu addysgu) ofalu am anghenion pobl gydol oes, yn cynnwys diogelu iechyd mamau a babanod. Byddwch yn gallu cael profiad o'r amrywiaeth hyn yn ystod lleoliadau mewn meysydd clinigol lle gall nyrsio oedolion gynnwys:
- Nyrsio meddygol a llawfeddygol cyffredinol ac arbenigol yn y sector aciwt;
- Nyrsio gofal critigol (gofal dwys a dibyniaeth uchel, adran frys, theatrau ac adferiad);
- Nyrsio cymunedol yn y cartref a gofal sylfaenol.
Mae nyrsio oedolion yn cynnig amrywiaeth o yrfaoedd diddorol a buddiol ym maes gofal iechyd gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd amrywiol, megis: arweinyddiaeth, ymarfer clinigol uwch, addysg neu ymchwil. Gellir cael cyngor ar ofynion mynediad a gyrfaoedd yma.
Gall elfennau hyfforddedig y cwrs hwn gael eu cyflwyno ar gampws Bangor yn ogystal â champws Canolfan Archimedes Wrecsam felly gall myfyrwyr ddewis gwneud cais am un o'r lleoliadau hyn.
Mae Bangor yn derbyn ceisiadau am gyrsiau nyrsio trwy gydol y flwyddyn, tra bod lleoedd ar gael. Gan bod rhai llwybrau yn llenwi, rydym yn argymell y dylid cyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.
Ffioedd Dysgu wedi eu talu.
Os ydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr sy’n perthyn i’r DU ar gyfer ffioedd dysgu ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, fe allech chi gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu yn llawn trwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru a hawlio am gyfraniad bwrsariaeth o £ 1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth prawf modd sy'n ddibynnol ar incwm cartref a chyllid arall sydd â meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynyddion a lwfans rhieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am y cyllid cynnal a chadw ar sail incwm a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada a all wneud cais trwy Wasanaethau Addysgol Barclays.
Mae manylion llawn ar gael ar ein tudalen ariannu'r GIG.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio
Cliciwch ar Gofynion Mynediad uchod am wybodaeth am y broses gyfweld a dewis ar gyfer y cwrs yma os gwelch yn dda.
Lleoliad a Dyddiad cychwyn y cwrs
Gallwch ddewis astudio'r cwrs hwn ar gampws Bangor neu Wrecsam pan fyddwch chi'n gwneud eich cais UCAS. Gallwch hefyd ddewis dechrau ym mis Medi neu ym mis Chwefror bob blwyddyn ar y naill gampws neu'r llall.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
Ewch i’n tudalen Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs? i weld y rhai rhesymau y dylech ddewis Bangor am y cwrs hwn.
Fideo - Ein Cyrsiau Nyrsio
Cynnwys y Cwrs
Bydd yn orfodol i chi astudio yn yr Ysgol ac ar leoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol a/neu breswyl yng ngogledd Cymru. Mae lleoliadau dan oruchwyliaeth agos yn golygu y gallwch arsylwi gweithwyr proffesiynol yn eu gwaith a chymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio yn gynnar yn y cwrs. Cewch eich cefnogi gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac yn aelod o'r staff academaidd a chewch oruchwyliaeth fentora gan nyrs gofrestredig weithredol yn y lleoliad. Caiff gwaith theori ac ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau ac Asesiad Ymarfer Clinigol Cymru gyfan.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Gallwch astudio un o'r pedwar maes ymarfer: nyrsio oedolion, nyrsio iechyd meddwl, nyrsio anableddau dysgu neu nyrsio plant. Mae'r cwrs yn seiliedig ar theori ac ymarfer yn gyfartal - treulir 50% ar astudio damcaniaethol a 50% mewn ymarfer clinigol yn datblygu'r cymhwysedd sydd ei angen i gael eich derbyn ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Byddwch yn datblygu sgiliau ac ymddygiad, gwerthoedd ac agweddau proffesiynol sy'n ddisgwyliedig gan nyrs er mwyn sicrhau diogelwch pobl o bob oed a'u gofalwyr a'u teuluoedd a'u hamddiffyn. Ceir cyfle i astudio ochr yn ochr â swyddogion gofal iechyd eraill sy'n fyfyrwyr ac mae gan yr Ysgol strategaeth ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol.
