Yn ogystal â'ch ffioedd astudio, mae angen i chi ystyried costau ychwanegol llety a byw.
Mae Bangor yn un o'r dinasoedd rhataf ym Mhrydain i fyfyrwyr. Mae'r costau llety'n amrywio o rhwng £70-£105 yr wythnos yn y sector breifat (heb gynnwys biliau), yn dibynnu ar y math o lety, a rhwng £100-£162 yn llety'r Brifysgol (gan gynnwys biliau gwasanaeth).
Mae nifer o opsiynau; yn amrywio o ystafelloedd unigol mewn tai preifat a fflatiau, neuaddau yn y sector breifat a neuaddau preswyl y Brifysgol.
Mae 'cost byw' yn cyfeirio at gostau angenrheidiol yn ychwanegol i'r ffioedd dysgu a llety; bwyd a diod, llyfrau a deunydd astudio, dillad a gwasanaethau ac adloniant.