Cwrs MOOC yr Ymarfer a’r Ymddygiadau Gorau i Atal Heintiau
Ar restr fer Gwobrau'r Nursing Times 2020
Diolch am ddangos diddordeb yn MOOC Atal Heintiau Prifysgol Bangor. Cwrs ar-lein yw hwn dros 8 wythnos.
Bob wythnos, byddwch yn gwneud uned ddysgu wahanol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo’r arferion a’r ymddygiadau gorau sy’n ymwneud ag atal heintiau. Mae angen oddeutu awr o'ch amser yr wythnos ar gyfer pob uned.
Mae dau fforwm trafod i ymuno â nhw dros y 8 wythnos ac o gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd gennych dystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus o 10 awr. Does dim tâl am y cwrs.
E-bostiwch Tracey Cooper i gadw lle. Mae tystysgrif Prifysgol Bangor ar gael i'w phrynu ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus.
Pynciau'r uned ddysgu yw:
1. Egwyddorion atal heintiau (Arwyddocâd byd-eang a lleol haint, HCAI ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Effaith haint ar bobl/cleifion/cymdeithas)
2. Rhoi tystiolaeth ar waith (Ymarfer ar sail tystiolaeth, ffynonellau tystiolaeth, ansawdd y gofal y mae pobl yn disgwyl ei dderbyn)
3. Gwybod a ydych chi'n gwneud gwahaniaeth (Safonau a chanllawiau, archwilio, gwyliadwriaeth ac adborth. Bwrdd Trafod)
4. Newid ymddygiad (Newid ymddygiad, sut y dysgwn ymddygiadau, damcaniaethau ac enghreifftiau sy’n gysylltiedig ag atal heintiau)
5. Newid ymddygiad yn ymarferol (Newid ymddygiad yn ymarferol. Dylanwadau ar ymddygiad)
6. Deall cyd-destun gwaith (gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, diwylliant y gweithle a rheoli heriau)
7. Arwain y ffordd (Dulliau ac egwyddorion arweinyddiaeth sy'n berthnasol i atal heintiau)
8. Rôl yr hyrwyddwr (Beth yw hyrwyddwr a hyrwyddo atal heintiau)
9. Sicrhau pwysigrwydd gwella ansawdd (Offer a thechnegau gwella ansawdd, cymhwysedd ymarferol)
10. Dod â'r cyfan ynghyd (Bwrdd Trafod)
Adborth gan gyfranogwyr blaenorol y cwrs:
“Mae'r cwrs wedi helpu rhoi syniadau imi sut y gallaf ddatblygu fy rôl.”
“Mae'r MOOC hwn yn hollol briodol gan fy mod yn gallu cael mynediad ato a dysgu unrhyw bryd ac unrhyw le. Mae'r cwisiau a'r fforymau trafod yn cynnig llwybr i rannu syniadau a dysgu oddi wrth gyfranogwyr eraill."
“Mae'r platfform ar-lein, cynllun y cwrs a'r deunyddiau’n hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch”
“Rwyf wedi dysgu llawer, a gallaf fwrw trem yn ôl am gefnogaeth a syniadau i wella fy maes gwaith.”
"Roeddwn i'n meddwl bod y cynnwys yn wych. Ailadrodd ac atgoffa o'r hyn a wyddwn i eisoes, yn ogystal â gallu deall sut i'w roi ar waith."
"Llongyfarchiadau a da iawn chi am hyrwyddo diogelwch y cleifion trwy system hygyrch a hynny trwy ymarfer addysgol hynod gadarnhaol."
"Mae'r holl feysydd dan sylw’n berthnasol i'm gwaith. Hefyd bu cyfle i wella fy ngwybodaeth am rai pethau na fyddaf yn eu gwneud bob dydd."