Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae modiwlau yn y maes hwn yn cyfuno gwaith ac ymarfer beirniadol a chreadigol, yn dibynnu ar eich diddordebau a’ch cynlluniau o ran gyrfa. Ym Mangor, rydym wedi ymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bach a chyflwynir y mwyafrif o’n modiwlau trwy weithdai wythnosol neu seminarau.
Mae gan ddarlithwyr ffilm amrywiaeth o ddiddordebau gan gynnwys cynnwys Sinema America, ffilmiau Prydeinig ac Ewropeaidd, a sinemâu eraill y byd, gender, dadansoddi ffilmiau, Stanley Kubrick, ffilm a hanes, ffilm a gwleidyddiaeth, technoleg ddigidol a ffilm, ysgrifennu sgriptiau ac ysgrifennu ar gyfer y sgrin, gwneud ffilmiau, y cyfryngau a ffilm yng Nghymru, actio a pherfformio, iaith a ffilm, blogio a phodledu, gemau cyfrifiadurol a ffilm, sêr ffilm a ffilm ar y teledu. Yn ddiweddar mae darlithwyr ffilm wedi ysgrifennu llyfrau ac erthyglau ar bynciau fel Stanley Kubrick, Diwylliant a Ffilm America, Llywyddiaeth yr UD ar Ffilm a Theledu, Ffilmiau Iddewig, a thechnolegau newydd gwylio ffilmiau.
Pam Dewis Bangor?
- Mae astudio’r Cyfryngau ym Mangor yn unigryw oherwydd y cyfuniad agos rhwng dulliau gweithredu beirniadol a theoretig ac ymarfer creadigol. Mae myfyrwyr yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy’n deillio o hynny megis ysgrifennu, perfformio, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
- Rydym yn arbenigo mewn nifer o feysydd allweddol: Ysgrifennu Proffesiynol a Newyddiaduriaeth; Cyfathrebu Cyfryngau a Digidol; Astudiaethau Ffilm; Astudiaethau Perfformio; Ymarfer Creadigol a’r Cyfryngau. Mae gennym ddiddordebau ymchwil ym mhob maes o Astudiaethau Ffilm, gyda rhaglenni ymchwil yn cael eu cynnal mewn nifer o feysydd allweddol.
- Mae gennym gysylltiadau gwych â chwmnïau theatr, papurau newydd a’r diwydiant teledu.
- Mae llawer o aelodau staff yn ymarferwyr ac yn ymgynghorwyr yn eu meysydd.
- Mae gennym ganolfan gyfryngau a’r holl offer priodol, gydag ystafelloedd golygu, stiwdios cynhyrchu, offer cyfryngau a chyfryngau digidol.
- Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau, fideo gynadleddau a digwyddiadau’r Diwydiannau Creadigol ym Mangor.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs yn cynnig cydbwysedd rhwng tasgau ymarferol a dadansoddol. Mae modiwlau ymarfer y cyfryngau yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: cynhyrchu stiwdio, ffilmio a golygu camera sengl, a chynhyrchu radio. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar gynnyrch ymarferol ac ar allu’r unigolyn i adfyfyrio’n feirniadol ar eu hymarfer. Asesir modiwlau ar theori ffilm, ffilm a diwylliant, dadansoddi ffilm a rhaglenni dogfen trwy arholiad ac aseiniad ac yn aml maent hefyd yn cynnig cyfle i gyflwyno gwaith ymarferol fel rhan o’r asesu. Wrth i chi fynd trwy’r radd, caiff llawer o’r gwaith astudio ei wneud mewn grwpiau dysgu bach gyda phwyslais ar ddysgu sgiliau gweithio grŵp a’r gallu i gyflawni darn o waith ar eich pen eich hun o’r syniad dechreuol i’r cwblhau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Astudiaethau Ffilm .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (nid oes angen unrhyw bynciau penodol)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP - DMM **
- Diploma Technegol/ Estynedig Uwch City & Guilds: a ystyrir fesul achos**
- Mynediad
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o
wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol), manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion yn gweithio yn y diwydiannau ffilm, cyfryngau a chreadigol, addysgu, mewn datblygu’r celfyddydau, mewn rhaglennu ffilm, gwneud ffilmiau ac amserlennu, ac mewn meysydd eraill lle ystyrir bod eu synnwyr gweledol datblygedig a’u gallu i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol gyda ffilm yn bwysig iawn. Mae nifer o raddedigion bob blwyddyn yn mynd ymlaen i ddatblygu eu gwaith ymhellach gyda ni trwy gyfnod o astudio ôl-radd, lle unwaith eto rydym yn cynnig cyfuniad o ddulliau beirniadol a chreadigol o astudio ffilm ac ymarfer ffilm.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol