Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae wedi ei anelu at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio newyddiaduraeth a’r cyfryngau, yn cynnwys: newyddiaduraeth teledu a radio; newyddiaduraeth brint; newyddiaduraeth ddigidol; ymarfer y cyfryngau; cysylltiadau cyhoeddus; a hanes, datblygiad a moeseg newyddiaduraeth. Pwyslais y cwrs yw cynnig cydbwysedd rhwng agweddau ymarferol ac academaidd. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn egwyddorion newyddiaduraeth, yn ogystal â’r sgiliau technegol ac ymarferol sy’n ofynnol i’ch gwneud yn weithiwr proffesiynol medrus yn y maes.
Mae gan y staff ystod o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys hysbysebu, cyfraith a rheoleiddio’r cyfryngau, preifatrwydd, newyddiaduraeth ddigidol, newyddiaduraeth ddarlledu, ysgrifennu proffesiynol, comics, diwylliant gweledol, digwyddiadau teledu a chyfryngau byw, gemau a bydoedd rhithwir, a hyperdestunau, ac maent yn ddiweddar wedi ysgrifennu am bynciau fel ffilm a fideo, amlgyfrwng, systemau cyfryngau byd-eang, tirweddau rhithwir, rhwydweithiau cymdeithasol, teledu rhyngweithiol, cyfryngau a chynrychiolaeth, teledu cwlt a gemau cyfrifiadurol.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau gyda Blwyddyn Lleoliad BA PP5P. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae’r cyfuniad agos rhwng dulliau gweithredu academaidd a theoretig ac ymarfer creadigol yn un unigryw. Mae myfyrwyr yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy’n deillio o hynny megis ysgrifennu, perfformio, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
- Rydym yn arbenigo mewn nifer o feysydd allweddol: Ysgrifennu Proffesiynol a Newyddiaduriaeth; Cyfathrebu Cyfryngau a Digidol; Astudiaethau Ffilm; Astudiaethau Perfformio; Ymarfer Creadigol a’r Cyfryngau.
- Mae gennym gysylltiadau gwych â chwmnïau theatr, papurau newydd a’r diwydiant teledu.
- Mae llawer o aelodau staff yn ymarferwyr ac yn ymgynghorwyryn eu meysydd.
- Mae gennym ganolfan gyfryngau a’r holl offer priodol, gydag ystafelloedd golygu, stiwdios cynhyrchu, offer cyfryngau a chyfryngau digidol.
- Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau a digwyddiadau’r Diwydiannau Creadigol ym Mangor. Ceir ymweliadau rheolaidd gan awduron creadigol, gwneuthurwyr ffilm, newyddiadurwyr, dylunwyr, dramodwyr, gwneuthurwyr cyfryngau newydd gwadd a mwy, ac mae hyn yn annog myfyrwyr i ymwneud yn eang â’u diddordebau creadigol y tu allan i waith cwrs ffurfiol.
- Yn aml, cynhelir projectau blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni a gallent gynnwys gweithio mewn tîm gyda myfyrwyr o gyrsiau gradd yn y celfyddydau creadigol.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs yn gydbwysedd rhwng tasgau ymarferol a dadansoddol. Mae modiwlau newyddiaduraeth Ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu’r myfyriwr i gynhyrchu darnau newyddiadurol ar gyfer print, teledu, radio a’r we. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar gynnyrch ymarferol ac ar allu’r unigolyn i adfyfyrio’n feirniadol ar eu hymarfer. Asesir modiwlau eraill trwy arholiad ac aseiniad ac yn aml maent hefyd yn cynnig cyfle i gyflwyno gwaith ymarferol fel rhan o’r asesu. Wrth i chi fynd trwy’r radd, caiff llawer o’r gwaith astudio ei wneud mewn grwpiau dysgu bach gyda phwyslais ar ddysgu sgiliau gweithio grŵp a’r gallu i gyflawni darn o waith ar eich pen eich hun o’r syniad dechreuol i’r cwblhau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Angenrheidiol:
Anogir myfyrwyr i brynu’r llyfrau craidd ar gyfer modiwlau; mae’r gost arferol yn amrywio rhwng £20-£50 y modiwl 20 credyd. Mae’r holl feddalwedd ar gael ar systemau’r Brifysgol, ond efallai bydd myfyrwyr yn dewis prynu meddalwedd ar gyfer defnydd personol.
Bydd myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau cynhyrchu ffilm sy’n dewis ffilmio ar leoliad angen talu am deithio i’r lleoliadau ffilmio.
Costau Dewisol:
Gall rhain gynnwys costau ar gyfer digwyddiadau graddio gan yr Ysgol, teithiau maes dewisol, teithiau yn ystod yr Wythnos Groeso.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad yn 2021:
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (nid oes angen unrhyw bynciau penodol)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - DMM **
- Diploma Technegol/ Estynedig Uwch City & Guilds: a ystyrir fesul achos**
- Mynediad
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol), manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae elfennau ymarferol y radd hon yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i’r myfyrwyr o’r egwyddorion sy’n llywio ymarfer newyddiadurol. Mae nifer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant papurau newydd, ac ar deledu a radio, o flaen y camera ac fel rhan o’r tîm cynhyrchu. Mae nifer o raddedigion bob blwyddyn yn mynd ymlaen i ddatblygu eu gwaith ymhellach gyda ni trwy gyfnod o astudio ôl-radd, lle unwaith eto rydym yn cynnig cyfuniad o ddulliau beirniadol a chreadigol o astudio’r cyfryngau ac ymarfer yn y cyfryngau.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.