Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol MSocSci

Cod UCASL3L5
CymhwysterMSocSci
Hyd4 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser
Cynnig nodweddiadol96–104 pwyntiau Tariff UCAS

Rhagarweiniad i’r Cwrs

Mae'r radd Meistr Gwyddorau Cymdeithas (MSocSci) yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn rhaglen flaengar ym Mhrifysgol Bangor. Dyma'r gyntaf o'i math yng Nghymru a'r DU. Mae'n cyfuno tair blynedd o astudio is-raddedig gyda blwyddyn ychwanegol ar lefel Meistr. Rydym yn cynnig MSocSci ym mhob un o'n disgyblaethau gradd israddedig presennol.

Mae ein rhaglen MSocSci pedair blynedd newydd yn adeiladu ar drylrwyedd ein cyrsiau israddedig tair blynedd. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr eisiau graddedigion gydag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Mae'r MSocSci yn cyfuno astudio traddodiadol, gwaith tîm ac ymchwil cymdeithasol cymhwysol mewn amgylchedd dysgu bywiog.

Gan fod hon yn rhaglen isradd estynedig (a elwir hefyd yn rhaglen Meistr integredig), caiff eich pedwaredd flwyddyn o astudio ei chyllido yn yr un ffordd â thair blynedd gyntaf eich gradd israddedig.

Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer gradd BA (cydanrhydedd neu sengl) neu radd BSc (anrhydedd sengl) drosglwyddo i'r MSocSci ar ddiwedd blwyddyn 2 neu flwyddyn 3 yn amodol ar gael cyfartaledd o 50% ym mhob blwyddyn berthnasol.

Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer MSocSci drosglwyddo i BA neu BSc ar unrhyw adeg yn ystod y tair blynedd gyntaf.

Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?

  • Mae'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn cynnig amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol, ac yn eich annog i ddatblygu'ch diddordebau eich hunain.
  • Mae ein modiwlau i gyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, felly byddwch yn astudio mewn amgylchedd lle byddwch yn cyfarfod llawer o siaradwyr Cymraeg eraill.
  • Mae’r cwrs yn canolbwyntio yn arbennig ar Gymru a materion Cymreig mewn fframwaith Ewropeaidd.
  • Mae ein staff yn ymchwilwyr cydnabyddedig yn eu meysydd pwnc, ac mae gan yr uned record dda o gynhyrchu graddedigion ar gyfer graddau MPhil a PhD, gyda rhai ohonynt wedi symud ymlaen wedyn i wneud ymchwil bellach.

Cynnwys y Cwrs

Byddwch yn cael darlithoedd a grwpiau seminar bob wythnos yn ogystal â dosbarthiadau tiwtorial unigol lle bo’r angen. Byddwch hefyd yn gwneud traethodau, gwneud gwaith paratoi ar gyfer cyflwyniadau seminar, darllen, ymchwilio, dadansoddi dogfennau a gwneud gwaith cwrs arall. Os byddwch yn dilyn y cwrs fel pwnc gradd unigol, byddwch yn gwneud traethawd estynedig yn ymwneud ag ymchwil mewn maes o’ch dewis chi.

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

Mae cymdeithasegwyr yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau â’i gilydd. Mae’r cwrs gradd yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill?

Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun.

Gradd yw hon sydd yn defnyddio dealltwriaeth gymdeithasegol er mwyn eich galluogi i ddeall a beirniadu sut mae cymdeithas yn cyflenwi anghenion sylfaenol pobl drwy bolisi cymdeithasol. Byddwn yn archwilio polisïau o ran rhannu adnoddau (y system lles), rhywle i fyw (polisïau tai), hybu iechyd, a sicrhau cyfiawnder.

Byddwch yn cael cyfle i ymweld â’r Senedd a Senedd San Steffan fel rhan o fodiwl ar greu a dylanwadu ar bolisi cymdeithasol. Trwy fodiwlau arbenigol ym maes troseddeg, byddwn yn archwilio pam fod pobl yn troseddu a sut mae cymdeithas yn delio â’r canlyniadau.

Blwyddyn 1

Ar gyfer anrhydedd sengl, byddwch yn dilyn 6 modiwl gorfodol; ar gyfer gradd gyd-anrhydedd byddwch yn dilyn 4 modiwl gorfodol ym mhob pwnc gyda’r dewis o ddilyn 2 fodiwl pellach.

  • Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol
  • Cymdeithaseg a’r Byd Cyfoes
  • Sgiliau Ymchwil

Cewch hefyd ddewis o fodiwlau sydd yn adlewyrchu ein harbenigedd ym meysydd troseddeg, cynllunio ieithyddol a pholisi a chymdeithaseg iechyd. Bydd rhain yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder
  • Sgiliau Craidd yr Heddlu
  • Cyflwyniad i Gynllunio Ieithyddol

Blwyddyn 2 a 3

Yn ogystal â’r modiwlau gorfodol isod, byddwch yn gwneud nifer o ddewisiadau sy’n adlewyrchu eich diddordebau er mwyn gweithio ar draethawd estynedig.

  • Polisi Cymdeithasol
  • Theori Gymdeithasol
  • Dulliau Ymchwil
  • Traethawd Hir (gweler isod)

Mae’r dewisiadau’n cynnwys: Problemau Cymdeithasol Cymru; Gender, Trais a Throsedd; Trosedd a Chyfiawnder; LleoliadGwaith Heddlu Gogledd Cymru; CynllunioIeithyddol yn Ewrop; Polisi Cymdeithasol a Phlant; Cymuned, Iaith a Diwylliant; Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes; Hawliau Ieithyddol.

Traethawd Hir
Yn ystod blwyddyn 2 a 3 bydd pob myfyriwr yn paratoi traethawd hir. I’r sawl sydd am ddilyn gyrfa sydd yn cynnwys elfen o ymchwil fel swyddog datblygu, addysgwr neu newyddiadurwr mae’r traethawd hir yn brawf o allu i lunio darn sylweddol o waith gwreiddiol. Byddwn yn rhoi cefnogaeth lawn i’n myfyrwyr gan dynnu ar ein harbenigedd ni fel staff ac ar arbenigwyr allanol.

I’r sawl sydd am ddilyn gyrfa academaidd mae’r traethawd hir yn rhoi cyfle am gyhoeddiad cyntaf neu gyflwyniad mewn cynhadledd all arwain at gyfleoedd ariannu ar gyfer ymchwil pellach.

Blwyddyn 4

Bwriad y rhaglen MSocSci yw darparu cyfleoedd i ehangu gwybodaeth o’r pwnc trwy drafod a defnyddio ymchwil cyfredol a thrwy gyfrannu at brosiect grŵp.

  • Ymchwil Cymdeithasol ar Waith
  • Y broses Ymchwil

A dewis o ddau o’r canlynol:

  • Cynllunio Ieithyddol
  • Hawliau Ieithyddol
  • Troseddeg Fforensig

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Bydd gradd mewn Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol yn eich paratoi'n ardderchog i ddilyn gyrfa mewn ystod eang o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys: Y Gwasanaeth Prawf, Yr Heddlu, Dysgu, Ymchwil, Gwaith Cymdeithasol, Y Gwasanaeth Sifil, Y Cyfryngau, Llywodraeth Ganolog a Lleol, Llysoedd Barn a Mudiadau Gwirfoddol.

Cyflogadwyedd a’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Mae ar gyflogwyr heddiw angen meddylwyr dadansoddol ac dargyfeiriol a all chwarae rhan mewn bron unrhyw amgylchedd gwaith. O ganlyniad, mae lled a hyblygrwydd gradd gwyddorau cymdeithasol yn ei gwneud yn ddeniadol i bron unrhyw gyflogwr. Mae graddedigion o’r Ysgol wedi dilyn amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa.

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae yna amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gael i fyfyrwyr ar ôl graddio ac mae’r rhain yn cynnwys gyrfaoedd mewn gwaith cymdeithasol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth carchar a phroffesiwn y gyfraith.

Gofal Iechyd a Chymdeithasol

Bydd graddedigion Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn mynd i broffesiynau megis rheoli’r gwasanaeth iechyd, darpariaeth gofal, gwybodaeth gyhoeddus, ymchwil a gwerthuso’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Polisi Cymdeithasol

Mae graddedigion Polisi Cymdeithasol yn mynd i amrywiaeth eang o alwedigaethau o fewn maes polisi, yn cynnwys tai cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, gweinyddu llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol.

Cymdeithaseg

Mae graddedigion cymdeithaseg yn mynd i amrywiaeth eang o alwedigaethau, yn cynnwys rheoli, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, personél, dysgu ac ymchwil.

Gwaith Cymdeithasol

Bydd y rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso’n cael eu cyflogi yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae yna gyfleoedd cynyddol o fewn y sector annibynnol hefyd. Mae’r galw am weithwyr cymdeithasol gyda chymwysterau proffesiynol yn uchel iawn ac mae rhagolygon gwaith ar ôl graddio yn hynod dda.

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

Gofynion Mynediad

Mynediad yn 2018:

  • 96-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* - mae'r rhain yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

Mynediad yn 2017 (tariff newydd UCAS ar gyfer cyrsiau sy'n cychwyn ym Medi 2017):

  • 96-104 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* - mae'r rhain yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Fel arfer gellir defnyddio pob cymhwyster lefel 3 (e.e. GCE, Lefel A ac AS, VCEs a Sgiliau Allweddol) i gyfrif cyfanswm eich pwyntiau.

Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Cymwysterau nad ydynt yn y fframwaith tariff

  • Bagloriaeth Gymreig:
    Rydym yn derbyn diploma llawn y Bagloriaeth Gymreig sy’n cyfateb a 120 o bwyntiau tariff UCAS.
  • Bagloriaeth Ryngwladol:
    Fel rheol, dylech fod wei cael y diploma llawn a gall cynigion amrywio yn ôl y cwrs yr ydych wedi gwneud cais amdano.
  • Cyrsiau Mynediad a Mynediad hŷn
    Rydym yn croesawu eich cais os ydych yn gwneud cwrs Mynediad cydnabyddedig. Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hyn eraill sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2DG
Ffôn: 01248 382017

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau

Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.

Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.

Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Ffôn: 01248 382140
E-bost: gwyddoraucymdeithas@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/gc

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ymysg yr 10 uchaf

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad.

Addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf

Dewiswch brifysgol o’r radd flaenaf, sy’n cael ei chydnabod am ansawdd yr addysgu ac ymchwil. Mae Bangor ymhlith y 50 prifysgol gorau yn y DU (THE World University Rankings 2013–2014), a caiff ymchwil o’r radd flaenaf ei gynnal yma.

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2017!

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr -wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’.

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae canolfan chwaraeon Brailsford wedi ei hailddatblygu’n ddiweddar, mae llety newydd i fyfyrwyr wedi agor ym Mhentref Santes Fair.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2016.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Camau Nesaf