Mae Ysgol Busnes Bangor yn hysbysebu interniaethau a swyddi'n rheolaidd i fyfyrwyr. Dyma rai o'r swyddi a gafwyd gan fyfyrwyr yn ddiweddar:
- Prifysgol Bangor: Cynllun Interniaeth i Israddedigion
- Gwlad yr Ia: lleoliadau diwydiannol
- Grŵp FDM: interniaethau dros yr haf
- Prifysgolion Santander: interniaeth cysylltiadau (Llundain)
- Reflexallen, Bodelwyddan: Lleoliad cyllid dros yr haf
- OPRA Cymru: Swyddog Marchnata Rhan-amser
- CCI Legal: swydd barhaol i fyfyriwr o Tsieina
- Airbus: interniaeth i fyfyriwr israddedig
- Cyllid GIG: lleoliadau gwaith i fyfyrwyr israddedig
- Prifysgolion Santander: Interniaethau â thâl rhan amser yn Faun Trackway, Llangefni
- Teach First: Swydd ran-amser
- Vitalox, Llanrug: Lleoliad 4 wythnos dros yr haf i fyfyriwr
- Stena Line: swydd dros yr haf
- Greenhouse Ltd: lleoliad gwaith dros yr haf
- PACCAR: cyfleoedd i gael lleoliadau cyllidol
- Pencadlys IASP: interniaeth
Rhoddir gwybod i fyfyrwyr am gyfleoedd a swyddi gwag drwy e-bost.
Cynllun Interniaeth i Israddedigion
Mae'r cynllun interniaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig gael profiad gwaith â thâl ar lefel graddedigion yn ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y brifysgol. Gall natur y swyddi amrywio o farchnata, cynllunio gwefan a phrojectau ennyn diddordeb myfyrwyr, i roi cefnogaeth gyda phrojectau ymchwil, gwaith maes neu reoli data.
Mae mwy o wybodaeth am y cynlluni i israddedigion i'w chael yma.
Myfyrwyr yn Gwirfoddoli
Nid yn unig mae gwirfoddoli'n werth chweil - mae hefyd yn gwella eich siawns o gael swydd ac yn ehangu eich profiad.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddfa Gwirfoddoli Myfyrwyr benodol, sydd ar hyn o bryd yn cyfrannu cyfanswm o 600 awr bob wythnos ac yn meithrin perthynas agos rhwng y brifysgol a'r gymuned leol. Mae mwy o wybodaeth i'w chael yn nhudalennau Gwirfoddoli Myfyrwyr ar wefan Undeb y Myfyrwyr Bangor.