Myfyrwyr yn cynnal arolygon ar y traeth

Eigioned Daearegol Israddedig - Mynediad yn 2021

Manylion y Cwrs

  • Dyddiad Dechrau Medi 2021
  • Cod UCAS F652
  • Cymhwyster MSci
  • Hyd 4 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Cynnig Arferol 80 - 128 Pwyntiau Tariff UCAS
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Llun tanddwr o blymiwr yn edrych i fyny rhwng y gwymon

Darllen mwy: Gwyddorau Eigion

Mae Gwyddorau Eigion ym Mangor yn unigryw am ei fod yn cwmpasu astudiaeth o bob agwedd ar amgylchedd môr y byd, o aberoedd ac arfordiroedd i ddyfnderoedd y cefnfor. Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu Gwyddorau Eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.

Ymyl clogwyn cefnfor creigiog

Darllen mwy: Daeareg

Gwyddor sy'n astudio strwythur ffisegol y Ddaear yw Daeareg gan edrych ar sut yr esblygodd, a'r prosesau sydd wedi siapio ei esblygiad. Mae angen Eigionegwyr Daearegol i roi sylw i faterion megis archwilio safleoedd alltraeth mewn perthynas ag isadeiledd ynni adnewyddadwy a chwilio am olew a nwy, newid yn yr hinsawdd ac yn lefel y môr, ac erydu arfordirol.