Cyngor ar gyfer y Diwrnod Agored

Ar ôl cyrraedd

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
  • Dilynwch yr arwyddion parcio a chludo i’r meysydd parcio ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol NEU i’r rhai sydd angen lle parcio ceir i'r anabl, dewch yn syth i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg.
  • Y peth cyntaf fydd rhaid i chi ei wneud ar ôl cyrraedd yw mynd i’r 'ardal fewngofnodi', sydd mewn pabell fawr tu allan i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg. Bydd staff a myfyrwyr ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol yn eich cyfeirio at y bysiau parcio a chludo - neu gallwch gerdded trwy adeilad Pontio ac i fyny'r bryn i'r prif adeilad.
  • Pan fydd y meysydd parcio ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol yn llawn - neu os byddwch yn cyrraedd ar ôl 10.30am - ewch yn syth i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg lle gwnaiff aelodau staff eich cyfeirio at y lleoedd parcio ceir sydd ar gael.
  • Ar ôl cyrraedd y prif adeilad ar Ffordd y Coleg, ewch i’r 'ardal fewngofnodi' yn y babell fawr. Bydd staff yno i'ch cyfarch a'ch cyfeirio at ran nesaf eich diwrnod.
  • Ar ôl i chi fewngofnodi gyda staff yn y babell fawr, os byddwch yn ansicr ynglŷn â ble i fynd neu beth i'w wneud nesaf, gofynnwch i unrhyw un fydd naill ai’n gwisgo crys-t Bangor piws (myfyrwyr) neu grys-t gwyrddlas Bangor (aelodau staff).
  • Byddwn yn darparu fersiwn brintiedig o'r rhaglen i chi i’w defnyddio trwy gydol y dydd.

Trwy gydol y dydd

  • Byddwch yn gallu gwneud yn fawr o’r diwrnod agored os byddwch eisoes wedi penderfynu pa weithgareddau rydych eisiau mynd iddynt.
  • Rydym yn cynnig cyflwyniadau pwnc trwy gydol y dydd i roi cyfle i chi fynd i fwy nag un cyflwyniad pwnc.
  • Byddwch yn barod i bethau fod yn brysur ar brydiau - mae ein Diwrnodau Agored yn denu niferoedd mawr yn rheolaidd.
  • Cofiwch fod rhaid i ni gyfyngu ar niferoedd ar gyfer rhai cyflwyniadau a theithiau, ond bydd y gweithgareddau'n cael eu hailadrodd trwy gydol y dydd.
  • Byddwch yn barod i fod yn hyblyg - os bydd y cyflwyniad pwnc cyntaf byddwch eisiau mynd iddo yn llawn, cewch eich cyfeirio i gyflwyniadau eraill fel cyflwyniad yr is-ganghellor neu'r cyflwyniad llety neu efallai yr hoffech fynd ar un o’r teithiau yn lle gwrando ar gyflwyniad.
  • Gall dewis mynd i wrando ar gyflwyniad pwnc ar amser gwahanol hefyd olygu y bydd y sesiwn yn dawelach, gan roi mwy o amser i chi ofyn cwestiynau neu siarad â staff a myfyrwyr.
  • Cofiwch ymweld â'r Arddangosfa Diwrnod Agored yn Neuadd Prichard-Jones (Neuadd PJ, Prif Adeilad). Mae'r arddangosfa yn dwyn ynghyd yr holl ysgolion/colegau academaidd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi yn yr un lle. Er enghraifft, os oes gennych gwestiwn penodol am ofynion mynediad cwrs, os ydych eisiau gwybod mwy am gymorth anabledd, neu gael gwybod mwy am gyfleusterau chwaraeon neu glybiau a chymdeithasau rhad ac am ddim Undeb y Myfyrwyr - bydd y stondinau arddangos perthnasol yn Neuadd PJ gyda staff a myfyrwyr yno i ateb eich cwestiynau.
  • Gwnewch yn fawr o’r cyfle i siarad â myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau a dweud wrthych am eu profiad o astudio'r cwrs hwnnw.
  • Peidiwch â gadael yn gynnar - cofiwch sicrhau eich bod yn gweld popeth y gallwch ei weld, bydd yn werth chweil i chi.
  • Gwnewch nodiadau a thynnwch luniau ar eich ffôn i helpu i gofio pethau’n nes ymlaen.
  • Mae’r lleoliadau a'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y Diwrnod Agored wedi eu hamlygu ar y rhaglen, ond os ydych yn ansicr ble i fynd neu beth i'w wneud nesaf, gofynnwch i unrhyw un naill ai mewn crys-t piws Bangor (arweinwyr cyfoed) neu grys-t gwyrddlas Bangor (aelodau staff).
Coffee machine in a cafe

Bwyd a Diod

  • Darperir te a choffi am ddim trwy gydol y dydd yn yr ardal arddangos yn Neuadd PJ yn y Prif Adeilad.
  • Mae lleoedd bwyta’r brifysgol wedi eu marcio ar y map ar dudalen 11 yn y rhaglen, Maent ar agor rhwng 9am a 4pm ac yn derbyn taliadau â cherdyn yn unig. Gallent fod yn llawn ar yr adegau prysuraf, felly ystyriwch gymryd cinio yn gynharach neu'n hwyrach efallai.
  • Ym Mhrif Adeilad y Brifysgol mae Caffi Teras, sy'n  gwerthu rholiau brecwast a chacennau yn y bore a phryd poeth y dydd, cawl cartref, brechdanau, paninis a byrbrydau yn y prynhawn. 
  • Yn adeilad Pontio, mae Cegin ar lefel 2, yn gwerthu Bagels, pitsa, cawl cartref, salad, tatws trwy’u crwyn, byrbrydau a chacennau a Ffynnon ar y llawr isaf, yn gwerthu diodydd poeth ac oer, brechdanau a byrbrydau.

SUT I GYRRAEDD Y DIWRNOD AGORED

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Mae rhaglen y Diwrnod Agored yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys beth sydd ymlaen ac yn lle.

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?