Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn agor nifer o lwybrau gyrfa. Mae’n cynnig sylfaen academaidd dda mewn Cymraeg (dwy ran o dair o’r cwrs) ynghyd â nifer o fodiwlau ymarferol ac academaidd mewn Newyddiaduraeth. Ceir cyfle i flasu newyddiaduraeth heb gau’r drws ar yrfa yn yr holl feysydd sy’n gofyn am radd mewn Cymraeg.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Cymraeg gyda Newyddiaduraeth gyda Blwyddyn Lleoliad BA QP5P. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn cynnig dewis eang o fodiwlau, yn cynnwys meysydd blaengar megis medrau cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau ffilm a theatr.
- Mae gennym enw da o safbwynt safon ein haddysgu a gofal myfyrwyr.
- Mae’r staff yn weithgar ym meysydd ymchwil, beirniadaeth lenyddol, ysgrifennu creadigol a’r cyfryngau.
- Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod llawer o alw am ein myfyrwyr ni.
- Gallwch barhau i astudio yn yr Ysgol hyd at lefel MA, MPhil a PhD.
- Dysgir modiwlau Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, lle ceir newyddiadurwyr profiadol i’ch hyfforddi.
Gofyn cwestiwn
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Ar ben hynny, byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau.
Bydd y cyrsiau Newyddiaduraeth yn cynnwys gwaith ymarferol. Bydd yr asesiad terfynol yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Cymraeg
Modiwlau gorfodol:
- Rhyddiaith yr Oesoedd Canol
- Llên Gyfoes
- Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol
- Yr Iaith ar Waith
- Llên y Cyfnod Modern Cynnar
Modiwlau dewisol:
- Gweithdy Creadigol
- Theatr Fodern Ewrop
- Sgriptio Teledu
Blwyddyn 2 a 3
Modiwlau gorfodol:
- Ymarfer Ysgrifennu
- Traethawd Estynedig
- Medrau Cyfieithu
Byddwch hefyd yn dethol dewisiadau o blith ystod eang o fodiwlau Cymraeg BA (Anrhydedd).
Newyddiaduraeth
Blwyddyn 1
Modiwlau gorfodol:
- Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol
- Cyflwyniad i Yarfer y Cyfryngau
Blwyddyn 2 a 3
Modiwlau gorfodol
- Newyddiaduraeth Ymarferol Ddigidol
- Newyddiaduraeth: Moeseg, Cyfraith a Democratiaeth
Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cymraeg gyda Newyddiaduraeth .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau dewisol:
Gall myfyrwyr ddewis prynu llyfrau os ydynt am gael eu copïau eu hunain, ond nid yw hyn yn orfodol (bydd yr holl lyfrau ar gael yn y llyfrgell). Bydd union faint y gost hon yn dibynnu’n llwyr ar y myfyriwr unigol, ond gellid amcangyfrif y bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis gwario rhyw £20 y modiwl.
Os bydd myfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio, telir c.£12 am docyn i’r myfyriwr a dau westai, a rhyw c.£40 i logi gŵn (gall y prisiau hyn newid).
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg)
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - DMM**
- Diploma Technegol Uwch/Estynedig City & Guilds: ystyrir fesul achos**
- Cwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Mwy o wybodaeth yma.
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
- *I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
**Gellir eu hystyried ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg, e.e. Lefel A a'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn mynd ymlaen i swyddi ym maes addysg, y cyfryngau/newyddiaduraeth, ysgrifennu creadigol, cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiant cyfieithu, cynllunio ieithyddol, y diwydiant treftadaeth a TG. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich darparu gyda sgiliau dadansoddol trwyadl a sgiliau cyflwyno fydd yn hanfodol mewn nifer o yrfaoedd eraill. Rydym hefyd yn cynnig cyfleon ôl-radd ardderchog ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.