Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs yn radd gwyddor môr sydd wedi’i integreiddio’n llawn, gan gynnwys pob elfen o system y môr - ffisegol, cemegol, biolegol, a daearegol. Mae wedyn yn cyfuno’r wybodaeth hon ag egwyddorion cadwraeth, polisi amgylcheddol a defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar yr amgylcheddau hynny o weithgaredd economaiddgymdeithasol sydd fwyaf agored i newid amgylcheddol ac mae wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth gyfannol, ond arbenigol hefyd, o wyddor môr, cadwraeth a pholisïau amgylcheddol i genhedlaeth o wyddonwyr amgylcheddol. Bydd y graddedigion hyn mewn sefyllfa ragorol i wynebu heriau byd sy’n newid, lle mae ein cysylltiad ag ecosystemau môr wedi chwarae rhan allweddol yn ffyniant cymdeithas, a byddant yn chwarae rhan fwy fyth o ran ein lles yn y dyfodol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â chefndiroedd gwyddoniaeth prif ffrwd a hebddynt.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Astudiaethau Amgylcheddol y Môr gyda Blwyddyn Lleoliad BSc F79P. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd. Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae gennym record gadarn o ymchwil o safon fyd-eang a rhagoriaeth mewn addysgu sy’n ymestyn yn ôl dros 50 mlynedd.
- Mae ein harbenigedd yn ymdrin â phob agwedd ar wyddorau môr ac mae ein diddordebau ymchwil yn ymestyn o riffiau cwrel trofannol i’r cefnforoedd pegynol, ac yn treiddio 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl i hanes dechreuadau’r ddaear.
- Mae ein lleoliad unigryw yn hwylus iawn ar gyfer gwneud gwaith maes yn geoparc GeoMôn, a ddynodwyd gan UNESCO, ac ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Nid ydym chwaith ond ychydig fetrau i ffwrdd o’r Fenai a Môr Iwerddon ar gyfer cyrsiau maes alltraeth.
- Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys llong ymchwil, a mynediad at uwchgyfrifiaduron ac offer arolygu o’r radd flaenaf. Rydym hefyd yn cynnal angorfeydd eigionegol ym Môr Iwerddon, gan ddarparu ystod o ddata amgylcheddol i chi eu hastudio yn ystod eich cwrs.
- Rydym yn rhannu ein safle ym Mhorthaethwy gyda Chanolfan Fôr Cymru, gan ddarparu cysylltiadau uniongyrchol â diwydiant ac asiantaethau amgylcheddol, ac yn arbennig y rhai sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy môr. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i chi ymgymryd â phrojectau gydag amrywiaeth o sectorau.
Ffeithiau Allweddol gan UniStats
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys hyd at 25-35 awr yr wythnos o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol (gwaith labordy a gwaith maes), astudio preifat, tiwtorialau a gwaith project. Asesir trwy gyfuniad o arholiad ffurfiol ac asesu parhaus. Mae pwyslais cryf ar waith maes bob blwyddyn. Mae cwrs maes preswyl ar gael yn y flwyddyn olaf. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf cyfnerthir darlithoedd a sesiynau ymarferol gan diwtorialau rheolaidd mewn grwpiau bach (tua 8 myfyriwr), pan fyddwn yn datblygu eich sgiliau gwerthuso beirniadol a chyfathrebu gwyddoniaeth. Yn y flwyddyn olaf byddwch yn gwneud traethawd hir dan oruchwyliaeth ar bwnc o’ch dewis.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Astudiaethau Amgylcheddol y Môr .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Costau Gorfodol:
Taith maes breswyl ym Mlwyddyn 3. Disgwylir i fyfyrwyr dalu am eu cynhaliaeth bersonol, tua £10 y dydd, am 7 niwrnod o fwyd.
Bydd angen dillad a chyfarpar addas ar gyfer gwaith maes e.e. esgidiau addas, dillad sy’n dal dŵr, sach teithio. Bydd y gost am rhain yn amrywio (£50-£100).
Bydd angen cyfarpar addas i gymryd nodiadau yn ystod dosbarthiadau. Bydd y gost am rhain yn amrywio (£10-£20).
Costau Angenrheidiol:
Deunyddiau ar gyfer poster academaidd i’w asesu. Bydd y nifer a’r gost am rhain yn amrywio (tua £10-£15).
Nodiadau:
Lleolir yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy, tua 1.5 milltir o Fangor a’r neuaddau preswyl. Cynhelir rhan fwyaf o’r dosbarthiadau ym Mangor ond bydd rhai sesiynau labordy ymarferol ym Mhorthaethwy (fel arfer tua 6-10 bob semester). Bydd trefniadau mewn lle ar gyfer costau teithio ym Mlwyddyn 1, ond ddim y blynyddoedd dilynol. Bydd llawer yn cerdded neud yn beicio rhwng y ddau leoliad, ond mae eraill yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu breifat a’r gost am hynny yw tua £40 y flwyddyn.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Cartref/UE (gan ddechrau yn 2019–20 a 2020–21)
- Llawn-amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan-amser: £750 am bob 10 credyd
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol
Wrth ddod i'r Brifysgol, bydd gennych ddwy brif gost, Ffioedd Dysgu a Chostau Byw.
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau gwestai (£12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad yn 2021:
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl. Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm o 104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefelau A (gan gynnwys graddau BC mewn 2 bwnc gwyddoniaeth - Bioleg, Daearyddiaeth, Astudiaethau Amgylcheddol, Cemeg, Economeg, Mathemateg, Ystadegau, Daeareg, Ffiseg, Seicoleg, Cyfrifiadureg; ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn 2 bwnc gwyddonol)
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a’r Amgylchedd**: Teilyngdod
- Mynediad i Wyddoniaeth AU**: Llwyddo
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
Ni dderbynnir Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg rhyngwladol, yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol. Ceir y manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael manylion llawn ewch i’n gwefan ac i weld rhestr lawn o’r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
**Rydym yn ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae’r radd hon yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd mewn amrywiaeth o sectorau lle mae ymchwil amgylcheddol yn sail i well dealltwriaeth o gadwraeth natur. Rydym yn rhagweld yn benodol gyfleoedd gwaith gyda llunwyr polisi ac ymgynghorwyr cenedlaethol a rhyngwladol ar gadwraeth natur yn y DU ac yn rhyngwladol (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a Chyfoeth Naturiol Cymru). Yn ogystal, mae yna lawer o sefydliadau cadwraeth sydd angen gwybodaeth arbenigol am wyddor môr ac arfordirol a’i oblygiadau economaidd-gymdeithasol o ran polisïau amgylcheddol o lefelau lleol i ryngwladol.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Gwneud Cais
Cais Prifysgol Cyffredinol
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.
Pryd i wneud cais?
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.