Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod ac amcan y cyrsiau hyn yw perfformio, cyfansoddi, ac astudio cerddoriaeth o bob cyfnod mewn awyrgylch greadigol fyrlymus ac ysgolheigaidd.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Cerddoriaeth gyda Blwyddyn Lleoliad BMus W32P. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd. Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau sy’n eich galluogi i lunio’ch cwrs gradd i adlewyrchu’ch diddordebau a’ch cryfderau.
- Ymhlith ein haelodau staff cyfeillgar a hynod gefnogol, fe geir cyfansoddwyr, cerddoregwyr a pherfformwyr sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth eang o feysydd ym maes cerddoriaeth.
- Gwneir llawer o’r dysgu mewn grwpiau bach sy’n creu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a chefnogol.
- Mae ein cyfres gyngherddau yn cynnwys cyngherddau cerddoriaeth siambr (a phreswyliaeth flynyddol gan Ensemble Cymru a’r Benyounes Quartet, sydd hefyd yn cynnigdosbarthiadau meistr); datganiadau gan gantorion ac offerynwyr blaenllaw, cyngherddau o gerddoriaeth acwstmatig a roddir gan Electroacwstig Cymru, ac ymweliadau cyson gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl. Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnal Gŵyl Cerddoriaeth Newydd. Mae tocynnau tymor ar gael i fyfyrwyr am bris rhesymol iawn.
- Mae gennym gôr mawr a cherddorfa symffoni, côr siambr, grwpiau cerddoriaeth gynnar ac amrywiaeth o ensemblau eraill.
- Rhoddir cyfle i berfformwyr chwarae concertos gyda cherddorfa symffoni’r Brifysgol. Perfformir cyfansoddiadau gan ein myfyrwyr, yn aml gan gerddorion proffesiynol sy’n ymweld â ni. Mae Cymdeithas Gerdd y Brifysgol hefyd yn cynnal cerddorfa a chôr ac mae cymdeithasau eraill Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys band pres, band jazz, a chymdeithas sioeau cerdd.
- Mae gennym ddwy neuadd gyngerdd odidog ac adeiladau adrannol sy’n cynnwys ystafelloedd dysgu modern, lleoliadau ymarfer, mannau astudio, a nifer o ystafelloedd ymarfer tawel unigol, sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Hefyd mae nifer o bianos cyngerdd ac unionsyth, organau, telynau, offerynnau taro a harpsicordiau. Mae ein 5 stiwdio, sydd ar agor 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, yn cynnwys offer o safon ryngwladol ar gyfer recordio, ymchwil a chyfansoddi. Mae gennym dros 3,000 o gryno ddisgiau ac 20,000 o sgorau.
- Mae gennym amrywiaeth helaeth o adnoddau electronig, yn cynnwys Naxos Music Libary a Grove Online. Mae yna nifer o gyfrifiaduron mynediad agored, sydd â Sibelius a phecynnau meddalwedd cerddoroleraill.
- Prifysgol Bangor yw’r lle mwyaf blaenllaw yn y byd i astudio Cerddoriaeth Cymru. Mae gennym Archif Cerddoriaeth Draddodiadol (sy’n cynnwys casgliad o dros 300 o offerynnau o ddiwylliannau byd-eang), Archif Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig (sydd â chasgliad nodedig o recordiau), a Chasgliad Crossley-Holland (sy’n cynnwys casgliad o dros 600 o offerynnau o ddiwylliannau bydeang).
