Seicolegydd Clinigol gyda chlaf mewn lleoliad clinigol.

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol a Seicoleg Israddedig

Manylion y Cwrs

  • Ffioedd Dysgu £14,500
  • Cod UCAS MC98
  • Cymhwyster BA
  • Hyd 3 blynedd
  • Dyddiad Dechrau

    Medi

  • Cynnig Arferol 96-112 Pwyntiau Tariff UCAS
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Myfyrwyr yn gweithio ar laptops/ gliniadur

Darllen mwy: Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae Troseddeg yn mynd law yn llaw â Chyfiawnder Troseddol a gallwch astudio'r ddau bwnc hyn ar ein cyrsiau gradd. Byddwch yn dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau ymchwil angenrheidiol i ddeall a chyfrannu at wybodaeth ehangach am droseddu a chyfiawnder troseddol. Mae'r amrywiaeth o fodiwlau dewisol sydd ar gael yn caniatáu ichi ganolbwyntio ar bynciau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch uchelgais. 

Gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn arbrawf ar weithgaredd yr ymennydd

Darllen mwy: Seicoleg

Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r modd mae pobl yn ymddwyn, yn teimlo, yn meddwl ac yn dysgu. Fel gwyddoniaeth ac fel proffesiwn, mae seicoleg yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y byd go iawn, trwy wella ansawdd bywyd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Rydym yn falch o'n cryfderau ym maes addysgu, dysgu ac ymchwil, a bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn dysgu am wyddoniaeth a chymhwyso seicoleg gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf.