Roedd hwn yn broject mawr a ariannwyd gan yr AHRC yn seiliedig ar gydweithrediad rhwng yr Athro Carol Tully, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau, Dr Kathryn Jones o Brifysgol Abertawe a Dr Heather Williams o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (CAWCS). Mae'r project wedi datgelu nifer helaeth o hanesion teithio i Gymru yn y cyfnod hwn, y mwyafrif ohonynt wedi'u hysgrifennu yn Ffrangeg neu Almaeneg. Roedd llawer o'r hanesion a restrir yn y gronfa ddata wedi'u 'cuddio' wrth ysgrifennu am deithiau yn Lloegr. Bu i 'Deithwyr Ewropeaidd' edrych ar amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys ffilmiau taith, llyfrau tywys, dyddiaduron, llythyrau a blogiau, ar ffurf llawysgrif a phrint. Bu i'r ymchwilwyr ganfod amrywiaeth eang o resymau pam y daeth teithwyr Ewropeaidd i Gymru: o rai'n chwilio am hafan ramantaidd, i ysbiwyr diwydiannol yn y cyfnod Fictoraidd a ffoaduriaid o'r Almaen dan y Natsïaid. Mae hyn yn ein helpu i ddeall Cymru'n well: bu i straeon am ffoaduriaid ac alltudion ymddangos, ac mae stôr o ddisgrifiadau manwl o dirweddau, adeiladau ac adfeilion Cymru wedi dod i'r amlwg. Mae'r rhain yn adnoddau hollol newydd ar gyfer astudio Cymru, ac ehangu ar yr astudiaethau o weithiau teithio i gynnwys mwy na phortreadau Saesneg eu hiaith yn unig o Gymru. http://etw.bangor.ac.uk/welcome.
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?