Dolffin yn y Fenai

Sŵoleg Fertebratau Morol Israddedig - Mynediad yn 2021

Manylion y Cwrs

  • Dyddiad Dechrau Medi 2021
  • Cod UCAS C351
  • Cymhwyster BSc
  • Hyd 3 blynedd
  • Cynnig Arferol 80 - 120 Pwyntiau Tariff UCAS
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Broga yn dal gafael ar laswellt

Darllen mwy: Sŵoleg

Mae sŵoleg yn edrych ar bob math o agweddau'n ymwneud ag anifeiliaid - ymddygiad anifeiliaid, ffisioleg anifeiliaid, esblygiad, y rhyngweithio rhwng anifeiliaid a'r amgylchedd a chadwraeth bywyd gwyllt. Mae Prifysgol Bangor yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r môr ac felly dyma'r dewis amlwg i unrhyw un sydd eisiau astudio Sŵoleg gan fod ein lleoliad yn darparu'r labordy naturiol gorau yn y Deyrnas Unedig. 

Llun tanddwr o blymiwr yn edrych i fyny rhwng y gwymon

Darllen mwy: Gwyddorau Eigion

Mae Gwyddorau Eigion ym Mangor yn unigryw am ei fod yn cwmpasu astudiaeth o bob agwedd ar amgylchedd môr y byd, o aberoedd ac arfordiroedd i ddyfnderoedd y cefnfor. Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu Gwyddorau Eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.

LLun tanddwr o bysgod mewn riff

Darllen mwy: Bioleg Môr

Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau eigion yn bwnc sydd â'i fryd ar y dyfodol.Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats