Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae angen gwyddonwyr amgylcheddol yn fwy nag erioed gan ddiwydiant, y llywodraeth a chymdeithas. Daw’r radd mewn Gwyddorau’r Amgylchedd â gwybodaeth berthnasol o ystod eang o bynciau ynghyd i archwilio rhai o’r materion amgylcheddol mwyaf fel newid hinsawdd, llygredd, cadwraeth a diogelu’r cyflenwad bwyd. Mae’n radd eang gyda’i gwreiddiau mewn bioleg (yn rhoi dealltwriaeth i chi o organebau, eu hamgylcheddau a’u cymunedau), cemeg (yn rhoi dealltwriaeth o lawer o brosesau amgylcheddol naturiol a llygredd), gwyddor daear (yn rhoi cefndir i chi mewn prosesau byd-eang), a rheoli adnoddau tir a dŵr. Mae cyfuno’r meysydd pwnc hyn, ynghyd â llawer o sesiynau ymarferol a theithiau maes, yn creu gradd sy’n hynod ddiddorol a buddiol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn adnabyddus yn rhyngwladol am ein gwaith mewn gwyddorau’r amgylchedd.
- Yn y radd defnyddir arbenigedd o’r Gwyddorau Biolegol, Gwyddorau’r Eigion a Chemeg.
- Mae lleoliad Bangor yn ei gwneud yn lle delfrydol i astudio gwyddorau’r amgylchedd gan fod mynediad i amrywiaeth eang o amgylcheddau naturiol yn amrywio o’r arfordir i dirwedd amrywiol Parc Cenedlaethol Eryri gyda’i hanes hir o ddefnydd tir amrywiol, mwyngloddio a chwarela.
- Mae teithiau maes yn ganolog trwy gydol ein gradd Gwyddorau’r Amgylchedd.
- Mae gennym gysylltiadau agos â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n cyflogi gwyddonwyr amgylcheddol, gan ein helpu i sicrhau bod ein gradd yn berthnasol ac yn gyfredol.
- Caiff ein graddau eu hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd.
- Bydd astudio gradd achrededig yn eich gwneud chi’n fwy cyflogadwy a chewch lawer o fuddion trwy gydol eich cwrs gradd.
Ffeithiau Allweddol gan UniStats
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu o ddarlithoedd i sesiynau ymarferol. Mae’r rhan fwyaf o’r bedwaredd flwyddyn ar y radd MEnvSci yn ymarferol. Mae asesu yn cynnwys cyflwyniadau, cyfweliadau, gwaith cwrs, arholiadau ac adroddiadau ymarferol. Mae’r holl fodiwlau’n gwneud defnydd helaeth o amgylchedd dysgu rhithwir Blackboard y Brifysgol, sy’n rhoi mynediad uniongyrchol at adnoddau dysgu, dogfennau cwrs a nodiadau darlithoedd.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1 a 2
Byddwch yn astudio 120 credyd bob blwyddyn, trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a gwaith maes. Mae rhai modiwlau’n orfodol gydag eraill yn ddewisol, gan eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau i feysydd newydd neu ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb i chi.
Blwyddyn 3
Byddwch yn cwblhau eich Project Anrhydedd; project ymchwil unigol ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi, o bosibl ar y cyd â sefydliad allanol.
Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol, byddwch yn dewis o opsiynau dewisol gan gynnwys cwrs maes i Tenerife.
Blwyddyn 4
Os byddwch yn dewis dilyn y radd Meistr Gwyddorau’r Amgylchedd (MEnvSci) 4 blynedd, mae blwyddyn 1 a 2 yr un fath ag ar gyfer y radd BSc; ond ni fyddwch yn gwneud y Project Anrhydedd ym mlwyddyn 3 ac yn hytrach yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol. Nod y bedwaredd flwyddyn yw datblygu eich sgiliau gwyddonol a chynyddu eich cyflogadwyedd. Gyda chefnogaeth aelodau staff, byddwch yn cwblhau project ymchwil annibynnol o’ch dewis ar lefel Meistr. Byddwch yn gwneud lleoliad gwaith o leiaf 4 wythnos mewn lleoliad o’ch dewis, i gael profiad proffesiynol. Byddwch hefyd yn astudio’r modiwl Business Planning for the Green Economy a Strategic Environmental Management fydd yn rhoi sgiliau a gydnabyddir yn broffesiynol i chi mewn maes cyflogaeth allweddol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Gwyddorau’r Amgylchedd .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Costau Gorfodol:
Bydd angen dillad a chyfarpar addas ar gyfer gwaith maes e.e. esgidiau addas, dillad sy’n dal dŵr, sach teithio. Bydd y gost am rhain yn amrywio (£50-£80).
