Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Rydym yn gynyddol ymwybodol o werth organebau'r môr ar gyfer bwyd, meddyginiaeth a chynhyrchion eraill yn ogystal â'u rôl yn dylanwadu ar yr hinsawdd. Bioleg Môr yw'r astudiaeth o organebau sy'n meddiannu 95% o biosffer ein planed, gan fyw mewn amodau sy'n amrywio o'r moroedd pegynol (is na -2°C) i fentiau hydrothermol (dros 100°C). Ceir hyd i fwyafrif y ffyla yn y cefnforoedd; mae meintiau organebau'n amrywio o'r ficro-organeb leiaf ar y blaned i'r infertebratau (môr lewys mawr) a'r mamaliaid mwyaf (morfilod glas). Mae'r cwrs poblogaidd hwn yn rhoi’r cyfle i astudio elfennau sylfaenol bioleg bywyd y môr yn ogystal ag elfennau mwy arbenigol megis dyframaeth, pysgodfeydd a biotechnoleg y môr.
Mae yna hefyd opsiwn o gwrs 4 blynedd Meistr Bioleg Môr MSci. Ym Mlwyddyn 4 y cwrs Meistr Bioleg Môr byddwch yn cyflawni darn sylweddol o ymchwil a fydd yn llywio eich traethawd hir Blwyddyn 4.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r Ysgol yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu Gwyddorau Eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
- Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r môr, sy'n ddelfrydol i ddatblygu eich sgiliau wrth gasglu data mewn aberoedd, ar lan y môr ac ar y môr.
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m y byddwch yn ei defnyddio yn ystod eich astudiaethau.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs fel rheol yn cynnwys hyd at 30 awr yr wythnos o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol (gwaith labordy a gwaith maes), astudio preifat, tiwtorialau a gwaith project. Mae nifer o'r modiwlau'n cynnwys teithiau maes undydd. Ym mlwyddyn 2 ceir taith undydd a chwrs maes wedi’u lleoli ar y llong ymchwil ac ym mlwyddyn 3 cynhelir ymarferion profi damcaniaethau yn ystod y project maes rhynglanwol. Mae gennych hefyd y dewis o fynd ar gwrs maes tramor yn Virginia, UDA. Asesir eich gwaith ymarferol yn barhaus ac arholir pob modiwl trwy gwestiynau amlddewis, profion labordy ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir y traethawd hir drwy gyflwyniad ac adroddiad.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Bioleg Môr .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Gorfodol:
Bydd angen dillad ac offer addas ar gyfer gwaith maes e.e. esgidiau priodol a dillad glaw, sach gefn. Bydd cost y rhain yn amrywio. Amcangyfrif o'r gost: £50-£100
Deunydd ysgrifennu priodol i gymryd nodiadau yn ystod dosbarthiadau, e.e. llyfr nodiadau, beiros a phensiliau. Bydd cost y rhain yn amrywio. Amcangyfrif o'r gost: £20-£30. (Darperir llyfr nodiadau labordy ar gyfer asesu fel rhan o'r rhaglen).
Costau Angenrheidiol:
Deunyddiau i baratoi poster academaidd i'w asesu. Bydd cost a nifer y rhain yn amrywio. Amcangyfif o'r gost £10-£15.
Costau Opsiynol:
Cost cwrs preswyl gwaith maes dewisol i VIMS, UDA ym mlwyddyn 3. Bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar gostau hedfan. Amcangyfrif o'r gost £700.
Nodiadau:
Lleolir yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy, tua 1.5 milltir o Fangor a'r neuaddau preswyl. Cynhelir y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau ar safle Bangor, ond cynhelir rhai sesiynau labordy ymarferol ym Mhorthaethwy (6-10 y semester yn nodweddiadol). Telir costau teithio i'r rhain ym Mlwyddyn 1, ond ddim yn y blynyddoedd dilynol. Mae llawer yn cerdded neu'n beicio rhwng y lleoliadau, ond mae rhai'n dewis trafnidiaeth gyhoeddus neu breifat. Y gost yn fras os dewisir y ddau opsiwn olaf: £40 y flwyddyn.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021:
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl.
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm o 120 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys Bioleg ac 1 pwnc gwyddoniaeth arall fel rheol - Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddor/Astudiaethau'r Amgylchedd, Economeg, Seicoleg; ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol)
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys Bioleg)
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DDM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd**: Rhagoriaeth
- Mynediad i Wyddoniaeth AU**: Llwyddo
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Ni dderbynnir Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs yn baratoad delfrydol ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, pysgodfeydd a dyframaeth, rheoli adnoddau môr, cadwraeth, cyrff cynghori'r llywodraeth, y cyfryngau gwyddonol, eco-dwristiaeth a diwydiannau hamdden eraill a grwpiau dwyn pwysau, a nifer o feysydd heb gysylltiad uniongyrchol sydd angen sgiliau dadansoddol.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol