Yn ystod ymweliad i Brifysgol Bangor ar Ddiwrnod Agored, cewch y cyfle i ymweld ag Ysgolion Academaidd, darganfod mwy am ein cyrsiau, cyfarfod a staff a myfyrwyr presennol, gweld yr adnoddau a chyfleusterau sydd gennym i gynnig ac edrych o gwmpas ein Neuaddau preswyl.
Fideo: Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored
Amseroedd gweithgareddau
Mae gweithgareddau'r Diwrnod Agored yn dechrau am 10am ac yn gorffen tua 4.30pm, ond gallwch gyrraedd a chofrestru o 9.15am ymlaen. Mae'r cofrestru'n cymryd lle ym Mhrif Adeilad y Brifysgol. Cewch raglen y dydd ychydig o wythnosau cyn y Diwrnod Agored, ac mae'n cynnwys amseroedd holl ddigwyddiadau'r diwrnod. Am syniad o beth i'w ddisgwyl, edrychwch ar y rhaglen.
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
Os ydych yn bwriadu ymweld â'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd bydd staff academaidd ar gyfer y cyrsiau yn bresennol ar DDAU safle gwahanol (Bangor a Wrecsam) a bydd y safle y bydd angen i chi fynd iddo yn dibynnu ar y cwrs a ddewisiwch. Mwy o wybodaeth...
Cynlluniwch o flaen llaw!
Mae gan y Diwrnod Agored amserlen wedi ei strwythuro ac mae'n rhaid i chi fynychu sesiynau sydd wedi eu trefnu ar amseroedd arbennig. Cewch fanylion o'r union amseroedd yn eich rhaglen Diwrnod Agored a bydd yr adran Cwestiynau a Ofynir yn Aml yn rhoi darlun gwell i chi o strwythr y diwrnod a beth ddylech ddisgwyl.
Darllenwch drwy raglen y diwrnod cyn i chi gyrraedd er mwyn i chi wybod pryd mae'r gweithgareddau'n cael eu cynnal. Penderfynwch beth yn union ydych eisiau ei weld a'i wneud cyn cyrraedd. Darllenwch ein 'top tips' am gyngor ar sut i wneud y mwyaf o'ch Diwrnod Agored.
Ar Ddiwrnod Agored cewch wybod mwy am...
- Astudio drwy'r Gymraeg
Cewch wybodaeth am astudio drwy'r Gymraeg yn ystod y Cinio i'r Cymry am 12.15pm.
-
Llety
Cynhelir teithiau bws i'r neuaddau preswyl rhwng 11am - 4.30pm a chewch edrych o amgylch un o'n fflatiau myfyrwyr. Cewch hefyd wybodaeth am sut i wneud cais am lety yn ystod y cyflwyniad Llety ym Mangor am 1.15pm.
-
Cyllid Myfyrwyr
Bydd ein cynghorydd ariannol ar gael i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gyllid myfyrwyr a pha gymorth sydd ar gael. Cynhelir cyflwyniadau am 12.30pm a 3.15pm.
-
Undeb y Myfyrwyr
Cewch wybod mwy am Undeb y Myfyrwyr a sut maent yma i'ch helpu drwy ymweld a'u stondin yng nghyntedd Prif Adeilad y Brifysgol.
-
Adnoddau Chwaraeon
Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn golygu fod Canolfan Brailsford yn cynnig offer a chyfleusterau ffitrwydd o'r radd flaenaf. Cewch wybod mwy ar y stondin yng nghyntedd Prif Adeilad y Brifysgol a chewch hefyd ymweld â'r ganolfan.
Mae myfyrwyr sy'n byw yn neuaddau'r Brifysgol yn derbyn aelodaeth am ddim o'r gampfa a Champws Byw!