Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bioleg Feddygol yw conglfaen gofal iechyd modern a datblygiad cyffuriau ac mae'n pontio rhwng ymchwil sylfaenol a meddygaeth glinigol. Byddwch yn dysgu am achosion cellog a genetig anhwylderau meddygol mawr fel canser a chlefydau awtoimiwn gyda phwyslais cryf ar ymchwil cyn-glinigol a thechnegau labordy modern. Byddwch yn elwa o arbenigedd Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Mae graddedigion yn gweithio ym maes biotechnoleg, datblygu cyffuriau, ymchwil clinigol neu wasanaethau iechyd cyhoeddus.
Fel y gwelwn yn yr ymateb cyflym i bandemig COVID-19, mae dealltwriaeth drylwyr o’r mecanweithiau moleciwlaidd sy'n sail i iechyd ac afiechyd yn sylfaenol o ran datblygu dulliau a thriniaethau diagnostig newydd. Mae hynny hefyd yn berthnasol i ddatblygu diagnosteg a thriniaethau ar gyfer clefydau eraill, e.e. canser, anhwylderau cardiofasgwlaidd, niwrolegol ac imiwnolegol.
Amcan y rhaglen o dan arweiniad ymchwil yw addysgu graddedigion medrus sy'n cyfrannu at ymchwil mewn diwydiant yn ogystal ag yn y byd academaidd. Byddwch yn dysgu am achosion cellog a genetig anhwylderau meddygol fel canser a chlefydau awtoimiwn ac ati a bydd pwyslais mawr ar ymchwil cyn-glinigol, geneteg moleciwlaidd a thechnegau’r labordy modern, trwy sesiynau ymarferol mewn labordai o’r radd flaenaf. Lluniwyd y cwrs bioleg feddygol i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi at yrfa yn y gwyddorau biofeddygol neu'ch paratoi at astudiaethau pellach, gan gynnwys mynediad ar lefel raddedig i feddygaeth, deintyddiaeth, neu raddau uwch ymchwil. Meistr neu PhD.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Yn y 10 uchaf am Foddhad Myfyriwr (Times Good University Guide 2022).
- Yn y 10 uchaf am Ragolygon Gyrfa (Guardian Good University Guide 2022).
- Yn y 10 uchaf am Ymchwil o Ansawdd Uchel (Complete University Guide 2022).
- Yn y 15 uchaf am Foddhad Myfyriwr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2021).
- Mae ein harbenigedd mewn bioleg feddygol yn cynnwys astudiaethau i ymchwil cylchred celloedd, bioleg canser, niwrobioleg a datblygiad, bioleg celloedd a genom.
- Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys labordai ymchwil celloedd a moleciwlaidd gyda'r offer gorau a labordai dysgu ymarferol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dilyn modiwlau sy’n werth 120 credyd bob blwyddyn a gaiff eu dysgu trwy nifer o ddulliau priodol gan gynnwys darlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol mewn labordai. Mae’r modiwlau’n fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd ac mae nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall. Bydd yr asesu trwy gymysgedd o arholiadau, adroddiadau labordy ymarferol, gwaith cwrs a chyflwyniadau, gan gynnwys y prosiect ymchwil yn y flwyddyn olaf. Maemodiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd, a gall y myfyrwyr ddewis tiwtor Cymraeg a chyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Mae'r flwyddyn gyntaf yn gyflwyniad i agweddau pwysig ar y Gwyddorau Biofeddygol gan gynnwys darlithoedd, sesiynau labordy ymarferol a thiwtorialau mewn pynciau sylfaen allweddol. Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn rhoi pwyslais ar ddatblygu'r sgiliau ffeithiol ac ymarferol allweddol angenrheidiol i symud ymlaen â gweddill eich astudiaethau. Ymhlith y pynciau y byddwch yn eu hastudio mae ffisioleg ddynol, geneteg foleciwlaidd, bioleg y gell, microbioleg, cemeg yn ogystal â sgiliau academaidd sylfaenol. Yn eich sesiynau labordy byddwn yn eich dysgu sut i weithio'n ddiogel mewn labordy yn ogystal â'r fframweithiau rheoleiddio ehangach y mae labordai’n gweithredu ynddynt.
Mae blwyddyn 1 yn gyffredin i'r tair gradd isod sy'n rhoi cyfle i chi newid a dewis un o'r graddau eraill (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd), gan roi'r hyblygrwydd i chi newid llwybr gradd cyn dechrau blwyddyn dau os bydd eich diddordebau'n newid.
Blynyddoedd 2 a 3
Mae rhan sylweddol o'r cwricwlwm yn cynnwys pynciau sy'n uniongyrchol berthnasol ar gyfer deall mecanweithiau moleciwlaidd afiechyd, e.e. Bioleg Foleciwlaidd, Biocemeg, Bioleg Celloedd ac Imiwnoleg. Yn y 3edd flwyddyn yn arbennig byddwch yn canolbwyntio ar ymchwil a byddwch yn cymryd rhan mewn pythefnos o ddiwrnodau ymarferol llawn (Ymchwil Moleciwlaidd yn y Labordy) ac yn mynychu seminarau ymchwil o'r radd flaenaf gan siaradwyr allanol o fri. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil eich blwyddyn olaf a allai, er enghraifft, fod o dan oruchwyliaeth ymchwilwyr arbenigol yn labordai gwych Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Lloegr.
