
Tom “The Blowfish” Hird ydw i, yr unig fiolegydd môr metel trwm yn y byd! Rwy’n gweithio fel cyflwynydd bywyd gwyllt, deifiwr sgwba ac arbenigwr siarcod ac rwy’n hynod falch o ddweud bod fy rîl arddangos a’m peilot cyntaf erioed wedi eu recordio ym Mhorthaethwy.
Cefais fy ngeni a'm magu yn Halifax, gorllewin Swydd Efrog, a datblygais gariad at anifeiliaid pan oeddwn yn fychan iawn. Gwnaeth y cariad hwn, ynghyd â gwyliau ar lan y môr a’r glaw bob dydd bron yn Swydd Efrog, feithrin yr awydd ynof i ymchwilio ac archwilio’r byd tanfor, felly dechreuais sgwba-ddeifio cyn gynted ag y gallwn!
Deuthum i Fangor yn 2003 i astudio gradd mewn Bioleg Môr. Ganwyd 'The Blowfish' yn ystod y cyfnod hwn. Cefais y llysenw gan y clwb syrffio, clwb a’m galluogodd i gyfuno'r holl ddiddordebau yn fy mywyd a cheisio gwneud gwahaniaeth yn y byd rydym yn byw ynddo. Ers hynny, rwyf wedi gweithio i addysgu, diddanu a gwarchod yr amgylchedd morol trwy siarad â chariad a brwdfrydedd am yr holl greaduriaid cŵl y gallech fod eisiau eu cyfarfod (neu beidio!), boed yn weithrediad tagellau neu gryfder anhygoel y gragen foch fwyaf!
Rwyf wedi ymddangos mewn llawer o gynyrchiadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys rhaglenni i’r BBC, Discovery, Animal Planet, Discovery Canada, Channel 4 ac ITV, yn ogystal ag ymddangos yn rheolaidd ar Discovery Shark Week am nifer o flynyddoedd.
Ar ôl graddio, cefais syniad am raglen a, diolch i’r bobl anhygoel yn Earth X TV ac Off the Fence Productions, gwireddwyd y syniad yn y rhaglen “Ocean Wonders”, a gynhyrchwyd am ddwy gyfres. Mae’r rhaglen hon yn ymdrin â’r ffeithiau gorau, mwyaf beiddgar, gwylltaf, rhyfeddaf a mwyaf anghynnes am y cefnfor, a’r creaduriaid sy’n ei alw’n gartref, ac mae’n llawer o hwyl! Bûm hyd yn oed yn ffilmio rhan o un o’r rhaglenni ar Ynys Tysilio.
Mae fy ngyrfa deledu wedi fy ngalluogi i ddatblygu dull cyflwyno dibynadwy ac unigryw, ar y dŵr ac o dan y dŵr. Rwy'n fedrus iawn wrth weithio gydag anifeiliaid byw naill ai yn y stiwdio neu'n fyw ac rwyf hyd yn oed wedi perfformio fy styntiau fy hun! Eleni, treuliais ddau fis ar leoliad yn ffilmio cyfres newydd sbon i wasanaeth ffrydio byd-eang. Ni allaf ddweud mwy ar hyn o bryd ond bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn bo hir - a llawer o siarcod!
Yn 2017 cyhoeddais fy llyfr, 'Blowfish's Oceanopedia: 291 Extraordinary Things You Never Know About The Sea', a ddaeth yn boblogaidd iawn yn gyflym iawn ar Amazon, yn ogystal â chael adolygiadau gwych gan BBC Wildlife Magazine a’r New Scientist.
Yn 2018, roeddwn wrth fy modd ac yn hynod falch o gael fy ngwahodd i fod yn llysgennad cefnfor i’r Marine Conservation Society. Mae'r swydd elusennol hon yn cynnwys gweithio gyda'r MCS i hyrwyddo, a chefnogi'r gwaith cadwraeth gwych sy'n cael ei wneud i ddiogelu ein cefnforoedd, gan weithio tuag at foroedd gwell i bawb a chefnfor iach am flynyddoedd i ddod. Rwyf wedi cefnogi'r Marine Conservation Society ers amser maith, ac mae cael y cyfle i hyrwyddo eu gwaith yn anrhydedd wirioneddol.
Rwyf wedi cael profiadau anhygoel yn ystod fy ngyrfa ac mae’n fraint gallu rhannu fy mrwdfrydedd am fioleg môr mewn cymaint o ffyrdd amrywiol. Edrychaf ymlaen at barhau i wneud hynny!