- Cynigir Ysgoloriaethau Perfformio i’r offerynwyr neu’r cantorion mwyaf addawol. Cewch fwy o fanylion gan y Tiwtor Mynediad.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn cael tua 12 awr o ddarlithoedd yr wythnos gan gynnwys seminarau a dosbarthiadau tiwtorial, ynghyd â hyfforddiant unigol os byddwch yn dilyn modiwl Perfformio Unawdol. Ar ben hynny, byddwch yn treulio amser yn darllen gwaith cefndir, gwrando ar gerddoriaeth, cwblhau traethodau a gwaith cwrs a pharatoi ar gyfer seminarau, ynghyd ag ymarfer a pherfformio mewn ensembles, corau a cherddorfeydd. Mae nifer o fodiwlau yn cynnwys ymweliadau maes, er enghraifft â chyngherddau, cwmnïau recordio a chyhoeddwyr cerddoriaeth. Bydd rhai yn cynnwys lleoliadau byr y tu allan i’r Brifysgol (gyda’r modiwl Cerddoriaeth yn y Gymuned er enghraifft). Mae gan yr Ysgol gyswllt agos â rhai o brif sefydliadau cerddorol Prydain gan gynnwys Cerddorfa Philharmonig Lerpwl, Sinffonietta Llundain, Cwmni Sain (Llandwrog) ayyb. Gallwch ddisgwyl treulio rhwng traean a dwy ran o dair o’r flwyddyn olaf yn gweithio ar brojectau cerddoriaeth annibynnol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cerddoriaeth .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Gorfodol:
Modiwl Craidd (WXM 1001, The Study of Music): bydd angen prynu’r llyfr A History of Western Music: £25 (pris arferol £39).
NEU
Modiwl Craidd (WXC 1001, Astudio Cerddoriaeth): bydd angen prynu’r llyfr Hanes Cerddoriaeth y Gorllewin: £15 (pris arferol £25) [fersiwn blaenorol o’r fersiwn Saesneg].
Efallai bydd angen printio aseiniad ar gyfer lleiafrif o fodiwlau (h.y. os nad ydynt yn addas ar gyfer eu cyflwyno ar-lein). Bydd y costau yn amrywio.
Costau Angenrheidiol:
Offerynnau, deunyddiau ar gyfer offerynnau (e.e. llinynnau, brwyn), trwsio offerynnau. Bydd y costau yn amrywio.
Tocynnau cyngherddau Pontio – bydd y gost yn amrywio, ond ar gyfartaledd tua £50 y flwyddyn.
Costau Dewisol:
Modiwl dewisol yn Blwyddyn 1 - Composition (WXK 1011) neu Cyfansoddi (WXC 1011): bydd angen prynu’r llyfr Composing Contemporary Music neu Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes: £10 (pris arferol £15).
Modiwl dewisol yn Blwyddyn 3 - Teaching in Context (WXM 3270): Archwiliad DBS, os yn berthnasol, yn ddibynnol ar y project a ddewisir: £44.
Meddalwedd (os y myfyrwyr am weithio o gartref yn hytrach nag ar y campws).
Copïau o gerddoriaeth (os yw myfyrwyr yn dymuno defnyddio copïau eu hunain yn hytrach na’r rhai o’r Llyfrgell).
Teithiau dewisol (e.e. gweithdy blynyddol Cerddorfa Genedlaethol Cymru BBC yn Nghaerdydd) – mae’r gost yn amrywio.
Tocynnau ychwanegol i De Graddio yr Ysgol: £10 y pen.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad 2021:
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys gradd C mewn Cerddoriaeth neu ar y cyd â chymwysterau amgen a restrir isod **)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth)
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC mewn Cerddoriaeth: MMP - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - DMM**
- Diploma Technegol/ Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Mynediad**
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol,er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o
wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg), manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd C mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Tra bo llawer o raddedigion yn dilyn gyrfaoedd ym maes cerddoriaeth, mae’r cyrsiau gradd hyn hefyd yn baratoad da ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi mewn gweinyddu, masnach, a rheoli. Mae ein graddedigion wedi dod yn berfformwyr proffesiynol, cyfansoddwyr, athrawon, gweinyddwyr celfyddydau, therapyddion cerdd, cyhoeddwyr cerddoriaeth, llyfrgellwyr, rheolwyr cyngherddau, rheolwyr llwyfan, cynhyrchwyr recordio a darlledu, a pheirianwyr sain. Mae llawer o gynfyfyrwyr wedi gwneud hyfforddiant cerddorol ychwanegol ar ôl y cyrsiau gradd hyn, fel perfformwyr, ysgolheigion neu gyfansoddwyr, a cheir cyfleoedd i ddilyn y rhain i gyd ym Mangor.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.