Drwy gofio am Brifysgol Bangor yn eich ewyllys, gallwch sicrhau bod y cyfoeth rydych wedi ei gasglu yn ystod eich bywyd yn parhau i fod o fudd i eraill.
Ers ei sefydlu yn 1884, mae Prifysgol Bangor wedi elwa o ddyngarwch unigolion a sefydliadau hael. Roedd sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, oedd yn cynnwys cyfraniadau gan chwarelwyr lleol a oedd yn cyfrannu cyfran o'u cyflogau wythnosol, yn ganlyniad uniongyrchol i ymgyrch dros ddarpariaeth addysg uwch yng Nghymru, ac fe ddarfu i roddwyr ar bob lefel wneud y peth yn bosibl. Roedd y rhoddwyr hyn yn gweld pwysigrwydd ac angen sefydliad addysgiadol ac mae llwyddiant Bangor heddiw yn destament i weledigaeth ac uchelgais ein cefnogwyr cyntaf.
Mae arbenigedd Prifysgol Bangor, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, yn ymestyn o raglenni sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y celfyddydau a'r dyniaethau, busnes a gwyddorau cymdeithas, ffisegol a naturiol, a gwyddorau iechyd ac ymddygiad hyd at feysydd newydd fel gwyddorau meddygol.
Rydym yn falch fod canfyddiadau ein hymchwil ragorol o fudd i'r gymuned leol yn ogystal â’i bod yn cael ei chydnabod yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Er mwyn ein cynorthwyo i barhau i ddarparu cyfleoedd i'n myfyrwyr a gwella ansawdd ein haddysgu a'n hymchwil, hoffwn i chi ystyried y rhan y gallech chi ei chwarae drwy adael rhodd i’r brifysgol yn eich ewyllys.
Mae cymynroddion yn cefnogi sawl agwedd ar ein gwaith, yn cynnwys ysgoloriaethau a bwrsariaethau, swyddi a rhaglenni academaidd ac adnoddau llyfrgell. Maent o gymorth hefyd i ddiogelu ac adnewyddu ein gwaddol a’n treftadaeth bensaernïol, fel Prif Adeilad y Brifysgol, sy’n adeilad rhestredig Gradd I. Mae ymrwymiadau hael ein rhoddwyr yn ein cynorthwyo i gynllunio’n hyderus ar gyfer y dyfodol.
Mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo'n aruthrol ers ei sefydlu a, gyda'ch help chi, gallwn sicrhau y bydd ein rhagoriaeth yn parhau.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am ein Rhaglen Gymynroddion.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gadael rhodd yn eich ewyllys, cysylltwch â Paula Fleck