Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn (cod UCAS W241). Noder bod cod UCAS gwahanol i'r cwrs Dylunio Cynnyrch cyfrwng Saesneg.
Bydd y cwrs gradd yma yn eich paratoi am yrfa werth chweil a llawn her mewn dylunio cynnyrch – gyrfa lle gellwch wneud gwahaniaeth.
Ewch i’r dudalen yma i wybod mwy am y Ganolfan Dylunio a Thechnoleg. Cewch hefyd fwy o wybodaeth am y Ganolfan Dylunio a Thechnoleg ar ein tudalen Facebook neu drwy wylio ein fideos.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae’r Ganolfan Dylunio a Thechnoleg yn rhan o’r Ysgol Addysg.
- Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi cael enw da cynyddol am gynhyrchu gwaith o safon uchel iawn, a arddangoswyd yn genedlaethol, ac wedi cael llawer iawn o sylw gan y cyfryngau.
- Rydym hefyd yn ganolfan ranbarthol achrededig hyfforddi CAD/CAM.
- Mae’r Ganolfan yn darparu llawer o gyfleusterau ac adnoddau, sy’n cynnwys cefnogaeth dechnegol dda a’r cyfleusterau TG diweddaraf.
- Cymhareb staff/myfyrwyr ardderchog.
- Bydd myfyrwyr yn cael credydau mewn CaD a meddalwedd cyhoeddi bwrdd gwaith.
Cynnwys y Cwrs
- O leiaf 19 awr o amser cyswllt yr wythnos mewn darlithoedd/seminarau
- Darllen, paratoi ar gyfer seminarau, cwblhau gwaith cwrs
- Asesu elfennau Astudiaethau Proffesiynol drwy waith cwrs ac arholiadau
- Asesiad parhaus o fodiwlau astudiaethau pwnc
- Monitro profiad gwaith gan diwtoriaid
- Tiwtorialau personol rheolaidd.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r cwrs yn cael ei lunio i roi sylfaen eang i chi mewn dylunio cynnyrch, a bydd yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd ymhob blwyddyn:
- Astudiaethau Proffesiynol
- Astudiaethau Pwnc (dau fodiwl)
- Profiad Gwaith
Mewn Astudiaethau Proffesiynol, byddwch yn dysgu am y materion sy’n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch:
- Sefydliadau a Rheolaeth
- Rheoli Cynnyrch
- Arloesi
- Marchnata
Mewn modiwlau Astudiaethau Pwnc, byddwch yn dysgu am ddylunio a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a gewch drwy ddylunio cynnyrch a chynhyrchu/mireinio prototeipiau:
- Egwyddorion Dylunio
- Creadigrwydd
- Cyfathrebu a Modelau Dylunio
- Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Cynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (Cam)
- Dadansoddiad Elfen Gyfyngedig (FEA)
- Sgiliau Cynhyrchu
- Prototeipio
- Datblygiad Cynaliadwy
- Sgiliau Cyflwyno
Mae Profiad yn y Gweithle yn cynnwys 24 wythnos dros dair blynedd:
- Bloc 8 wythnos yn ystod pob blwyddyn
- Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol
- Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt coleg
- Cynhyrchu
- Marchnata
- Arweinyddiaeth a Strategaeth
Bydd project gradd y flwyddyn olaf yn dod â’r holl elfennau uchod ynghyd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Dylunio Cynnyrch (cwrs cyfrwng Cymraeg) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad yn 2021:
Mae cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 120 o bwyntiau tariff o gymwysterau lefel 3* e.e:
- Lefel A (yn cynnwys gradd C mewn Dylunio a Thechnoleg neu bwnc Celf/Peirianneg)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - DDM
- Diploma Estynedig/Technegol Uwch City & Guilds: MMP - DDM
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 80- 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg). Cewch ragor o wybodaeth yma.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – i weld rhestr lawn, cyfeiriwch at dariff newydd UCAS ar www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.