Morlew yn nofio ar waelod y môr

Swoleg gyda Swoleg Môr Israddedig - Mynediad: Medi 2022/23 & Medi 2023/24

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cod UCAS C350
  • Cymhwyster BSc
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Broga yn dal gafael ar laswellt

Darllen mwy: Sŵoleg

Mae sŵoleg yn edrych ar bob math o agweddau'n ymwneud ag anifeiliaid - ymddygiad anifeiliaid, ffisioleg anifeiliaid, esblygiad, y rhyngweithio rhwng anifeiliaid a'r amgylchedd a chadwraeth bywyd gwyllt. Mae Prifysgol Bangor yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r môr ac felly dyma'r dewis amlwg i unrhyw un sydd eisiau astudio Sŵoleg gan fod ein lleoliad yn darparu'r labordy naturiol gorau yn y Deyrnas Unedig. 

Arbrofi prydau a dail petri

Darllen mwy: Bioleg

Mae'r aelodau staff sy'n dysgu'r cyrsiau gradd hyn yn rhai o brif arbenigwyr y byd ac yn ddarlithwyr arobryn sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ymchwil. Rydym yn gwneud defnydd helaeth o'r amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd daearol a dyfrol lleol yn ystod cyrsiau maes a dosbarthiadau ymarferol ym mhob un o'n cyrsiau. 

LLun tanddwr o bysgod mewn riff

Darllen mwy: Bioleg Môr

Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau eigion yn bwnc sydd â'i fryd ar y dyfodol.Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?