O fewn y graddau unigol bydd cyfle i bob maes ddysgu gyda'i gilydd am elfennau generig perthnasol fel anatomeg a ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, cyfathrebu, y gyfraith a moeseg.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Nyrsio (Nyrsio Oedolion) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Ffioedd Dysgu wedi eu talu.
Os ydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr sy’n perthyn i’r DU ar gyfer ffioedd dysgu ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, fe allech chi gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu yn llawn trwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru a hawlio am gyfraniad bwrsariaeth o £ 1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth prawf modd sy'n ddibynnol ar incwm cartref a chyllid arall sydd â meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynyddion a lwfans rhieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am y cyllid cynnal a chadw ar sail incwm a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada a all wneud cais trwy Wasanaethau Addysgol Barclays.
Mae manylion llawn ar gael ar ein tudalen ariannu'r GIG.
Costau Gorfodol:
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer pob maes astudio Baglor mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth a Radiograffeg BSc.
Cofrestru ar ôl cwblhau'r astudiaeth gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)/Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Costau Angenrheidiol:
Tanysgrifio ag aelodaeth undeb e.e. RCN neu Unsain i gael indemniad a chefnogaeth yswiriant.
Disgwylir i fyfyrwyr dalu am deithio i leoliadau clinigol ac mae cyllid ar gael i dalu am gostau teithio i leoliad sy'n fwy na chost/milltiroedd teithio i'r ganolfan theori (prawf modd/bwrsariaeth).
Disgwylir i fyfyrwyr dalu am unrhyw wisgoedd ychwanegol os byddant eu hangen.
Bydd angen i fyfyrwyr brynu credydau argraffu at eu defnydd personol.
Costau Opsiynol:
Gŵn graddio.
Cynhaliaeth ar gyfer lleoliadau dewisol a gymerir gan fyfyrwyr.
Telir am gostau mynd i gynadleddau os caiff y seibiant astudio ei awdurdodi. Telir am gostau digwyddiadau dathlu os gofynnir i'r myfyriwr fod yn bresennol.
Nodiadau:
Cyflwynir pob aseiniad yn electronig trwy Turnitin Mae argraffu a rhwymo traethodau hir a thesis yn berthnasol i fyfyrwyr ôl-radd yn unig.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad yn 2021:
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
- 5 TGAU ar radd C/4 neu’n uwch ac mae’n rhaid eu bod yn cynnwys Saesneg a Mathemateg, mae pwnc gwyddoniaeth yn angenrheidiol ar gyfer radiograffeg ac yn ddymunol ar gyfer rhaglenni Baglor Nyrsio. Gall rhai ymgeiswyr Diploma Mynediad AU gael eu heithrio rhag cyflawni’r gofynion TGAU yn llawn.
- Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar Safonau'r NMC. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae’r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag admissions.health@ bangor.ac.uk i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hŷn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg/Iaith Gymraeg a Mathemateg neu’r hyn sy’n cyfateb mewn Sgiliau Hanfodol Rhifedd a Chyfathrebu, lefel 2. O leiaf O4 o’r Irish Leaving Certificate.
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm 112 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefel A a Lefel-Tech
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM
- Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Teilyngdod (lleifaswm o 9 pas)
- Bagloriaeth Cymru
- Irish Leaving Certificate: 120 pwynt o fan leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷnsy’n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu’n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad; sylwch nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel ffordd o fodloni ein cymwysterau mynediad.
*I gael manylion llawn ewch i’n gwefan ac i weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio
Gofynnir i bob ymgeisydd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen Cyfweld a Dewis Ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio os gwelwch yn dda.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Bydd cymhwyso fel nyrs gofrestredig yng Nghymru yn golygu y byddwch yn cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Gellir cael gyrfa gyda chyflogwyr mawr, er enghraifft byrddau iechyd GIG, neu sefydliadau llai ac annibynnol yn y sector a all arwain at gyfleoedd mewn arbenigeddau clinigol, rheolaeth, ymchwil neu addysg.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol