Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd 2022
Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd mewn lleoliad bendigedig gan gynnwys prif adeilad hanesyddol y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor, traethau Ynys Môn a mynyddoedd Eryri, a enwyd yn ddiweddar y 'parc cenedlaethol harddaf yn Ewrop'
- Gwersi meistr wrth draed arbenigwyr o fri rhyngwladol mewn ystod o feysydd pwnc, gan gynnwys: gwerthuso ymyriadau cymhleth, dylunio treialon; economeg iechyd; ethnograffeg gofal iechyd; dulliau'n seiliedig ar y celfyddydau; ac ymchwil cyfranogol
- Siaradwr gwadd arbennig
- Cyfle i gyflwyno'ch ymchwil
- Diwrnod datblygu gyrfaoedd
- Oriau sy'n cyfri at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Tystysgrif presenoldeb
Cost £85
Mae’r cofrestru'n cynnwys cinio nos yr ysgol haf ar gyfer mynychwyr a staff yn y Lolfa foethus y Teras
Llety ar gael:
Sesiwn Lawn gyda’r Siaradwr Gwadd
Dr Oli Williams

Mae Oli Williams wedi ymrwymo i ddefnyddio ymchwil i ysgogi newid cymdeithasol sy'n hyrwyddo canlyniadau teg. Cymdeithasegydd ydyw ac mae wedi derbyn Cymrodoriaeth West Dan Hill NIHR CLAHRC mewn Tegwch Iechyd. Mae bellach wedi'i leoli yng Ngholeg y Brenin Llundain ar ôl derbyn cymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan yr Healthcare Improvement Studies Institute. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd, hybu ffyrdd iach o fyw, 'gordewdra', stigma pwysau, ymyrraeth deg, a dulliau cyfranogol. Ym mlwyddyn olaf ei astudiaethau doethurol, cyd-sefydlodd Oli’r grŵp celf Act With Love (AWL) sy’n gweithio ar y cyd ag artistiaid a dylunwyr i fynd i’r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol (www.actwithlove.co.uk). Gan weithio gyda’r darlunydd Jade Sarson fe aethant ati i gyd-greu comig ar sail tystiolaeth o’r enw ’The Weight of Expectation' sy'n dangos sut mae stigma sy'n gysylltiedig â phwysau corff a maint yn mynd o dan groen rhywun ac yn cael ei deimlo i’r byw. Mae'r comig yn cael effaith yn rhyngwladol. Caiff ei ddefnyddio mewn rhaglenni addysg feddygol a chan wasanaethau iechyd ledled y byd i gefnogi ymdrechion ymarferwyr presennol i wella safonau gofal ac i addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol am effeithiau andwyol stigma pwysau. Yn 2018 dyfarnodd Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain Wobr Darlith Gwyddorau Cymdeithas Margaret Mead i Oli i gydnabod ei waith ar stigma pwysau ac yn 2020 enillodd project The Weight of Expectation y categori 'Best Doctoral or Early Career Research' yng ngwobrau Dyniaethau Meddygol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Gellir archebu llety moethus, os oes angen, yn y Ganolfan Rheolaeth sy'n cynnig golygfeydd o'r Fenai ac Ynys Môn.