Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y radd hon yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o bob agwedd ar wyddor cadwraeth, gan gynnwys egwyddorion sylfaenol ecoleg, esblygiad a rheolaeth amgylcheddol. Byddwch yn gallu mynd ymlaen i gymhwyso’r ddealltwriaeth hon at gadwraeth bywyd gwyllt. Bydd y radd hon yn datblygu eich sgiliau deallusol ac ymarferol, yn ogystal â'ch rhifedd. Bydd y radd hon hefyd yn gwella eich sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth, eich sgiliau rhyngbersonol a hunan-reoli a’ch sgiliau proffesiynol mewn cyd-destun sy'n benodol i fyd cadwraeth.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol i chi o’r canlynol:
-
Yr angen am ymagwedd ryngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol at astudio a rheoli bywyd gwyllt.
-
Y materion sy'n ymwneud â monitro a rheoli bywyd gwyllt am ei werth cynhenid ac fel adnodd naturiol i'w ddatblygu mewn modd cynaliadwy a moesegol.
-
Egwyddorion, terminoleg enwau a chysyniadau ecoleg gymhwysol, swyddogaethau ecosystemau, gwasanaethau ecosystemau, polisi amgylcheddol, gwyddor cadwraeth.
-
Y cysyniadau ecolegol, cymdeithasol ac economaidd sylfaenol a sut maent yn ymwneud â chadwraeth bywyd gwyllt a phwysigrwydd rheolaeth.
Mae ein lleoliad, rhwng Ynys Môn a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a'r amgylchedd naturiol y tu allan i’r ddarlithfa. Mae ein cyrsiau’n llawn o deithiau maes a sesiynau ymarferol. Mae cadwraeth lwyddiannus yn dibynnu ar ymagwedd ryngddisgyblaethol. Mae ein staff yn gefnogol, yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt ac mae ganddynt amrywiaeth o arbenigeddau sy'n cwmpasu cadwraeth, ecoleg a gwyddorau’r amgylchedd. Mae'r Ganolfan Cadwraeth ar sail Tystiolaeth, canolfan a gydnabyddir yn fyd-eang am drosi gwyddor gadwraeth yn bolisi, wedi'i lleoli yma ym Mangor, ac yn cynnig dirnadaeth unigryw i'n myfyrwyr o broses polisi cadwraeth. Mae gennym gysylltiadau agos â nifer o'r sefydliadau cadwraeth lleol gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Adnoddau Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain sy'n helpu myfyrwyr i fagu dealltwriaeth o arferion cadwraeth.
Mae gennym gysylltiadau ardderchog hefyd â sefydliadau cadwraeth ledled y byd. Ar hyn o bryd mae gennym staff a myfyrwyr yn gweithio ym Madagascar, Costa Rica, Colombia, Ghana, Kenya a Bangladesh.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Teithiau maes i Tenerife neu Uganda.
- Mae ein lleoliad, rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i ddysgu am ecoleg, cadwraeth a'r amgylchedd naturiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
- Mae gennym gysylltiadau ardderchog â sefydliadau cadwraeth ledled y byd. Ar hyn o bryd mae gennym staff a myfyrwyr yn gweithio ym Madagascar, Costa Rica, Colombia, Ghana, Kenya a Bangladesh.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd gofyn i chi ddilyn 120 o gredydau’r flwyddyn a fydd yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol, yn ogystal â theithiau maes a thiwtorialau. Mae modiwlau'n mynd yn fwy arbenigol wrth i'r radd fynd yn ei blaen. Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio nifer o fodiwlau gorfodol a fydd yn gosod sylfeini eich gradd. Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch yn gallu dewis cyfran gynyddol uwch o fodiwlau i gyd-fynd â’ch diddordebau craidd. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i chi ennill set o sgiliau ac arbenigedd sy'n unigryw i chi. Asesir trwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol ac asesu parhaus. Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cadwraeth Bywyd Gwyllt BSc (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar.
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig.
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.
- Ystafelloedd trychfilod.
- Coetiroedd.
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.
- Cyfleusterau delweddu.
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm o 88 - 120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Yn cynnwys gradd C neu uwch mewn pwnc gwyddoniaeth ar lefel A2 (e.e. Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau Amgylcheddol, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys gradd H5 neu uwch mewn pwnc gwyddoniaeth).
- Mynediad: Cwrs yn seiliedig ar Wyddoniaeth neu’r Amgylchedd
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reoli Anifeiliaid: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Uwch City & Guilds mewn Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Reoli Anifeiliaid, Rheoli Tir a Bywyd Gwyllt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol Sgiliau Labordy**: MMM - DDM
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg rhyngwladol, yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol: www.bangor. ac.uk/intreqs
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I weld rhestr lawn o’r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddorau'r Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.