Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio'r Gymraeg ym Mangor. Mewn meysydd mor amrywiol â'r cyfryngau, addysg, y gwasanaeth sifil, cysylltiadau cyhoeddus, byd cyfieithu a llywodraeth leol, y mae galw aruthrol am rai sydd â gradd dda yn y Gymraeg.
Mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mangor wedi ymateb yn egnïol i'r alwad hon drwy greu cyrsiau diddorol a blaengar sy'n berthnasol i ofynion y byd modern. Iaith fyw y presennol yn hytrach na chrair o'r gorffennol yw'r Gymraeg ym Mangor. Yma cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Cymraeg gyda Blwyddyn Lleoliad BA Q56P. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar fel medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr.
- Mae gennym enw da o safbwynt safon ein haddysgu a gofal myfyrwyr.
- Mae'r staff yn weithgar ym meysydd ymchwil, beirniadaeth lenyddol ac ysgrifennu creadigol.
- Mae proffil uchel yr Ysgol a'r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod llawer o alw am ein myfyrwyr ni.
- Gallwch barhau i astudio yn yr Ysgol hyd at lefel MA, MPhil a PhD.
- Mae Bangor yn ddewis delfrydol os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi. Byddwn yn eich annog i ddatblygu'n siaradwr hyderus trwy gyfrwng dysgu mewn grwpiau bach a modiwlau arbennig.
Cynnwys y Cwrs
Cewch eich dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial a gweithdai bob wythnos. Ar ben hynny byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau.
Mae'r asesiad yn gyfuniad o waith cwrs ac arholiadau. Os ydych chi'n astudio cwrs gradd anrhydedd sengl, byddwch hefyd ym Mlwyddyn 3 yn gwneud traethawd hir ar bwnc y cytunwyd arno ymlaen llaw yn y flwyddyn olaf.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Os ydych chi'n dilyn cwrs gradd Cymraeg, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol a gallwch ddilyn rhai dewisiadau ychwanegol yn y pwnc.
Blwyddyn 1 - Iaith Gyntaf
Modiwlau gorfodol:
- Llên Gyfoes
- Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol
- Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol
- Defnyddio'r Gymraeg
- Llenyddiaeth y Cyfnod Modern Cynnar
- Theatr Fodern Ewrop
Dewisiadau:
- Gweithdy Creadigol
- Sgriptio Teledu
- Gwyddeleg Fodern
- Amryw fodiwlau eraill
Blwyddyn 1 - Ail Iaith
Modiwlau gorfodol:
- Ysgrifennu Cymraeg
- Cymraeg Llafar
- Golwg ar Lenyddiaeth
- Llên a Llun
Dewisiadau:
- Dewisir modiwlau eraill o blith y rhai iaith gyntaf
Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3
Yn dibynnu ar eich union gwrs gradd, byddwch yn dilyn rhywfaint o fodiwlau gorfodol, ond gan adeiladu ar yr amrediad o fodiwlau sydd ar gael yn y flwyddyn gyntaf, cewch hefyd ddewis o blith rhestr helaeth o fodiwlau yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn.
Gallwch ddewis modiwlau ar wahanol fathau llenyddol:
- Rhyddid y Nofel - golwg ar genre y nofel, o Daniel Owen i Dewi Prysor.
- Y Theatr Gymraeg Fodern - o glasuron Saunders Lewis hyd at ddramâu cyfoes heriol Aled Jones Williams.
- Barddoniaeth Fodern - o 'Ymadawiad Arthur' ramantaidd T. Gwynn Jones hyd at 'Pam y Creodd Duw Grocrotjis?' ddigrif-ddwys Gwyn Thomas.
- Y Sgrin Fach Gymraeg - gan gynnwys cyfresi dramâu teledu pwerus Meic Povey a Siwan Jones.
Gallwch ddewis modiwlau o wahanol gyfnodau hanesyddol…
- Canu Llys - golwg ar gonglfeini'r traddodiad barddol Cymraeg o gyfnod y Cynfeirdd Taliesin ac Aneirin hyd at y Gogynfeirdd.
- Chwedlau'r Oesoedd Canol - cyflwyniad i ryddiaith ffantastig y Mabinogi a chwedlau Cymraeg sydd wedi cyrraedd pedwar ban byd.
- Beirdd yr Uchelwyr - golwg ar waith y Cywyddwyr ac ar rai o'u prif genres fel mawl, marwnad a serch.
- Dafydd ap Gwilym - cyfle i ganolbwyntio ar farddoniaeth un a ystyrir gan amryw'n fardd mwyaf yr iaith Gymraeg erioed!
- Llên a Chymdeithas 1500-1800 - cyfle i drin a thrafod gweithiau dylanwadol meistri rhyddiaith fel Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
- Llenyddiaeth Gymraeg America - cyfle i astudio llên Gymraeg o gyfandir arall ymhell y tu hwnt i ffiniau daearyddol Cymru.
Cewch gyfle i drin yr iaith yn ymarferol…
- Ymarfer Ysgrifennu - cyfle i gryfhau eich sgiliau ysgrifenedig ac ymarfer gwahanol gyweiriau ieithyddol.
- Medrau Cyfieithu - cyfle i ddatblygu sgiliau hynod ddefnyddiol ar gyfer gweithle'r Gymru gyfoes.
Cewch gyfle i drin yr iaith yn hanesyddol ac yn wleidyddol…
- Datlygiad yr Iaith - twf a datblygiad yr iaith Gymraeg a'i hanes o'i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrychoedd Cymdeithas yr Iaith yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.
A chewch gyfle i drin yr iaith yn greadigol…
- Gweithdy Rhyddiaith - cyfle i ddatblygu ffolio o weithiau rhyddiaith creadigol.
- Gweithdy Cynganeddu - os am ennill y Gadair Genedlaethol, dyma'r modiwl i chi!
- Gweithdy Barddoniaeth - cyfle i ddatblygu portffolio o gerddi rhydd.
- Sgriptio - cyfle i ddatblygu sgiliau plotio a chymeriadu drwy lunio drama ar gyfer y llwyfan neu'r sgrin fach.
- O'r Llyfr i'r Llwyfan - cyfle i drafod sut yr aed ati i addasu clasuron rhyddiaith fel Rhys Lewis a Cysgod y Cryman ar gyfer y llwyfan ac i gymhwyso hynny at dasg addasu eich hun.
Cewch gyfle hefyd i drafod llenyddiaeth o bersbectif gwahanol …
- Athroniaeth a Llenyddiaeth - a yw ffuglen yn gallu bod yn wir? A yw'r awdur wedi marw? Beth yw llenyddiaeth?
Ac os nad yw'r holl ddewis yma'n ddigon ichi, ym mlwyddyn olaf eich cynllun gradd, cewch gyfle i fynd i'r afael â thestun sydd o wir ddiddordeb ichi…
- Traethawd Estynedig - beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, boed y stori fer neu'r blog, Guto'r Glyn neu neu Ifor ap Glyn, llenyddiaeth plant neu bapurau bro, dyma'ch cyfle i ymchwilio ymhellach a gwir ymestyn eich diddordeb!
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cymraeg (ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau dewisol:
Gall myfyrwyr ddewis prynu llyfrau os ydynt am gael eu copïau eu hunain, ond nid yw hyn yn orfodol (bydd yr holl lyfrau ar gael yn y llyfrgell). Bydd union faint y gost hon yn dibynnu'n llwyr ar y myfyriwr unigol, ond gellid amcangyfrif y bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis gwario rhyw £20 y modiwl.
Os bydd myfyrwyr yn mynychu'r seremoni raddio, telir c.£12 am docyn i'r myfyriwr a dau westai, a rhyw c.£40 i logi gwn (gall y prisiau hyn newid).
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg)
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - DDM**
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos** Cwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg). Mwy o wybodaeth yma.
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
- *I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
- **Gellir eu hystyried ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg, e.e. Lefel A a'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i swyddi ym maes addysg, y cyfryngau/newyddiaduraeth, ysgrifennu creadigol, cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiant cyfieithu, cynllunio ieithyddol, y diwydiant treftadaeth a TG. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich darparu gyda sgiliau dadansoddol trwyadl a sgiliau cyflwyno fydd yn hanfodol mewn nifer o yrfaoedd eraill. Rydym hefyd yn cynnig cyfleon ôl-radd ardderchog ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol