Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn cyfuno astudiaethau’r cyfryngau â theatr ac mae ganddo bwyslais cryf ar ymarfer. Gyda'r cyfle i astudio cynhyrchu clywedol a gweledol, newyddiaduraeth argraffu, y cyfryngau digidol, ac ymarfer y cyfryngau, byddwch yn datblygu sgiliau a thechnegau allweddol ar gyfer cynhyrchu a beirniadu deunydd clywedol a gweledol. Mae rhan theatr y cwrs yn cynnwys amrywiaeth eang o ymarfer, gan gynnwys theatr gymunedol, sgiliau actio a pherfformio unigol a grŵp. Mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn yn y sgiliau damcaniaethol, technegol ac ymarferol fydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol y dyfodol.
Ni fu erioed amser gwell i astudio ac ymarfer y cyfryngau a theatr. Gwnewch broffesiwn o'ch angerdd gyda'r cwrs gradd cyffrous hwn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau astudio theori’r cyfryngau ym meysydd ffilm, teledu, radio, cyfryngau digidol a hysbysebu, yn ogystal â theatr ac ymarfer theatr.
Bydd Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr a Pherfformio ym Mangor yn rhoi cyfle i chi gyfuno gwahanol agweddau damcaniaethol y ddisgyblaeth gyda chyfleoedd i greu cynyrchiadau a darnau perfformio gwreiddiol fel unigolyn ac fel aelod o grŵp neu ensemble. Bydd ein harbenigwyr profiadol ym maes y theatr yn eich annog i fynegi eich hun i'r eithaf yn ogystal â rhoi sylfaen gadarn i chi yn agweddau ymarferol a damcaniaethol y ddisgyblaeth.
Dysgir y cwrs gan ddadansoddwyr ac ymarferwyr o'r radd flaenaf a byddwn yn eich paratoi ar gyfer cyfleoedd yn y cyfryngau, theatr a diwydiannau creadigol eraill. Mae staff y cyfryngau a theatr yn yr Ysgol yn ymarferwyr ac ymgynghorwyr yn eu meysydd, gydag ystod o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys ymarfer theatr, actio a pherfformio, hysbysebu, rheoleiddio'r cyfryngau, preifatrwydd, newyddiaduraeth ddigidol, cyfathrebu gwleidyddol, newyddiaduraeth ar-lein, ysgrifennu proffesiynol, cylchgronau, diwylliant gweledol, gemau cyfrifiadurol, bydoedd rhithwir, cyfryngau byd-eang, rhwydweithiau cymdeithasol, a rhaglenni dogfen.
Yn swatio mewn lleoliad syfrdanol rhwng mynyddoedd Eryri a'r môr, mae Bangor yn lle perffaith i arbrofi, creu, gwneud, meddwl a dadansoddi. Mae adran y Cyfryngau yng nghalon campws y Brifysgol, ac mae'n cynnig cymuned glos a chyfeillgar ochr yn ochr â phrysurdeb caffis, siopau a bywyd y ddinas.
Cynhelir amrywiaeth o gynadleddau, fideo gynadleddau a digwyddiadau'r Diwydiannau Creadigol ym Mangor. Ceir ymweliadau rheolaidd gan awduron creadigol, gwneuthurwyr ffilmiau, newyddiadurwyr, dylunwyr, dramodwyr, gwneuthurwyr cyfryngau newydd gwadd a mwy, ac mae hyn yn annog myfyrwyr i ymwneud yn eang â'u diddordebau creadigol y tu allan i waith cwrs ffurfiol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn arbenigo mewn sawl maes allweddol: ysgrifennu proffesiynol a newyddiaduraeth, cyfathrebu yn y cyfryngau a chyfathrebu digidol, ymarfer creadigol a’r cyfryngau, ac astudiaethau ffilm.
- Mae gan yr ysgol adeilad pwrpasol ar gyfer astudiaethau’r cyfryngau a theatr gydag ystafelloedd golygu ac ystafelloedd ymarfer a pherfformio sydd ar gael i fyfyrwyr.
- Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau, sy'n eich galluogi i lunio eich cwrs i adlewyrchu eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Ein cysylltiadau agos â chwmnïau ac ymarferwyr proffesiynol (yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae astudiaethau'r Cyfryngau a theatr ym Mangor yn unigryw oherwydd y cyfuniad agos rhwng dulliau gweithredu academaidd a damcaniaethol ac ymarfer creadigol. Mae myfyrwyr yn yr Ysgol yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy'n deillio o hynny megis theatr, newyddiaduraeth, ffilm, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
Mae modiwlau Ymarfer y Cyfryngau yn canolbwyntio ar dri phrif faes: cynhyrchu ffilm a theledu, cynhyrchu radio a chyfryngau digidol yn fwy cyffredinol. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar y cynnyrch ymarferol ac ar allu'r unigolyn i adfyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer. Asesir modiwlau ar hanes a dylanwad y cyfryngau, a diwylliant y cyfryngau, drwy arholiadau ac aseiniadau, ond bydd dulliau asesu yn amrywio yn ôl y modiwlau a ddewiswyd. Ymhlith y pynciau sy'n cael sylw wrth astudio'r Theatr mae hanes perfformio, traddodiad y ddrama yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, y theatr a chymdeithas, perfformio a hunaniaeth, perfformio byw, sgiliau actio a pherfformio, yn ogystal â pherfformiadau safle-benodol.
Wrth i chi fynd trwy'r radd, caiff llawer o'r gwaith astudio ei wneud mewn grwpiau dysgu bach gyda phwyslais ar ddysgu sgiliau gweithio grŵp a'r gallu i gyflawni darn o waith eich hun o'r syniad dechreuol i’w gwblhau.
Y nod yw rhoi i chi hyder, sgiliau beirniadol, craffter strategol, gallu i addasu a photensial i ffynnu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwaith cyfryngau, a dod yn weithiwr proffesiynol y mae galw mawr amdano mewn maes cystadleuol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Astudiaethau’r Cyfryngau gyda Theatr a Pherfformio BA (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Stiwdio radio proffesiynol gyda'r offer digidol diweddaraf.
- Canolfan Gyfryngau bwrpasol gyda Stiwdio Deledu aml-gamera ac oriel gynhyrchu fawr.
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Neuadd John Phillips - lle perfformio sylweddol gyda system sain a goleuadau cyfrifiadurol ddigidol ar gyfer ymarfer a gwaith perfformio.
- Stiwdio Canolfan Gelfyddydau Pontio gyda chefnogaeth dechnegol broffesiynol ac arweiniad ar gyfer gwaith perfformio.
- Awditoria a mannau perfformio awyr agored.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: fel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Technegol/ Estynedig Uwch City & Guilds: a ystyrir fesul achos
- Mynediad
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol), manylion yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Gall astudio pynciau'r cyfryngau ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych. Mae gennym gysylltiadau gwych â chwmnïau theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys: ysgrifennu creadigol; ysgrifennu a chyhoeddi proffesiynol; perfformio a'r theatr (ar y llwyfan a gefn y llwyfan); newyddiaduraeth brint ac/neu ddarlledu; fel actorion, cyflwynwyr ac wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; hysbysebu a marchnata; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, ar y we a'r cyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfryngau; addysgu; darlithio; a chysylltiadau cyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Astudiaethau a Chynhyrchu'r Cyfryngau (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.