Defaid yn crwydro Parc Cenedlaethol Eryri

Cadwraeth Amgylcheddol Israddedig - Mynediad yn 2021

Manylion y Cwrs

  • Dyddiad Dechrau Medi 2021
  • Cod UCAS D447
  • Cymhwyster BSc
  • Hyd 3 blynedd
  • Cynnig Arferol 80 - 112 Pwyntiau Tariff UCAS
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Tirlun gyda llyn a mynyddoedd.

Darllen mwy: Gwyddor yr Amgylchedd

Mae Bangor yn lleoliad gwych ar gyfer astudio ac ymchwilio i faterion amgylcheddol gan ein bod funudau i ffwrdd o amrywiaeth enfawr o dirweddau ac amgylcheddau. Byddwch yn elwa o'r rhyngweithio uniongyrchol â staff sydd ar flaen eu maes. 

Person yn plannu coeden glasbren.

Darllen mwy: Cadwraeth

Mae cadwraeth ym Mangor yn ymdrin â holl ystod y ddisgyblaeth, o ecoleg rhywogaethau sydd dan fygythiad, i elfennau sefydliadol ac economaidd cadwraeth. Mae ein lleoliad yn golygu y byddwch yn elwa o fod yn agos at amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd tir, môr a dŵr croyw yr ydym yn eu defnyddio i gynnal gwaith maes, sy'n rhan annatod o'r cwrs gradd.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats