Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ein nod yw y bydd unigolion yn graddio gyda dealltwriaeth fanwl o bob agwedd ar wyddor cadwraeth, gan gynnwys egwyddorion sylfaenol ecoleg, esblygiad, rheolaeth amgylcheddol, a byddant yn gallu cymhwyso’r ddealltwriaeth hon i gadwraeth bywyd gwyllt.
Bydd y radd hon yn datblygu sgiliau deallusol ac ymarferol, ynghyd â medrau mewn rhifedd, cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth (TG), sgiliau ymwneud â phobl a hunanreolaeth a sgiliau proffesiynol mewn cyd-destun sy’n benodol i’r byd cadwraeth.
Rydym yn paratoi myfyrwyr at yrfa yng nghadwraeth bywyd gwyllt a phroffesiynau eraill sy’n gofyn am y gallu i gynnull amrywiaeth o gysyniadau a syniadau ac i gymryd safbwynt amlddisgyblaethol. Caiff myfyrwyr y cwrs gyfle i fynd ar daith maes i Tenerife neu Uganda.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn yn opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd. Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam Dewis Bangor?
- Mae lleoliad Bangor, rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a’r amgylchedd naturiol.
- Mae cadwraeth lwyddiannus yn dibynnu ar ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol. Mae ein staff yn gefnogol, yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt ac mae ganddynt amrywiaeth o arbenigeddau sy’n cwmpasu cadwraeth, ecoleg, gwyddor amgylcheddol, coedwigaeth, a gwyddorau cymdeithas.
- Mae gennym gysylltiadau agos â llawer o sefydliadau cadwraeth lleol yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n helpu myfyrwyr i ddeall ymarfer cadwraeth.
- Mae gennym gysylltiadau ardderchog â sefydliadau cadwraeth ledled y byd. Ar hyn o bryd mae gennym staff a myfyrwyr yn gweithio ym Madagascar, Costa Rica, Indonesia, Bolivia, Kenya a Bangladesh.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn, trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gwaith maes. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu cyrsiau gan gynnwys asesiad parhaus ac arholiadau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cadwraeth Bywyd Gwyllt (gyda Blwyddyn Lleoliad) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Gradd C/4 mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg. Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm o 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefel A: (yn cynnwys gradd C neu uwch mewn pwnc gwyddoniaeth ar lefel A2).
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys gradd H5 neu uwch mewn pwnc gwyddoniaeth).
- Mynediad: Cwrs yn seiliedig ar Wyddoniaeth neu’r Amgylchedd
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reoli Anifeiliaid: DMM
- Diploma Estynedig City & Guilds mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reoli Anifeiliaid: Teilyngdod
- Diploma Estynedig Technegol City & Guilds mewn Rheoli Tir a Bywyd Gwyllty: Teilyngdod • Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt mewn Sgiliau Labordy: DDM
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg rhyngwladol, yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol: www.bangor. ac.uk/intreqs
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael manylion llawn ewch i’n gwefan ac i weld rhestr lawn o’r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Bydd y radd hon yn datblygu sgiliau deallusol ac ymarferol, ynghyd â sgiliau rhifedd, cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth (TG), sgiliau rhyngbersonol a hunanreoli a sgiliau proffesiynol mewn cyd-destun sy’n benodol i’r byd cadwraeth.
Byddwch yn barod i weithio mewn amrywiaeth fawr o feysydd gan gynnwys cadwraeth bywyd gwyllt a phroffesiynau eraill lle mae gofyn am y gallu i syntheseiddio amrywiaeth o gysyniadau a syniadau ac i gymryd safbwynt amlddisgyblaethol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.