Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu i gymhwyso gwyddorau ecolegol i anghenion go iawn rheolaeth gynaliadwy a chadwraeth adnoddau naturiol ar draws ecosystemau daear a môr. Mae syniadau cyfredol ym maes rheolaeth amgylcheddol yn cydnabod yr angen am arferion cyfannol sy’n cydnabod bod cydberthynas rhwng amgylcheddau daearol a dyfrol. Yn ogystal ag astudio ecoleg sylfaenol, byddwch yn datblygu sgiliau sy'n eich galluogi i asesu effaith penderfyniadau polisi ar reolaeth. Byddwch yn barod i’r farchnad swyddi yn y dyfodol wrth i sefydliadau'r sectorau cyhoeddus a phreifat roi sylw cynyddol i gynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol eu gweithrediadau. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol gan gynnwys ecoleg coedwigoedd, polisi amgylcheddol, ecosystemau dŵr croyw, ecoleg bywyd gwyllt a chadwraeth, ecoleg coedwigoedd, ornitholeg, primatoleg, agweddau dynol cadwraeth.
Bydd gennych yr opsiwn o fynd ar gwrs maes i Tenerife am wythnos neu ar gwrs maes trofannol hirach yn Uganda.
Mae ein lleoliad, rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a'r amgylchedd naturiol y tu allan i’r ddarlithfa. Mae'r cwrs hwn yn llawn o deithiau maes a sesiynau ymarferol.
Mae gennym gysylltiadau agos â llawer o gyrff cadwraeth lleol yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain sy'n helpu ein myfyrwyr i ddeall ymarfer cadwraeth.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu
- Y cwrs hwn yw'r unig un o'i fath a gynigir yn y Deyrnas Unedig.
- Mae ein lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer gwaith maes – rydym ychydig fetrau o'r môr, ac mae mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri'n gefnlen ysblennydd i'r ddinas.
- Ein cysylltiadau agos â chyrff amgylcheddol e.e. Cymdeithas Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r modiwlau yr ydym yn eu cynnig ar y radd hon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu yn amrywio o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol a gwaith maes i seminarau a thiwtorialau. Mae'r seminarau a'r tiwtorialau'n canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio ac atgyfnerthu deunydd a addysgir mewn darlithoedd; mae'r awyrgylch hamddenol ac anffurfiol hefyd yn annog trafodaeth fywiog am faterion cyfoes a dadleuol. Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio nifer o fodiwlau gorfodol a fydd yn gosod sylfaen i’ch gradd. Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch yn gallu dewis cyfran gynyddol uwch o'r modiwlau i gyd-fynd â’ch diddordebau. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i chi ennill set o sgiliau ac arbenigedd sy'n unigryw i chi. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu gwaith myfyrwyr ac ar gyfartaledd mae'r rhaniad yn 60% gwaith cwrs a 40% arholiad. Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o amgylchedd dysgu rhithiol y brifysgol, sy’n rhoi mynediad uniongyrchol at adnoddau dysgu, dogfennau'r cwrs a nodiadau darlithoedd. Os byddwch yn dewis blwyddyn ar leoliad, byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gweithio gyda sefydliad perthnasol yn magu profiad gyrfa gwerthfawr.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 2 a 3
Byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn ar y cwrs hwn, trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gwaith maes. Mae ein cyrsiau’n fodiwlaidd, mae rhai modiwlau’n orfodol, mae eraill yn ddewisol, gan eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau i feysydd newydd neu ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb i chi.
Y Flwyddyn Olaf
Byddwch yn astudio gwarchod a defnyddio’r môr fel modiwl gorfodol, a hefyd yn gweithio gyda goruchwyliwr i lunio a chyflawni gwaith ymchwil gwreiddiol. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol gan gynnwys ecoleg coedwigoedd, polisi amgylcheddol, ecosystemau dŵr croyw, ecoleg bywyd gwyllt a chadwraeth, ecoleg coedwigoedd, ornitholeg, primatoleg, agweddau dynol cadwraeth. Gallwch ddewis fynd ar gwrs maes i Tenerife neu Uganda am wythnos.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Ecoleg Daear a Môr Gymhwysol BSc (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd trychfilod.
- Coetiroedd.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd trychfilod.
- Coetiroedd.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 88 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: i gynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma BTEC Cenedlaethol/Estynedig mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid: MMP - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddonoaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy: MMP - DDM
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol), ceir manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion wedi mynd yn eu blaenau i weithio fel rheolwyr amgylcheddol, ecolegwyr neu ymgynghorwyr cadwraeth yng nghyd-destunau tir a dŵr, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae eraill wedi mynd ymlaen i astudiaethau pellach ac i wneud ymchwil. Mae'n bosib cymryd y cwrs naill ai fel gradd tair blynedd neu dros bedair blynedd gyda blwyddyn ar leoliad yn gweithio gyda sefydliad cadwraeth perthnasol yn y Deyrnas Unedig neu dramor.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.