Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd
Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd mewn lleoliad bendigedig gan gynnwys prif adeilad hanesyddol y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor, traethau Ynys Môn a mynyddoedd Eryri, a enwyd yn ddiweddar y 'parc cenedlaethol harddaf yn Ewrop'
- Gwersi meistr wrth draed arbenigwyr o fri rhyngwladol mewn ystod o feysydd pwnc, gan gynnwys: gwerthuso ymyriadau cymhleth, dylunio treialon; economeg iechyd; ethnograffeg gofal iechyd; dulliau'n seiliedig ar y celfyddydau; ac ymchwil cyfranogol
- Siaradwr gwadd arbennig
- Cyfle i gyflwyno'ch ymchwil
- Diwrnod datblygu gyrfaoedd
- Oriau sy'n cyfri at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Tystysgrif presenoldeb
Cost £90
Mae’r cofrestru'n cynnwys cinio nos yr ysgol haf ar gyfer mynychwyr a staff yn y Lolfa foethus y Teras
Llety ar gael:
Sesiwn Lawn gyda’r Siaradwr Gwadd:

Dr Rebecca Lynch
Canolfan Wellcome ar gyfer Diwylliannau ac Amgylcheddau Iechyd
Prifysgol Caerwysg
Anthropolegydd yw Dr Rebecca Lynch ac mae diddordeb ganddi mewn cyrff a biofeddygaeth, a sut mae'r rheini’n cael eu llunio a'u categoreiddio mewn gwahanol gyd-destunau. Cwblhaodd Rebecca radd PhD mewn Anthropoleg Gymdeithasol yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) ac mae bellach yn ddarlithydd mewn anthropoleg feddygol yng Nghanolfan Wellcome ar gyfer Diwylliannau ac Amgylcheddau Iechyd lle mae'n arwain y thema Cwrs Bywyd. Mae ymchwil Rebecca’n archwilio'r corff deinamig, cyfnewidiol, hylifol a'i ffiniau, agweddau moesol ar iechyd a meddygaeth, a chategoreiddiadau (bio)feddygol (gan gynnwys y rhai a grëir trwy syniadau am risg a thechnolegau iechyd). Mae ei gwaith maes presennol mewn gwahanol leoliadau yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn iechyd y cyhoedd ac ym maes gofal a rheoli cyflyrau cronig.
Mae Rebecca yn gyd-ymchwilydd (sy’n arwain elfen y gwyddorau cymdeithas) ar ddau broject a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), ar ofalu am glefyd yr afu, a thechnolegau newydd i fonitro symptomau asthma. Hi yw cyd-olygydd y gyfres lyfrau 'Health, Technology and Society' gyda'r Athro Martyn Pickersgill (a gyhoeddwyd gan Palgrave), ac mae’n aelod o fwrdd golygyddol Anthropology and Medicine.