Delwedd o'r gair 'English' mewn geiriadur

Iaith Saesneg a Seicoleg Israddedig

Manylion y Cwrs

  • Ffioedd Dysgu £14,500
  • Cod UCAS CQ83
  • Hyd 3 blynedd
  • Dyddiad Dechrau

    Medi

  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn arbrawf ar weithgaredd yr ymennydd

Darllen mwy: Seicoleg

Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r modd mae pobl yn ymddwyn, yn teimlo, yn meddwl ac yn dysgu. Fel gwyddoniaeth ac fel proffesiwn, mae seicoleg yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y byd go iawn, trwy wella ansawdd bywyd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Rydym yn falch o'n cryfderau ym maes addysgu, dysgu ac ymchwil, a bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn dysgu am wyddoniaeth a chymhwyso seicoleg gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf. 

Myfyrwyr a darlithydd mewn seminar

Darllen mwy: Ieithyddiaeth

Bydd astudio ieithyddiaeth yn eich galluogi i ddysgu am nifer o agweddau ar iaith ddynol, ei deall a'i dehongli. Byddwch yn astudio'r 'wyddor' y tu ôl i iaith, gan gynnwys synau (ffoneteg, ffonoleg), geiriau (morffoleg), brawddegau (cystrawen), ac ystyr (semanteg).