Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn.
Mae cymdeithasegwyr yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau â’i gilydd. Mae’r cwrs gradd yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill?
Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun.
Gradd yw hon sydd yn defnyddio dealltwriaeth gymdeithasegol er mwyn eich galluogi i ddeall a beirniadu sut mae cymdeithas yncyflenwi anghenion sylfaenol pobl drwy bolisi cymdeithasol. Byddwn yn archwilio polisïau o ran rhannu adnoddau (y system lles), rhywle i fyw (polisïau tai), hybu iechyd, a sicrhau cyfiawnder.
Trydydd elfen y radd ydy dysgu dulliau ymchwil. Wrth ddeall sut mae darganfod ffeithiau trwy ymchwil byddwn yn arfogi myfyrwyr i ddeall a beirniadu’r hyn a gaiff ei dderbyn fel ffaith o ran polisïau cymdeithasol ac o ran ein dealltwriaeth o gymdeithas.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol, ac yn eich annog i ddatblygu'ch diddordebau eich hunain.
- Mae'r modiwlau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, felly byddwch yn astudio mewn amgylchedd lle byddwch yn cyfarfod llawer o siaradwyr Cymraeg eraill.
- Mae’r cwrs yn canolbwyntio yn arbennig ar Gymru a materion Cymreig mewn fframwaith Ewropeaidd.
- Mae ein staff yn ymchwilwyr cydnabyddedig yn eu meysydd pwnc, ac mae gan yr uned record dda o gynhyrchu graddedigion ar gyfer graddau MPhil a PhD, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen wedyn i wneud ymchwil bellach.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Ar gyfer anrhydedd sengl, byddwch yn dilyn 6 modiwl gorfodol; ar gyfer gradd gyd-anrhydedd byddwch yn dilyn 4 modiwl gorfodol ym mhob pwnc gyda’r dewis o ddilyn 2 fodiwl pellach.
- Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol
- Cymdeithaseg a’r Byd Cyfoes
- Sgiliau Ymchwil
Cewch hefyd ddewis o fodiwlau sydd yn adlewyrchu ein harbenigedd ym meysydd troseddeg, cynllunio ieithyddol a pholisi a chymdeithaseg iechyd. Bydd rhain yn cynnwys:
- Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder
- Sgiliau Craidd yr Heddlu
- Cyflwyniad i Gynllunio Ieithyddol
Blwyddyn 2 a 3
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol isod, byddwch yn gwneud nifer o ddewisiadau sy’n adlewyrchu eich diddordebau er mwyn gweithio ar draethawd estynedig.
- Polisi Cymdeithasol
- Theori Gymdeithasol
- Dulliau Ymchwil
- Traethawd Hir (gweler isod)
Mae’r dewisiadau’n cynnwys: Problemau Cymdeithasol Cymru; Gender, Trais a Throsedd; Trosedd a Chyfiawnder; LleoliadGwaith Heddlu Gogledd Cymru; CynllunioIeithyddol yn Ewrop; Polisi Cymdeithasol a Phlant; Cymuned, Iaith a Diwylliant; Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes; Hawliau Ieithyddol.
Traethawd Hir
Yn ystod blwyddyn 2 a 3 bydd pob myfyriwr yn paratoi traethawd hir. I’r sawl sydd am ddilyn gyrfa sydd yn cynnwys elfen o ymchwil fel swyddog datblygu, addysgwr neu newyddiadurwr mae’r traethawd hir yn brawf o allu i lunio darn sylweddol o waith gwreiddiol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth lawn i’n myfyrwyr gan dynnu ar ein harbenigedd ni fel staff ac ar arbenigwyr allanol.
I’r sawl sydd am ddilyn gyrfa academaidd mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle am gyhoeddiad cyntaf neu gyflwyniad mewn cynhadledd all arwain at gyfleoedd ariannu ar gyfer ymchwil pellach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol (cyfrwng Cymraeg) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021
- Mae cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 120 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* e.e:
- Lefel A
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM - DMM
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- NCFE CACHE Lefel 3 Diploma Estynedig
- Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Bydd gradd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn eich paratoi'n ardderchog i ddilyn gyrfa mewn ystod eang o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys: Y Gwasanaeth Prawf, Yr Heddlu, Dysgu, Ymchwil, Gwaith Cymdeithasol, Y Gwasanaeth Sifil, Y Cyfryngau, Llywodraeth Ganolog a Lleol, Llysoedd Barn a Mudiadau Gwirfoddol.
Gwella eich Cyflogadwyedd
Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol