Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Rydym yn tueddu i gymryd ein gallu i gynhyrchu a deall lleferydd yn ganiataol hyd nes ein bod yn ceisio dysgu iaith arall, gwylio sut mae plentyn yn dysgu iaith gyntaf, neu’n gweld beth yw effeithiau nam iaith. Ieithyddiaeth yw’r astudiaeth o alluoedd iaith, sut maent yn cael eu caffael, sut maent yn cael eu defnyddio, a sut y gellir cael nam lleferydd. Gan fod lleferydd mor ganolog i’n bodolaeth, mae’n bwnc hynod ddiddorol ac yn werthfawr iawn i’w astudio. Mae’n gefndir delfrydol i lawer o yrfaoedd, yn enwedig y rhai yn y proffesiynau dysgu a gofalu, ond hefyd mewn meysydd mwy ‘uwch-dechnolegol’ fel cyfrifiadura a thelathrebu.
Blwyddyn Lleoliad
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ 4-blynedd. Gwnewch gais am Ieithyddiaeth gyda Blwyddyn Lleoliad BA Q10P. Cewch wybod mwy am gyrsiau ‘gyda Blwyddyn Lleoliad’ yma.
Mae'r flwyddyn leoliad yn rhoi cyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr trwy weithio gyda sefydliad hunan-gyrchol sy'n berthnasol i'ch pwnc gradd.
Bydd y Flwyddyn Lleoliad yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn a bydd myfyrwyr i ffwrdd am y flwyddyn academaidd gyfan. Lleiafswm y cyfnod lleoliad (mewn un neu fwy lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol byddwch yn treulio 10-12 mis ar leoliad. Byddwch fel rheol yn cychwyn rhywbryd rhwng Mehefin a Medi yn ystod eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhywbryd rhwng Mehefin a Medi y flwyddyn ganlynol. Gall lleoliadau fod yn y DU neu dramor a byddwch yn gweithio gyda staff ar y trefniadau.
Disgwylir i chi ddod o hyd i leoliad addas a'i drefnu i ategu'ch gradd, a bydd aelod ymroddedig o staff yn eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn eich cefnogi'n llawn.
Pam dewis Pryfysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae ein hadran Ieithyddiaeth yn un o’r rhai hynaf yn y DU, gyda staff sy’n ymchwilwyr cyson mewn amrywiaeth o feysydd damcaniaethol a chymhwysol - mae gan lawer enw da ynrhyngwladol yn y maes.
- Bydd ein modiwlau yn rhoi golwg wyddonol i chi ar strwythur a defnydd iaith, seicoieithyddiaeth (y berthynas rhwng y meddwl ac iaith) a sosioieithyddiaeth (y berthynas rhwng iaith a chymdeithas).
- Rydym yn ymdrin ag ystod eang o faterion pwnc, ac ar ôl y flwyddyn gyntaf byddwch yn gallu canolbwyntio ar gwestiynau penodol sydd o ddiddordeb mwyaf ichi.
- Mae ein hamrywiaeth eang o gyfleusterau dysgu yn cynnwys casgliad helaeth o lyfrau ar Ieithyddiaeth ac iaith Saesneg, labordy lleferydd, stiwdio recordioac offer sain, fideo a theledu.
Ffeithiau Allweddol gan UniStats
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn treulio tua 10 awr yr wythnos mewn darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Byddwch hefyd yn treulio amser yn darllen, casglu a dadansoddi data iaith naturiol ac yn gweithio ar dasgau ymarferol yn y labordy. Bydd eich traethawd hir yn caniatáu ichi ymchwilio’n fanwl i bwnc o ddiddordeb a byddwch yn gweithio dan oruchwyliaeth aelod staff. Mae’r asesu’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau - ysgrifennu traethodau, aseiniadau ymarferol, astudiaethau ymchwil empirig, cyflwyniadau llafar ac arholiadau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Ieithyddiaeth .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Costau Gorfodol:
Bydd angen i fyfyrwyr brynu gwerslyfrau ar gyfer rhai modiwlau gan nad os e-lyfrau ar gael.
Blwyddyn 1
Modiwl gorfodol:
- QXL-1117 Intro to Morphology & Syntax An Introduction to English Syntax (Edinburgh Textbooks on the English Language) gan Jim Miller, Paperback, £14.23.
Blwyddyn 2
Modiwl gorfodol:
- QXL-2222 History of English - A History of the English Language, 2012 gan Albert C. Baugh a Thomas Cable, Paperback, £27.19.
Modiwl dewisol:
- QXL-2235 Introduction to Bilingualism - Bilingualism: An Advanced Resource Book (Routledge Applied Linguistics Series) gan Ng Bee Chin; Gillian Wigglesworth, Paperback, £31.99.
Blwyddyn 3
Modiwlau gorfodol:
- QXL-3341 Traethawd Hir: Projects in Linguistics and Language Studies: A Practical Guide to Researching Language gan Alison Wray, Aileen Bloomer 2012, £22.78 a Research Methods in Linguistics by Lia Litosseliti c2010, £19.99.
- QXL-3377 Using Corpora: Theory&Practice - Corpus-Based Language Studies: An Advanced Resource Book (Routledge Applied Linguistics) Rhagfyr 2005 gan Anthony McEnery, Paperback £24.64.
A’r modiwlau canlynol (yn ddibynnol ar gael eu rhedeg yn ôl argaeledd staff):
- QXL-3335 L2 Speech Learning: Second Language Speech gan Colantoni, Steele a Escudero, £28.99
- QXL-3325 Advanced Phonetics: A Course in Phonetics, Ladefoged a Johnson, £49.99
- QXL-3377 Grammatical Systems & Change (to be renamed ‘Language Change’): Language Change: Progress or Decay?(Cambridge) Rhagfyr 2012 gan Jean Aitchison, paperback £20.84.
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Cartref/UE (gan ddechrau yn 2019–20 a 2020–21)
- Llawn-amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan-amser: £750 am bob 10 credyd
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol
Wrth ddod i'r Brifysgol, bydd gennych ddwy brif gost, Ffioedd Dysgu a Chostau Byw.
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau gwestai (£12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer mynediad yn 2021:
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (nid oes angen unrhyw bynciau penodol)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DMM
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Mynediad
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Bydd y radd hon yn cynyddu eich gwybodaeth am strwythur a defnydd iaith at ddibenion cyfathrebu, hanes yr iaith Saesneg, a’ch gallu o ran strwythur gramadegol a defnyddio Saseneg. Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i wneud astudiaeth academaidd bellach fel TAR a chymwysterau ôl-radd gan arwain at therapi iaith a lleferydd, dysgu dramor, a hyfforddiant arall er mwyn dilyn gyrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol, gwaith yr heddlu, gwaith yn ymwneud â mewnfudo, llywodraeth leol, bancio a chyfrifeg, llyfrgellyddiaeth, y cyfryngau a newyddiaduraeth, ysgrifennu creadigol a chyhoeddi.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Gwneud Cais
Cais Prifysgol Cyffredinol
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.
Pryd i wneud cais?
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.