Bydd angen cyfarpar addas i gymryd nodiadau yn ystod dosbarthiadau. Bydd y gost yn amrywio (£5-£15).
Costau Angenrheidiol:
Disgwylir i fyfyrwyr dalu am eu cynhaliaeth bersonol amser cinio a gyda’r nos ar y daith maes breswyl ym Mlwyddyn 2. Bydd y costau yn amrywio. Cyfanswm o tua £50-70.
Deunyddiau ar gyfer poster academaidd i’w asesu. Bydd y nifer a’r gost am rhain yn amrywio (tua £10-£15).
Costau teithio i wneud unrhyw waith maes fel rhan o ymchwil ar gyfer Traethawd Hir blwyddyn 4. Bydd y costau yn amrywio yn ôl gofynion y project (efallai na fydd costau o gwbl). Tua £15-20 am broject wedi ei lleoli yn y DU yn yr ardal lle lleolir y myfyriwr.
Costau teithio dyddiol ar gyfer modiwl Lleoliad Proffesiynol. Bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad. Tua £5 y dydd.
Costau Dewisol:
Cost am daith maes breswyl sy’n ddewisol ym mlwyddyn 3. Bydd y gost yn amrywio. Tua £600.
Prynu esgidiau glaw ar gyfer gwaith maes. Tua £10-£20.
Cost unrhyw visa a phigiadau fydd eu hangen os bydd myfyriwr yn dewis gwneud project dramor. Bydd y costau yn amrywio.
Nodiadau:
Bydd copïau o’r holl ddeunydd darllen ar gael yn Llyfrgell y Brifysgol.
Bydd cotiau labordy yn cael eu darparu pan fo’r angen.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Cartref/UE (gan ddechrau yn 2019–20 a 2020–21)
- Llawn-amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan-amser: £750 am bob 10 credyd
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol
Wrth ddod i'r Brifysgol, bydd gennych ddwy brif gost, Ffioedd Dysgu a Chostau Byw.
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau gwestai (£12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad yn 2021:
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar isafswm o 128 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:
- Lefelau A: yn cynnwys gradd C mewn pwnc gwyddoniaeth ar lefel A2 (e.e. Bioleg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau Amgylcheddol, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddoniaeth/Amgylcheddol
- Diploma Cenedlaethol / Estynedig BTEC mewn Rheoli Cefn Gwlad, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reoli Anifeiliaid: DDM ar gyfer MEnvSci
- Diploma Estynedig City & Guilds mewn Rheoli Cefn Gwlad, Rheoli Anifeiliaid neu Goedwigaeth a Choedyddiaeth: Rhagoriaeth ar gyfer MEnvSci
- Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt mewn Sgiliau Labordy: DDM ar gyfer MEnvSci
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Ni dderbynnir Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds.
Derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu coleg rhyngwladol, yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol, Ceir y manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael manylion llawn ewch i’n gwefan ac i weld rhestr lawn o’r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Oherwydd ei sylfaen eang mae’r radd yn rhoi cryn hyblygrwydd o ran cyfleoedd gyrfa. Gallwch ddisgwyl cael gwaith mewn sefydliadau diwydiannol, asiantaethau cynghori, llywodraeth leol ac ym maes ymchwil a datblygu, yn Ewrop a thu hwnt.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Gwneud Cais
Cais Prifysgol Cyffredinol
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.
Pryd i wneud cais?
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.