Y Ganolfan Rheolaeth
Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn rhan o Ysgol Busnes Bangor, ac yn cynnig ystod eang o gymwysterau ôl-radd a busnes a gydnabyddir gan ddiwydiant, ac a fydd yn datblygu eich medrau a'ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae cymwysterau'n cynnwys rhaglenni Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Hyfforddi a Mentora, Cyfrifeg (ACCA) a Phrynu a Chyflenwi (CIPS).
Agorwyd y Ganolfan yn 2008, ar ôl cael cymorth o'r Undeb Ewropeaidd, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae wedi hen sefydlu'i hun fel darparwr cyrsiau rhan-amser a phroffesiynol yn rhanbarth Gogledd Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.
Ewch i wefan y Ganolfan Rheolaeth.
MBA Bancwr Siartredig
Mae'r MBA Bancwr Siartredig yn gymhwyster newydd arloesol sy'n rhoi cyfle ichi ennill cymhwyster deuol MBA a statws 'Bancwr Siartredig' sy'n cael ei wobrwyo gan y Sefydliad Bancwyr Siartredig. 'Bancwr Siartredig' yw'r cymhwyster proffesiynol uchaf sydd ar gael i fancwyr ar draws y byd.
Mae'r MBA Bancwr Siartredig byd eang wedi ei ddylunio ar gyfer unigolion proffesiynol prysur o fewn y sector gwasanaethau ariannol ac mae’r addysg yn cael ei ddarparu drwy ddysgu o bell gan Ysgol Busnes Bangor.
Academi Busnes Gogledd Cymru
Menter newydd gyffrous yw Academi Busnes Gogledd Cymru (North Wales Business Academy - NWBA) a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), drwy Lywodraeth Cymru am dair blynedd. Nod y rhaglen yw annog twf busnesau a'u hawydd i gystadlu drwy alluogi cyflogwyr yn rhanbarth Gogledd Cymru i adnabod a mynd i'r afael ag anghenion hyfforddiant penodol eu sefydliad.
Darganfyddwch mwy am Academi Busnes Gogledd Cymru.
Rhaglen Twf Busnes 20Twenty
Mae Rhaglen Twf Busnes 20Twenty yn ymwneud â datblygu arweinyddiaeth a thwf busnes. Y nôd yw datblygu y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, darpar reolwyr ac entrepreneuriaid. Mae Rhaglen Twf Busnes 20Twenty wedi'i rhan-gyllido hyd at 70% o'r gost gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac ar gael i fusnesau bach i ganolig (BBaCh) ynghyd â chwmniau mwy wedi'u lleoli yn Wrecsam, Sir y Fflint a Gogledd Powys. Dyluniwyd y rhaglenni i helpu sicrhau twf proffidiol a chynaliadwy trwy roi'r sgiliau i reolwyr ac arweinwyr gyflawni gwell effeithlonrwydd, cynllunio strategaethau twf a gweithredu nodau ehangu.
Dysgwch fwy am Raglen Twf Busnes 20Twenty
Arweinyddiaeth ION
Mae Prifysgol Bangor wedi lansio cyfres o raglenni arweinyddiaeth newydd i fusnesau sydd eisiau datblygu a gwella eu sgiliau arweinyddiaeth. Caiff rhaglen Arweinyddiaeth ION ei chefnogi â £2.7m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i wella sgiliau a datblygu cynhyrchiant a throsiant busnesau bach a chanolig eu maint yn ogystal â chwmnïau mwy. Mae'r rhaglen hon yn dilyn o lwyddiant rhaglen LEAD Cymru, sydd ers 5 mlynedd wedi creu 2,424 o swyddi ac wedi cynhyrchu £52,433,908 o gynnydd net yn nhrosiant busnesau o Gymru.