Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn ogystal â dysgu hanfodion cyfrifiadureg a sgiliau rhaglennu uwch, byddwch yn elwa o ddysgu sy'n ymwneud â diddordebau ymchwil y staff academaidd. Mae graffeg gyfrifiadurol, deallusrwydd ac asiantau artiffisial a chyfathrebu data ymhlith yr arbenigeddau y gellir eu hastudio yn ystod y cwrs. Os yw'r meysydd hyn yn apelio atoch, dyma'r cwrs Cyfrifiadureg i chi.
Mae ein nod yn syml - rydym eisiau eich helpu i ddod yn weithiwr proffesiynol cyfrifiadurol gyda'r gallu i ddysgu am y wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifiadureg. Ar ôl graddio gydag un o'n graddau cyfrifiadureg dylech allu cael swydd dda yn y diwydiant cyfrifiadureg yn y DU neu'n wir gydag unrhyw un o'r cwmnïau cyfrifiadurol rhyngwladol, neu astudio am radd uwch fel gradd Meistr neu PhD (sydd hefyd ar gael ym Mangor).
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Efallai byddwch yn gymwys i gael Bwrsariaeth Cyfrifiadureg arbennig gwerth £1,500 neu Ysgoloriaeth Cyfrifiadureg gwerth £1,500 dros 3 blynedd. Gweler y dudalen hon am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â'r tiwtor derbyn.
- Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron wedi eu rhwydweithio sy'n defnyddio meddalwedd sy'n safonol yn y diwydiant a'n llyfrgell ein hunain.
- Mae ein hymchwil a'n cysylltiadau eraill â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.
- Yn aml, cynhelir projectau blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni lleol - sy'n rhoi mantais i chi pan fyddwch yn chwilio am waith.
- Dilysir y radd hon gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain sef y sefydliad siartredig ym maes technoleg gwybodaeth.
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr - a gynlluniwyd i roi'r cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau a chefnogi'r gwaith o gyflwyno modiwlau pensaernïaeth gyfrifiadurol.
Cynnwys y Cwrs
Yn ystod y cwrs, byddwch yn treulio tua 12 awr mewn darlithoedd ac 8 awr mewn labordai bob wythnos. Byddwch hefyd yn cael tiwtorialau mewn rhai modiwlau a bydd rhaid i chi weithio ar ddylunio meddalwedd a chwblhau gwahanol aseiniadau datrys problemau.
Cewch gyfle i ymgymryd â phrojectau meddalwedd mawr a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau dylunio creadigol a thechnegol yn ogystal â chymhwyso'r egwyddorion damcaniaethol byddwch wedi eu dysgu.
Asesir modiwlau trwy arholiadau, asesu parhaus neu gyfuniad o'r ddau. Gall yr asesu parhaus gynnwys elfen ymarferol dan oruchwyliaeth neu astudiaeth annibynnol, a gwaith ysgrifennu adroddiadau i ddilyn. Mae canlyniadau eich modiwl a marciau eich project unigol yn cyfrannu at farc terfynol eich gradd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cyfrifiadureg .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Gorfodol:
Costau papur, beiros a deunyddiau ysgrifennu cyffredinol ar gyfer rhai aseiniadau.
Costau Opsiynol:
- Prynu gwerslyfrau - mae hyn yn ddewisol, gwiriwch restrau darllen y modiwlau a byddwch yn gweld bod mwyafrif y testunau a argymhellir ar gael yn y llyfrgell.
- Teithio i ffeiriau swyddi
- Talu am le i barcio car, os oes angen.
- Costau dewisol am feddalwedd fel MATLAB (£53 ar gyfer fersiwn i fyfyrwyr - ond mae hwn ar gael i chi ei ddefnyddio yn y labordai gwyddoniaeth gyfrifiadurol am ddim).
Nodiadau
Bydd cost y cwrs yn aros fel y nodwyd yn flaenorol, ond bellach cyflwynir traethodau hir yn electronig yn unol â pholisi'r brifysgol.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021:
TGAU: gradd C/4 mewn Mathemateg. Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar o leiaf 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys 1 mewn Gwyddoniaeth/Mathemateg/Cyfrifiadureg/TG, ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn pwnc perthnasol (fel uchod): MMMDiploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Derbynnir Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Mynediad i Addysg Uwch mewn pwnc perthnasol fel y rhestrir uchod**: Llwyddo
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol.
**Gellir ystyried meysydd pwnc eraill fesul achos.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs yn eich paratoi at amrywiaeth o yrfaoedd mewn peirianneg meddalwedd datblygu rhaglenni'r we, rhaglennu, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli TG, gwerthu cyfrifiaduron a marchnata. Bydd elfen busnes a rheolaeth y cwrs hwn yn eich helpu i fod yn rheolwr project.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol