Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Am fwy o wybodaeth am y cwrs hwn, gweler y prosbectws os gwelwch yn dda.
Mae hon yn radd eang sy’n cynnig y cyfle i astudio ystod eang o gyfnodau gydag arbenigedd mewn Hanes Cymru. Bydd y cwrs yn trafod esblygiad Cymru, ei gwleidyddiaeth a’i diwydiant; ei chymdeithas a’i chrefydd trwy’r canrifoedd, ac i roi hyn yng nghyd-destun datblygiadau mewn Hanes Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd o'r Oesoedd Canol hyd at y presennol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae Bangor yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio hanes Cymru. Mae Bangor wedi bod ag enw ardderchog am ymchwil yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer.
- Mae gennym arbenigedd mewn hanes modern a chyfoes yn ogystal â mewn hanes canoloesol, modern cynnar a hanes Cymru ac archaeoleg a threftadaeth.
- Rydym yn cynnig y cyfle i astudio ystod eang o fodiwlau Hanes Cymru ac mae gan yr Ysgol enw ardderchog am safon ei dysgu ac rydym wedi ein hymrwymo i ddysgu mewn grwpiau bychain.
- Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal leol, a chyda safleoedd rhyngwladol bwysig ar garreg ein drws – o Gynhanes hyd at y Chwyldro Diwydiannol – yn darparu adnoddau dysgu gwerthfawr.
- Bydd amrywiaeth helaeth o adnoddau’n cael eu defnyddio wrth ddysgu’r cwrs. Mae’r rhain yn cynnwys archifdai lleol ac amgueddfeydd.
- Ceir cyfoeth o henebion heb fod ymhell o Fangor gan gynnwys cestyll a safleoedd allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol.
Cynnwys y Cwrs
Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.
Byddwch yn cael tua 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch hefyd yn treulio cryn dipyn o amser yn darllen, ymchwilio, ysgrifennu traethodau a pharatoi ar gyfer cyflwyniadau mewn tiwtorial.
Bydd rhai modiwlau yn gwneud defnydd arbennig o ddogfennau, ffilm a rhaglenni dogfen, yn ogystal â hanes llafar. Bydd eraill yn cynnwys teithiau i weld safleoedd perthnasol yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd cyfle i chi hefyd wneud modiwl ar leoliad gwaith mewn archifdy lleol neu amgueddfa a gwneud project ar y deunydd y byddwch yn ei drafod.
Asesir trwy gymysgedd o arholiadau a thraethodau yn ogystal â’r traethawd estynedig yn y flwyddyn olaf.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen.
Blwyddyn 1
- Cymru: Tywysogion i Duduriaid
- Cymru yn y Byd Modern
Ac o leiaf un allan o:
- Apocalypse Then: the Crisis of the Fourteenth Century
- Birth of Modern Europe 1470-1600
- Introduction to Modern History 1815-1914
Mae grŵp seminar Cymraeg ar gael i’r uchod. Cewch ddewis gweddill eich modiwlau allan o amrywiaeth a gynigir gan yr Ysgol, a bydd cyfle i gymryd modiwlau gwerth 20 credyd o Ysgol arall e.e. Cymraeg neu TG.
Blwyddyn 2
Byddwch yn astudio cyfnodau a themâu mewn dyfnder a gallwch ddewis allan o amrywiaeth o fodiwlau. Bydd llawer o’r modiwlau yn gwneud defnydd o ffynonellau gwreiddiol ac mae modiwl yn y gweithle hefyd ar gael. Bydd gennych hefyd y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil, TG a chyflwyno (hyd at 20 credyd).
Modiwlau gorfodol:
- Dehongli’r Gorffennol
Modiwlau dewisol Hanes (dewis 2):
Mae ystod o fodiwlau ar gael e.e. The Nazi State, Europe in the High Middle Ages, 1000-1200, Holy Wars, 1095-1197, USA 1945-2001, Europe 1945- 1992, Thatcher’s Britain, The Tudors, Britain 1780-1832, Royal Propaganda, Britain in the Jazz Age.
Modiwlau dewisol Hanes Cymru (dewis 2):
- Owain Glyndŵr a’i Fudiad
- Cymru 1660-1789
- Gormeswyr i Dywysogion
Blwyddyn 3
Byddwch yn dewis Pwnc Arbennig mewn Hanes neu Hanes Cymru – dyma fodiwl sy’n defnyddio ffynonellau gwreiddiol ac sy’n seiliedig ar ymchwil y tiwtor. Byddwch hefyd yn ysgrifennu traethawd hir sy’n rhoi’r cyfle i chi wneud eich ymchwil eich hun. Byddwch hefyd yn cwblhau modiwlau eraill.
Enghreifftiau o ddewisiadau Pwnc Arbennig posib: The Norman Conquest, Going to the Devil – Henry II, Land and Power in England & Wales 1780-1888, Home and Front during WW1, Britain in the 1960s, Edward I a’r Cyrion Celtaidd, Cyfriath a Chymdeithas yng Nghymru 1558-1640, Ruled by an Orange, Law and Society in Wales 1558-1640, Celtic Revival, 1800–1920.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Hanes Cymru a Hanes* .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Cartref/UE (gan ddechrau yn 2019–20 a 2020–21)
- Llawn-amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan-amser: £750 am bob 10 credyd
Ffioedd Dysgu Myfyrwyr Rhyngwladol
Wrth ddod i'r Brifysgol, bydd gennych ddwy brif gost, Ffioedd Dysgu a Chostau Byw.
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau gwestai (£12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad. Ar gyfer cyrsiau gradd cyd-anrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch.
Mynediad 2021:
Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA a 120 pwynt tariff ar gyfer MArts o gymhwyster lefel 3* e.e.:
- Lefel A (Hanes yn ddymunol)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio
- Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
Mynediad 2020:
Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA a 120 pwynt tariff ar gyfer MArts o gymhwyster lefel 3* e.e.:
- Lefel A (Hanes yn ddymunol)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio
- Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth arbenigol am Gymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd, a chydag amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno. Bydd yn eich galluogi i ddewis o blith amryw o yrfaoedd sy’n canolbwyntio ar weinyddu ac arweiniad cyhoeddus, yn arbennig ond nid yn neilltuol yng Nghymru, er enghraifft, mewn adrannau personél mewn diwydiant yn y sector preifat, yn y gwasanaeth sifil ac mewn llywodraeth leol, dysgu a thwristiaeth. Yn ddiweddar, mae graddedigion wedi mynd i yrfaoedd ym meysydd ymchwil wleidyddol, archifau, y gwasanaethau lles, addysgu a diwydiannau diwylliannol.
Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Gwneud Cais
Cais Prifysgol Cyffredinol
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.
Pryd i wneud cais?
Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.