Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dyma gwrs sy’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg ac at hynny’n cynnig cyfle i astudio ym maes y theatr a’r cyfryngau. Mae’n cynnig profiadau cyffrous i’r sawl sydd am ddilyn gyrfa nid yn unig ym myd y theatr a’r cyfryngau ond hefyd ym myd addysg. Cewch gyfle i astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal â drama, theatr, teledu, radio a ffilm. Ceir hefyd gyfle i feithrin dawn greadigol a thalent yn y modiwlau ymarferol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Bangor enw da o safbwynt safon ei haddysgu a’i gofal am ei myfyrwyr.
- Mae gan y rhai sy’n dysgu’r cyrsiau ar y Theatr a’r Cyfryngau brofiad helaeth o weithio yn y meysydd hyn ar lefel broffesiynol. Cynigir rhai o’r modiwlau gan yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
- Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod galw mawr am ein myfyrwyr ni.
- Cewch yn y cwrs hwn wybodaeth ddofn am iaith a diwylliant Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am y cyfryngau. Bydd hyn yn eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr.
- Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD.
Ffeithiau Allweddol gan UniStats
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau a gweithdai. Ar ben hynny, byddwch yn gweithio ar draethodau, sgriptiau a chynyrchiadau. Fel rhan o’ch cwrs, disgwylir i chi fynychu cynyrchiadau theatrig yn rheolaidd. Gwahoddir cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd teledu, ffilm a'r theatr i drafod eu gwaith gyda'r myfyrwyr.
Mae rhai modiwlau’n cael eu hasesu trwy gyfrwng arholiadau a thraethodau ac eraill ar sail gwaith cwrs yn unig.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Cymraeg
Modiwlau gorfodol:
- Yr Iaith ar Waith
- Llên Gyfoes
- Llên y Cyfnod Modern Cynnar
Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
Modiwl Gorfodol:
- Theatr Fodern Ewrop
- Sgriptio Teledu
- Y Ddelwedd Symudol
- Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau
Blwyddyn 2 a 3
Cymraeg
Modiwlau gorfodol:
- Ymarfer Ysgrifennu
- Traethawd Estynedig
Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
Modiwlau Gorfodol:
- Sgriptio
- Y Sgrin Fach Gymraeg
- O’r Llyfr i’r Llwyfan
- Y Theatr Gymraeg Fodern
Byddwch hefyd yn medru dewis o blith modiwlau eraill Ysgol y Gymraeg.
Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
Modiwlau dewisol:
- Llwyfannu Theatr
- Rhaglenni Dogfen a Drama
- Theatr yn y Gymdeithas
- Celfyddyd Perfformio
- Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Costau dewisol:
Gall myfyrwyr ddewis prynu llyfrau os ydynt am gael eu copïau eu hunain, ond nid yw hyn yn orfodol (bydd yr holl lyfrau ar gael yn y llyfrgell). Bydd union faint y gost hon yn dibynnu’n llwyr ar y myfyriwr unigol, ond gellid amcangyfrif y bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis gwario rhyw £20 y modiwl.
Os bydd myfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio, telir c.£12 am docyn i’r myfyriwr a dau westai, a rhyw c.£40 i logi gŵn (gall y prisiau hyn newid).
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Cartref/UE (gan ddechrau yn 2019–20 a 2020–21)
- Llawn-amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan-amser: £750 am bob 10 credyd
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol
Wrth ddod i'r Brifysgol, bydd gennych ddwy brif gost, Ffioedd Dysgu a Chostau Byw.
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau gwestai (£12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mynediad yn 2021:
Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall.
Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg)
- BTEC Cenedlaethol/ Diploma Estynedig: DMM**
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio
- Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
**Gall gael ei ystyried gyda chymhwyst Cymraeg e.g. Lefel A
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae graddedigion Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn mynd ymlaen i swyddi ym maes addysg, y cyfryngau/newyddiaduraeth, ysgrifennu creadigol, cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiant cyfieithu, cynllunio ieithyddol, y diwydiant treftadaeth a TG. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich darparu gyda sgiliau dadansoddol trwyadl a sgiliau cyflwyno fydd yn hanfodol mewn nifer o yrfaoedd eraill. Rydym hefyd yn cynnig cyfleon ôl-radd ardderchog ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Gwneud Cais
Cais Prifysgol Cyffredinol
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.
Pryd i wneud cais?
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.