Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Fel myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg, Theatr a Pherfformio ym Mangor, byddwch yn datblygu eich diddordebau unigol mewn agweddau ar lenyddiaeth, drama a theatr. Byddwch yn archwilio ystod eang o ymarfer gan gynnwys dyfeisio, theatr gymunedol, sgiliau actio a pherfformio unigol ac mewn grŵp. Yn sail i'r gwaith hwn mae'r astudiaeth feirniadol o lenyddiaeth, a drama o ystod o gyfnodau hanesyddol o'r Oesoedd Canol i'r cyfoes. Mae modiwlau'n cyfuno'r creadigol a'r perfformiadol gyda sylfaen feirniadol yn y theatr.
Wrth ichi symud ymlaen, gallwch ddewis modiwlau sy'n eich helpu i gael trosolwg eang, neu gallwch arbenigo mewn pynciau neu ffurfiau llenyddol penodol. Y naill ffordd neu'r llall, mae opsiynau modiwlau mewn Llenyddiaeth Saesneg a Theatr a Pherfformio wedi'u cynllunio i ategu ei gilydd, gan fireinio'ch sgiliau mewn perfformio, ysgrifennu, meddwl yn feirniadol, damcaniaethu, dadansoddi ymchwil a thrafod.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Addysgu a darlithoedd mewn grwpiau bach a goruchwyliaeth un i un.
- Byddwch yn elwa o gyfleusterau rhagorol ac o gysylltiadau agos Bangor â chwmnïau theatr lleol a chenedlaethol, gan gynnwys gyda Pontio, canolfan gelfyddydau gwerth £40 miliwn y Brifysgol.
- Cysylltiadau agos â chymdeithasau myfyrwyr bywiog - gan gynnwys papurau newydd myfyrwyr, Cymdeithas Ffilm, a chymdeithasau drama.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Gan gyfuno dadansoddiad llenyddol â chynhyrchu, perfformio, ysgrifennu a chyfarwyddo, mae ein gradd Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio yn rhoi pwyslais cryf ar addysgu grwpiau bach. Bydd eich dosbarthiadau’n cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai a sesiynau gwylio. Bydd ffocws ymarferol a damcaniaethol i'r rhain. Mae’r dull asesu yn amrywio o un modiwl i'r llall, ac yn aml yn cyfuno cymysgedd o arholiadau, perfformio ac aseiniadau gwaith cwrs.
Yn ogystal â'r hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth, mae yna lawer o gyfleoedd cyffrous i chi roi hwb i'ch sgiliau a'ch gwybodaeth. Rydym yn cynnal teithiau theatr, yn dangos ffilmiau, ymweld ag orielau’n rheolaidd, a phob mis mae cyfle i glywed ysgrifenwyr creadigol a siaradwyr academaidd gwadd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio BA (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Neuadd John Phillips - lle perfformio sylweddol gyda system sain a goleuadau cyfrifiadurol ddigidol ar gyfer ymarfer a gwaith perfformio.
- Stiwdio Canolfan Gelfyddydau Pontio gyda chefnogaeth dechnegol broffesiynol ac arweiniad ar gyfer gwaith perfformio.
- Mannau perfformio awyr agored.
- Mynediad i fannau ymarfer yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio
- Canolfan Gyfryngau bwrpasol gyda Stiwdio Deledu aml-gamera ac oriel gynhyrchu fawr.
- Stiwdio radio proffesiynol gyda'r offer digidol diweddaraf.
- Ystafelloedd golygu Avid, Matrox ac analog, ac ystafelloedd golygu sain digidol.
- Sinema ddigidol gydag offer taflunio ardderchog a system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 96 - 120 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: Llenyddiaeth Saesneg / Iaith Saesneg / Saesneg yn ffafriol ond nid yn hanfodol. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn iaith Llenyddiaeth Saesneg neu Iaith Saesneg)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg gyda Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi'r sgiliau perfformio, beirniadol, creadigol a datrys problemau sydd eu hangen arnoch i gychwyn ar amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous. Mae'r rhain yn cynnwys swyddi ym maes y theatr, ffilm, teledu, radio, newyddiaduraeth, addysgu a theatr gymhwysol, yn ogystal â swyddi yn y sectorau marchnata, cyllid, ac addysg.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.