Anogwn a chefnogwn interniaethau a phrofiad gwaith yn ystod eich gradd, i'ch helpu chi ennill dealltwriaeth o fyd gwaith a rhoi mantais gystadleuol i chi. Cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith byr (dros wyliau’r haf) neu leoliadau 'rhyngosod' am flwyddyn, ar yr holl raglenni gradd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Bioleg Feddygol .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Meddygol
- Mae gennym gyfres o labordai a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Adeilad Brambell. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith labordy yn digwydd yn labordai A1, B1 a C4, sydd â systemau clyweled o'r radd flaenaf i'ch galluogi i ddilyn yn fanwl yr hyn sy'n cael ei arddangos. Mae gennym hefyd labordy arbenigol Cat 2 a ddefnyddir ar gyfer gwaith gydag asiantau biolegol risg ganolig a pheryglon, ac organebau a addaswyd yn enetig.
- Byddwch yn defnyddio ystod o offer wrth weithio yn y labordai hyn, gan gynnwys: cloriannau, allgyrchyddion, sbectromedrau ac offer arbenigol.
- Efallai y gall myfyrwyr sy’n gwneud prosiect ymchwil eu blwyddyn olaf elwa ar arbenigedd a chyfleusterau eang Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Ar wahân i offer labordy hanfodol (allgyrchyddion, deoryddion, ac ati), mae offer o'r radd flaenaf ar gael yn cynnwys microsgopau cydffocal, cytomedr llif a robot sgrinio trwybwn uchel. Mae’n bosib hefyd defnyddio cyfleusterau sbectrometreg màs a dilyniannu DNA trwybwn uchel ac ati.
- Bydd ein cyfleusterau newydd ar anatomi dynol yn barod erbyn 2022, a byddant yn ymgorffori technoleg flaengar fel bwrdd Anatomage, sef y bwrdd dyrannu rhithiol cyntaf yn y byd. Rhagwelwn y caiff ei ddefnyddio gan israddedigion BMedSci Gwyddorau Meddygol yn ogystal â myfyrwyr ar ein cwrs MA Cynorthwywyr Meddygon a’r rhaglen radd Meddygaeth C21 Gogledd Cymru i raddedigion (a gyflwynir yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygol Caerdydd).
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd trychfilod.
- Coetiroedd.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth., os na fydd hynny yn cael ei arddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A yn cynnwys Bioleg gradd C neu uwch ac o leiaf un wyddor arall o blith Cemeg (dymunol), Gwyddor Feddygol, Ffiseg neu Fathemateg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: MMM-DDM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DDM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: Pasio yn ofynnol yn cynnwys Bioleg a Chemeg (dymunol) ar Lefel Uwch
- Mynediad: Pasio yn ofynnol. Dim ond diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth sy’n rhoi’r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol: Llwyddo
- Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Project Estynedig (Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.)
- Diploma Cymhwysol Gwyddor Feddygol a Thystysgrif Gymhwysol CBAC.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth., os na fydd hynny yn cael ei arddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A yn cynnwys Bioleg gradd C neu uwch ac o leiaf un wyddor arall o blith Cemeg (dymunol), Gwyddor Feddygol, Ffiseg neu Fathemateg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol
- Diploma Cymhwysol Gwyddor Feddygol a Thystysgrif Gymhwysol CBAC
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP-DMM (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: Yn cynnwys Bioleg a Chemeg (dymunol) ar Lefel Uwch
- Mynediad: Pasio yn ofynnol. Dim ond diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth sy’n rhoi’r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol: Llwyddo
- Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Project Estynedig.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Fel myfyriwr graddedig mewn Bioleg Feddygol, bydd gennych set ragorol o opsiynau fel gyrfa. Byddwch yn abl i ddiwallu anghenion recriwtio cyflogwyr ym meysydd biotechnoleg, datblygu cyffuriau, ymchwil clinigol neu wasanaethau iechyd cyhoeddus. Gall biolegwyr meddygol droi eu llaw at reoli eiddo deallusol, datblygu busnes, rheoli prosiectau neu farchnata meddygol. Cânt eu cyflogi gan elusennau canser, asiantaethau'r llywodraeth, y GIG, sefydliadau ymchwil ac ati.
Cynghorir myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa ymchwil uwch yn y byd academaidd neu ddiwydiant i barhau â'u haddysg gyda gradd uwch, e.e. MRes mewn Meddygaeth Foleciwlaidd neu radd PhD, y mae gradd mewn Bioleg Feddygol yn sylfaen ragorol ar ei chyfer.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddor Biofeddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.