Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Mae gan y cwrs cyfrwng Saesneg god UCAS gwahanol.
Mae'r radd gyffrous hon gyda SAC yn eich cymhwyso i weithredu fel athro cynradd/athrawes gynradd, gyda sgiliau arbennig i ddysgu yng Nghymru. Fodd bynnag, gellir ei defnyddio hefyd i ddysgu mewn gwledydd eraill, yn cynnwys Lloegr. Ysgrifennwyd y cwrs mewn cydweithrediad ag athrawon mewn Ysgolion Arweiniol yng Ngogledd Cymru.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi'u hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Byddwch wedi eich lleoli ar Safle’r Normal sydd â’i lyfrgell a’i ganolfan adnoddau ei hun lle mae dewis eang o adnoddau dysgu dwyieithog cynradd ac adnoddau blynyddoedd cynnar.
- Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyffrous a byddwch yn cyfarfod staff a hyfforddeion sy’n gweithio ar amrywiaeth o brojectau datblygu cwricwlwm ac ymchwil.
- Mae ysgolion partneriaeth y Brifysgol yn cynnig amgylchedd hyfforddi llawn amrywiaeth sydd, yr un pryd, yn gefnogol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
- Astudiaethau Proffesiynol a Phedagogaidd 1
- Astudiaethau Craidd 1
- Profiad Ysgol 1: Hanfodion Dysgu, Addysgu ac Asesu
- Hanfodion datblygiad iaith a mathemateg
- Datblygu Iechyd a Lles
- Archwilio'r Byd
Blwyddyn 2
- Astudiaethau Proffesiynol a Phedagogaidd 2
- Astudiaethau Craidd 2
- Profiad Ysgol 2: Cynnydd mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu
- Creadigrwydd a mynegiant trwy iaith a'r celfyddydau
- Cynnydd mewn datblygiad mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg
- Hunaniaeth a Dinasyddiaeth
Blwyddyn 3
- Astudiaethau Proffesiynol, Pedagogaidd a Chraidd 3
- Ymchwil Agos at Ymarfer: (Traethawd Hir)
- Profiad Ysgol 3: Arloesi ac Arweinyddiaeth mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu
- Astudiaethau pwnc: Arloesi mewn Cynllunio a Chyflwyno Cwricwlwm
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Addysg Gynradd (Cwrs cyfrwng Cymraeg) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021:
• Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariff, 96- 120 o bwyntiau tariff o Lefel A TAG neu gyfwerth.*
• Gradd B/Gradd 5 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.**Lle ceir yr hyn sy'n cyfateb i radd B mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael o leiaf radd C/gradd 4 yn yr arholiad TGAU cyfatebol yn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf.
• Rhaid cael Gradd B/Gradd 5 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd hefyd.
• Bydd ymgeiswyr sydd â Gradd C mewn mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf yn gymwys i wneud cais a dechrau'r cwrs.Rhoddir cyfle a chefnogaeth i'r myfyrwyr hyn sefyll profion cyfwerthedd gradd B TGAU yn ystod y rhaglen. Ni ddyfernir SAC nes bod y myfyriwr wedi llwyddo yn y prawf cyfwerthedd. Derbynnir llawer o gymwysterau fel rhai cyfwerth â gradd B mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg - cysylltwch â ni am wybodaeth.
• TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth.
• Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol o ran ceisio gwella eu defnydd personol o'r Gymraeg.
• Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y gwledydd lle buont yn byw.
• Dylai ymgeiswyr adfyfyrio'n ofalus ar eu gallu i fodloni trylwyredd a gofynion y proffesiwn. Cyfeiriwch at yr ystyriaethau ar gyfer ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
• Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS lefel 7 yn gyffredinol (heb unrhyw elfen dan 6.5). Mae cymwysterau Lefel 3* yn cynnwys lefel A, BTEC, Access, Irish Highers, Bagloriaeth Ryngwladol, Bagloriaeth Cymru, Scottish Advanced Highers ac eraill - i gael rhestr lawn edrychwch ar y tariff UCAS newydd yn www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu. Mae'n eich paratoi'n llawn i weithredu fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddogaethau o fewn addysg a datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol. Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth. O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil ddiweddaraf ym maes arweinyddiaeth. Mae'r arbenigedd hon yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig, Canolfannau Awyr Agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n benodol i'ch diddordebau.
Cysylltiadau â diwydiant:
Mae'r rhaglen wedi'i llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Gyda GCB, byddwch yn ennill cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau allgyrsiol (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, gwaith rhan-amser ayyb).
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.