Wedi i chi wneud cais drwy UCAS i Brifysgol Bangor, byddwch yn derbyn gwahoddiad gan yr Ysgol Academaidd i fynychu Diwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn gyfle i chi gael gweld y Brifysgol a chyfarfod staff a myfyrwyr.
Bydd rhai Ysgolion academaidd yn anfon gwahoddiad i chi pan fyddant yn cadarnhau eu bod yn cynnig lle i chi, er bod manylion llawn y cynnig yn cael ei anfon atoch gan UCAS.
Bydd ysgolion eraill yn eich gwahodd am gyfweliad (sydd fel arfer yn cynnwys cyfle i chi weld yr Ysgol a hefyd cael taith o amgylch y Brifysgol) cyn cynnig lle i chi.